Covid-19: Merthyr Tudful 'ddim yn bell ar 么l Caerffili'
- Cyhoeddwyd
Merthyr Tudful, o bosib, fydd yr ardal nesaf yng Nghymru i weld cyfnod clo lleol yn sgil cynnydd yng nghyfran achosion coronafeirws, yn 么l arbenigwr data iechyd.
Yn yr wythnos ddiwethaf, roedd 4.4% o brofion Covid-19 yn y dref ac o'i chwmpas yn bositif.
4.8% yw cyfran y profion positif yng Nghaerffili - ardal cyfnod clo lleol cyntaf Cymru.
Mae'r gyfradd yn 3.1% yn Rhondda Cynon Taf, ble mae'r AS lleol, Chris Bryant wedi rhybuddio fod cyfnod clo lleol yn bosib "erbyn y penwythnos" os fydd nifer yr achosion yn parhau i godi.
Ond dywedodd cyn-bennaeth dadansoddi data iechyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Jamie Jenkins: "Os edrychwch ar y data ar draws Cymru gyfan, Merthyr Tudful yw'r fan fyddech chi'n fwy pryderus yn ei chylch, nid Rhondda Cynon Taf.
"Dros y saith niwrnod diwethaf ym Merthyr, roedd 4.4% o'r profion yn bositif, sydd ddim yn bell tu 么l i Gaerffili, ac mae nhw ond wedi cwblhau hanner nifer y profion.
"Mae llai o bobl yn trafod Merthyr na Rhondda Cynon Taf am fod y niferoedd yn llai ond mae awdurdod lleol Merthyr yn llai o lawer.
"Os rydych yn edrych ar y risg o ble all weld cyfyngiadau lleol nesaf, Merthyr yw hynny, debyg... o ddilyn yr un egwyddor o edrych at yr ystadegau."
Mae nifer y profion positif ar draws Cymru "hefyd yn bryder", medd Mr Jenkins, gyda'r gyfran yn dyblu o 1% i 2% yn y pedair wythnos ddiwethaf.
Ymddygiad 'anghyfrifol' rhai
Dywedodd arweinydd Cyngor Merthyr, y cynghorydd Kevin O'Neill, bod ymddygiad "anghyfrifol" rhai sydd wedi dod yn 么l o'i gwyliau ond heb hunan ynysu yn golygu bod y rhai mwyaf bregus yn gallu bod mewn perygl o gael yr afiechyd.
Ychwanegodd bod ymchwiliadau wedi digwydd mewn archfarchnadoedd ac y bydd camau yn cael eu gweithredu os oes angen. Dywedodd hefyd bod hyn hefyd wedi digwydd ar y cyd gyda'r heddlu mewn tafarndai er mwyn gwneud yn si诺r bod pawb yn dilyn y rheolau.
"Rydyn ni hefyd yn gweld nifer o rieni sydd yn ymgynnull tu allan i gi芒t yr ysgol. Mae angen i rieni gofio er mwyn diogelwch pawb bod angen iddynt gadw at y canllawiau cadw pellter wrth ddanfon ac yn casglu eu plant," meddai.
"Rydyn ni yn deall bod y mesurau yma ddim yn hawdd glynu atynt, a'u bod efallai yn gwneud ein bywydau gwaith a'n bywydau cymdeithasol ychydig yn fwy anodd. Ond maent yn hollol hanfodol er mwyn cadw ein cymunedau yn saff ac amddiffyn ein hunain ac eraill - gan gynnwys y rhai mwyaf bregus."
Achosion newydd
Cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Mercher fod 165 o achosion Covid-19 newydd wedi'u cofnodi mewn diwrnod, gan ddod 芒'r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau'r pandemig i 18,829.
O'r achosion newydd roedd 33 yng Nghaerffili, 20 yn Rhondda Cynon Taf a 12 ym Merthyr Tudful.
Roedd 18 o'r achosion yng Nghasnewydd a 12 yng Nghaerdydd, ac o leiaf un un achos newydd ymhob awdurdod lleol arall yng Nghymru.
Doedd dim newid yng nghyfanswm y marwolaethau yng Nghymru ers dechrau'r pandemig, sef 1,597.
Y sefyllfa ym Merthyr Tudful
34.8 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth yw'r gyfradd ar hyn o bryd.
Cafodd 21 o achosion eu cyfnodi yn y saith niwrnod diwethaf.
Mae eisoes 芒'r gyfradd uchaf o achosion, ac eithrio Wrecsam, yn dilyn clwstwr o achosion yn gysylltiedig 芒 ffatri Kepak.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i nifer fach o achosion yn ffatri General Dynamics, sy'n cyflogi dros 250 o bobl yn y dref.
Mae ymweliadau 芒 chartrefi gofal eisoes wedi dod i ben yn Rhondda Cynon Taf, ac mae nifer o archfarchnadoedd wedi cael gorchymyn i wella'u trefniadau i atal lledaeniad y feirws o fewn 48 awr wedi ymweliadau gan swyddogion iechyd y cyhoedd.
Mae clystyrau bach yn ardaloedd Porth, Penygraig a Thonypandy wedi ysgogi rhybuddion i bobl ddilyn y rheolau pellter cymdeithasol.
Ddydd Iau bydd canolfan brofi yn cael ei hagor yn y Porth ond mae'r cyngor sir yn rhybuddio bod angen i bobl archebu apwyntiad cyn dod i'r ganolfan.
Rhybuddiodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan mai dyddiau yn unig sydd gan yr awdurdodau i reoli'r cynnydd mewn achosion ac fe gafodd canolfan brofi dros dro ei sefydlu ym Mhorth.
Dywedodd hefyd fod bwriad i archwilio tafarndai hefyd i sicrhau eu bod yn dilyn y rheolau, ond eu bod yn awyddus i osgoi gorfod eu cau neu gyfyngu eu horiau.
'Anghyfrifol'
"Os rydyn ni'n parhau fel ydyn ni, yna fe fydd yna gyfnod clo arall [yn lleol], o bosib erbyn y penwythnos, oherwydd mae lleiafrif bach o bobl, yn y b么n, yn ymddwyn yn anghyfrifol," meddai AS Rhondda, Chris Bryant ar 大象传媒 Radio Wales ddydd Mercher.
"Maen nhw'n gwrthod ynysu wrth ddod adref o'u gwyliau; gwrthod cael eu profi wrth amlygu symptomau; yn mynd i feysydd caraf谩n fesul chwech, saith, wyth o deuluoedd; yn cynnal part茂on mewn tai; yn rhoi enwau ffug mewn tafarndai fel nad oes modd eu holrhain.
"Mae rhai pobl yn meddwl bod nhw a'u hanwyliaid, drwy hud, yn ddiogel rhag cael eu heintio, ond os nad ydyn ni'n cymryd hyn o ddifri, fe fydd yna gyfyngiadau o bwys, fydd yn effeithio ar fywoliaeth a sefyllfa ariannol pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020