大象传媒

'Gwneud y gorau o'ch hunain' gyda'r gr诺p Croen

  • Cyhoeddwyd
Sioned Llewelyn WilliamsFfynhonnell y llun, Sioned Llewelyn Williams

"Mae gofal croen i neud efo codi hunan-hyder a hunan-werth ac mae hynna'n mynd yn fwy amlwg fel ydan ni'n heneiddio. Dw i'n 52 a dw i ddim isho edrych fel o'n i'n 25.

"Ond mae gennai ddiddordeb yn edrych y gorau gallai yn yr oed ydw i r诺an."

Dyma pam mae Sioned Llewelyn Williams o Lanuwchlyn wedi cychwyn gr诺p Facebook o'r enw Croen. Mae'r gr诺p yn fforwm drafod drwy'r Gymraeg am golur, gofal croen a materion eraill.

Fel nifer ohonom sy' wedi cychwyn hob茂au newydd yn ystod y cyfnod clo, cafodd Sioned beth mae hi'n ei ddisgrifio fel lighbulb moment gan fod ei busnes gwyliau ger y Bala wedi cau dros y cyfnod.

Erbyn hyn mae 'na dros 4,000 o aelodau yn trafod gofal croen a gwallt, gan rannu eu harferion dyddiol, adolygiadau a chynnig cyngor i'w gilydd, yn 么l Sioned: "Mae'n rhyfeddol faint mae wedi tyfu. Dw i'n cael cymaint o negeseuon preifat gan bobl yn dweud diolch, ei fod wedi codi hyder nhw a fod nhw'n mynd trwy pethe mawr yn eu bywyd a fod Croen wedi llenwi'r twll bach yna.

"Oedd 'na elfen o ofn (wrth gychwyn y gr诺p) o gael fy ystyried yn vain achos mae Cymru mor fach a mae pawb yn nabod ei gilydd.

"Nes i s么n ar Facebook mod i'n meddwl cychwyn fforwm drafod a ges i loads o fawds i fyny. Mae 'na le bach i hwn.

"A dw i'n si诺r fod 'na skin geeks allan yna fel fi!"

Ffynhonnell y llun, Sioned Llewelyn Williams

Cymuned yn cyd-ddysgu

Mae gan Sioned nifer o straeon am aelodau'r gr诺p yn helpu ei gilydd: "Tu 么l y llenni mae 'na lot o bethau'n digwydd - pethe neis a phositif trwy fod pobl yn cael gwybodaeth am bethau - a hefyd trwy'r Gymraeg.

"Ges i neges gan ddynes yn diolch i fi. 'Oedd hi'n mynd drwy amser caled ar ddechrau locdown ac 'oedd hi wedi mynd i'w chragen, yn hollol depressed ac wedi colli nabod ar ei hun, ddim isho golchi na gwisgo.

"A dyma hi'n ffeindio Croen a dyma hi'n dweud ei fod wedi rhoi'r fizz n么l yn ei bywyd hi."

Er nad oes gan Sioned, sy'n fam i dri o blant, gymwysterau harddwch, mae hi wedi diddori mewn materion croen erioed ac wedi dysgu llawer am y maes drwy ddilyn arbenigwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd: "Ar y dechrau achos mod i'n cymaint o geekhead o'n i'n meddwl fod pawb yn gwybod am glycolic acid a retinol ond pan nes i gychwyn holi ffrindiau oeddan nhw'n dweud fod ddim syniad gyda nhw.

"Daeth hi'n amlwg mai fi 'di'r odd one out a dydy rhan fwya' o bobl ddim yn gwybod lot.

"Dyna sy'n neis yw fod nhw ddim ofn gofyn cwestiynau ar gr诺p Croen.

"Maen nhw'n dysgu be' mae gwahanol serums yn neud, maen nhw'n dysgu y rhesymeg tu 么l pethau fel double cleansio.

"Be' sy' wedi codi gymaint o confusion i bobl yw'r enw acids - pan mae pobl yn clywed yr enw acid maen nhw'n meddwl am battery acid a meddwl fod o'n beth drwg. Ond gan fod dy groen di'n hoffi gorwedd mewn ph acidic mae acid yn beth andros o dda i'r croen."

Gofalu ar 么l dy hun

Mae Sioned yn credu'n gryf mewn hunan-ofal: "Dw i ddim yn licio'r gair harddwch am ei fod yn air flimsy. Mae'n bwysig iawn o ran hunan-hyder, dydi o ddim byd i wneud efo edrych yn dlws na made-up.

"Mae gennai ddiddordeb yn edrych y gorau gallai yn yr oed ydw i r诺an. Dyna ydy g么l y mwyafrif o ferched."

Mae Sioned yn credu'n gryf nad oes angen i gynnyrch croen i fod yn ddrud: "Be' sy'n bwysig yw nad ydy hwn yn rhywbeth sy' angen costio lot o bres a does dim rhaid treulio oriau yn ei wneud o.

"Mae'r cyfnod pan oedd pawb yn mynd i Debenhams neu John Lewis a phrynu pob dim o frand drud, dw i'n meddwl fod y dyddiau hynny'n marw allan.

"Does dim angen gwario 拢80 ar bot. Ti'n gallu cael rhywbeth sy'n gwneud union yr un peth yn rhatach."

Ffynhonnell y llun, Sioned Llewelyn Williams

Mae Sioned hefyd yn awyddus i addysgu pobl am beth yw cynnwys ac effaith cynnyrch croen: "Weithiau mae rhai cwmn茂au'n anghyfrifol - mae'r gynulleidfa yn aml yn bobl ifancach ac mae ganddynt gynnyrch rili cryf ond dydy pobl ifanc ddim angen y stwff rili cryf yma.

"Mae'n rhaid i ti gael y wybodaeth o beth mae'r cynnyrch yn neud a pha mor potent ydyn nhw. Felly mae angen bod yn eitha' cyfrifol a'r unig ffordd i neud hynny yw addysgu pobl.

"Mae angen deall beth mae'r product yn ei wneud."

Mae cynnyrch o Gymru hefyd yn agos at galon Sioned, ynghyd 芒 thrio peidio defnyddio gormod o blastig: "Mae'r bariau shamp诺 a conditioner yn briliant a dw i ddim yn gweld unrhyw reswm i brynu shamp诺 potel arall.

"'Dan ni gyd angen mynd yn 么l i bar o sebon."

O nerth i nerth

Mae Sioned wrth ei bodd gyda llwyddiant y gr诺p: "Dw i'n dysgu llwyth o'r gr诺p a dw i'n gwybod fod pobl eraill yn cael lot allan ohono.

"Taswn i ddim yn cael dim byd allan o'r gr诺p faswn i ddim yn passionate amdano fo.

"Dw i'n cael rial hwyl yn neud o."

Hefyd o ddiddordeb