大象传媒

Ymestyn rheolau hunan-ynysu i fwy o deithwyr o dramor

  • Cyhoeddwyd
Traeth Camilo Lagos, PortiwgalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Lloegr bellach wedi cynnwys Portiwgal ar y rhestr, yn dilyn penderfyniad tebyg gan lywodraethau Cymru a'r Alban bythefnos yn 么l

Bydd teithwyr sy'n dychwelyd o Hwngari neu ynys La R茅union yng Nghefnfor India yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod o ddydd Sadwrn ymlaen.

Mae'r ddwy wlad wedi cael eu hychwanegu at restr y gwledydd lle mae disgwyl i deithwyr aros adref am bythefnos o'r eiliad maen nhw'n cyrraedd yn 么l i Gymru.

Cafodd y mesurau - sydd hefyd yn berthnasol i deithwyr o Sbaen, Ffrainc, Portiwgal, Croatia, Awstria, rhai o ynysoedd Groeg a sawl gwlad arall - eu cyflwyno er mwyn ceisio rhwystro coronaferiws rhag ymledu.

Bydd y rheoliadau newydd yn dod i rym am 04:00 fore Sadwrn, 12 Medi.

Yn y cyfamser, mae Sweden wedi'i hychwanegu at y rhestr o wledydd sydd wedi'u heithrio o gwarant卯n ar gyfer Cymru a Lloegr, ac mae llywodraeth San Steffan wedi tynnu enw Portiwgal oddi ar y rhestr.