Gwisgo mygydau i ddod yn orfodol mewn siopau yng Nghymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mark Drakeford y byddai pobl yn cael cyfle i brynu gorchudd wyneb cyn ddydd Llun

Bydd gwisgo mygydau mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yn dod yn orfodol yng Nghymru o ddydd Llun ymlaen, yn 么l Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford ar raglen Breakfast y 大象传媒 y byddai'n cadarnhau'r newid mewn polisi yn hwyrach ddydd Gwener.

Mae hi eisoes yn orfodol i wisgo mygydau mewn siopau yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywed Mr Drakeford fod y newid wedi dod yn sgil cynnydd yng nghyfradd yr achosion o Covid-19 yng Nghymru.

O ddydd Llun ymlaen bydd hi hefyd yn anghyfreithlon i fwy na chwech o bobl o aelwyd estynedig ymgynnull dan do yng Nghymru.

'20 o bob 100,000 芒 coronafeirws'

"Fe wnaethon ni ddweud yn ein cynllun clo lleol ym mis Awst pe bai coronafeirws yn cyrraedd trothwy penodol yng Nghymru byddem yn ailedrych ar ein cyngor ar orchuddion wyneb," meddai fore Gwener.

"Heddiw am y tro cyntaf byddwn yn mynd i bwynt lle mae 20 o bobl o bob 100,000 yng Nghymru yn dioddef o coronafeirws.

"Dyna'r trothwy rydyn ni'n ei ddefnyddio ar gyfer pobl sy'n gorfod mynd i gwarantin ar 么l dod yn 么l i'r DU - ac ar 么l cyrraedd y trothwy hwnnw, heddiw byddwn ni'n gwneud defnyddio gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau a mannau cyhoeddus caeedig yng Nghymru.

"Ond os yw'r ffigwr yn cwympo yn y dyfodol, mae'r feirws yn cael ei atal i bob pwrpas os yn is na'r trothwy hwnnw, yna unwaith eto byddwn yn ailedrych ar y cyngor hwnnw."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Ychwanegodd: "Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dewis gwisgo gorchuddion wyneb pan maen nhw allan beth bynnag, yr hyn y byddan nhw'n ei weld nawr yw y bydd yn orfodol i bobl wneud hynny mewn siopau - a bydd hynny'n digwydd o ddydd Llun ymlaen, i roi cyfle i'r bobl hynny heb orchuddion wyneb i gael gafael ar rai.

"Bydd arwyddion, bydd plismona ond plismona yw'r dewis olaf. Yr hyn yr ydym am ei wneud yw addysgu, hysbysu, perswadio.

"Mae pobl yng Nghymru wedi bod mor barod i chwarae eu rhan i gadw pawb yn ddiogel fel fy mod i'n hyderus y byddwn ni'n gweld lefelau da o gydymffurfio yng Nghymru.

"Os yw pobl yn gwrthod yn fwriadol, pan fydd y rheolau wedi cael eu hegluro iddyn nhw a'r rhesymau pam maen nhw wedi'u gosod allan iddyn nhw, wrth gwrs yn y diwedd mae'n rhaid i chi allu gweithredu. Ond dyna'r dewis olaf ac nid y cyntaf."

Galw am ymestyn i ysgolion a cholegau

Er yn croesawu'r penderfyniad i wneud mygydau yn orfodol mewn siopau, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price bod angen mynd ymhellach.

"Mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru nawr wedi newid ei feddwl ar hyn," meddai.

"Ond mae 'na broblem yngl欧n ag ysgolion. Ar y funud penderfyniad i awdurdodau lleol a phrifathrawon ydy hynny, ond rwy'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ddweud bod polisi gorfodol ledled Cymru mewn ysgolion a cholegau.

Ychwanegodd bod angen bod yn fwy "eglur gyda'r cyngor ry'n ni'n ei roi ar sut i wisgo mygydau".

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod yn rhaid i'r holl fesurau sy'n cael eu cymryd i atal coronafeirws "fod yn gyfatebol i'r risg, ac am amser penodol yn unig".

"Mae'n rhaid parhau i flaenoriaeth diogelu bywydau a bywoliaeth pobl."