大象传媒

Covid-19: Staff mewn pedair ysgol wedi eu heintio

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Safle Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin

Mae pedwar aelod o staff mewn gwahanol ysgolion yn y de wedi derbyn canlyniadau positif am Covid-19.

Fe gadarnhaodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr fod achosion unigol mewn dwy ysgol - Ysgol Bryn Castell ym Mrynmenyn ag Ysgol Maesteg.

Dywedodd Cyngor Torfaen fod achos wedi ei gadarnhau yn Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands yng Nghwmbr芒n, ac fe ddywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin fod achos hefyd yn Ysgol y Dderwen yng Nghaerfyrddin.

Yn 么l cynghorau Pen-y-bont a Thorfaen nid oedd y staff oedd wedi eu heintio wedi bod mewn cyswllt gyda disgyblion.

Dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr y bydd y ddwy ysgol sydd wedi eu heffeithio yn ailagor ddydd Llun fel arfer, ond ni fydd disgyblion cyfnod allweddol pedwar yn Ysgol Bryn Castell yn dychwelyd tan 21 Medi.

Ychwanegodd fod 17 aelod o staff yn Ysgol Bryn Castell a phum aelod o staff Ysgol Maesteg wedi cael cyngor i hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Maesteg fod aelod o staff wedi profi'n bositif "o fewn y 24 awr diwethaf".

"Mae diogelwch a lles disgyblion, athrawon a staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac mae'r ysgol a'r cyngor lleol yn cydweithio i sicrhau fod yr ysgol yn ailagor fel y disgwyl wythnos nesaf ar gyfer dechrau'r tymor newydd."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Bryn Castell ym Mrynmenyn

Mewn llythyr at rieni ddydd Iau, dywedodd Ysgol Bryn Castell fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi eu cynghori fod amgylchedd yr ysgol yn ddiogel i ddisgyblion.

Dywedodd: "Rydym yn gwerthfawrogi y gallai'r wybodaeth yma greu lefelau ychwanegol o bryder i aelodau o gymuned ein ysgol sydd efallai yn teimlo fod y cyfnod o drosglwyddo i ailagor yr ysgol yn llawn yn un heriol...ac fe fyddem yn eich annog i ymestyn allan a chwilio am gefnogaeth os ydych chi neu eich plentyn yn ei chael hi'n anodd, drwy gysylltu gyda'r ysgol."

Gohirio

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr: "O achos bydd hyn yn cael effaith anochel ar wersi, mae'r ysgol a'r cyngor lleol wedi penderfynu cymryd y cam o ohirio'r dyddiad cychwyn i ddisgyblion cyfnod sylfaen pedwar."

Yn 么l Cyngor Torfaen fe fyddai "rhai" aelodau o staff Ysgol Gynradd Gymunedol Woodlands yn hunan-ynysu ond fe fyddai'r ysgol yn parhau ar agor.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'r ysgol yn parhau ar agor ac nid oes angen i unrhyw blentyn unan-ynysu, gadw draw o'r ysgol neu dderbyn prawf, os nad ydynt yn datblygu symptomau Covid-19."

Dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin fod yr ysgol a'r awdurdod yn delio gyda'r achos "yn unol 芒'i gweithdrefnau profi, olrhain ac amddiffyn".