Golygydd Daily Post: Newyddion dibynadwy'n 'hynod bwysig'

Ffynhonnell y llun, Reach Plc

Disgrifiad o'r llun, Dion Jones ydy'r ieuengaf a'r siaradwr Cymraeg cyntaf i fod yn olygydd y Daily Post

Mae golygydd newydd y Daily Post wedi dweud ei bod hi'n "hynod o bwysig" darparu newyddiaduraeth all bobl ymddiried ynddi yn ystod cyfnod y pandemig.

Daw ei sylwadau wrth i bwyllgor Senedd Cymru gyhoeddi adroddiad ar effaith argyfwng Covid-19 ar newyddiaduraeth a'r cyfryngau lleol.

Fis diwethaf, cafodd y cwmni sydd berchen ar y Daily Post a'r Western Mail - Reach Plc - eu cyhuddo o roi llai o sylw i newyddion lleol.

Ond dywed Dion Jones - a gafodd ei benodi'n olygydd ym mis Awst - fod papur newydd mwyaf poblogaidd y gogledd yn "parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i drigolion yr ardal".

Yn 34 oed, Mr Jones ydy golygydd ieuengaf yn hanes 165 mlynedd y Post a'r siaradwr Cymraeg cyntaf i gael y swydd.

Mae'n gyfrifol hefyd am yr wythnosolion Caernarfon & Denbigh Herald, Holyhead & Anglesey Mail, a North Wales Weekly News, yn ogystal 芒 gwefan y Daily Post, North Wales Live.

"Dwi'n cytuno bod o'n hynod o bwysig cael newyddiaduraeth all pobl ymddiried ynddo fo mewn cyfnod fel hyn," meddai Mr Jones wrth Cymru Fyw.

"Mae o wedi bod yn her i drio rhoi sylw i stori mor fawr a phwysig mewn amgylchedd mor anodd i'r diwydiant yn gyffredinol.

"Ffynonellau newyddion fel y Daily Post, North Wales Live a llawer o rai eraill dros Gymru oedd yr unig gyswllt i'r byd y tu hwnt i stepen drws i lawer o bobl yn ystod dyddiau tywyll y lockdown ac felly dwi'n teimlo bod ni gyd wedi ac yn parhau i ddarparu gwasanaeth hanfodol i drigolion yr ardal a'r fro."

'Angen cefnogi'r sector ar frys'

Dywed Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod y pandemig wedi "gwaethygu problemau" newyddiaduraeth yng Nghymru ac wedi rhoi "pwysau enfawr ar ddiwydiant a oedd eisoes o dan straen".

Dywedodd Helen Mary Jones AS, cadeirydd y pwyllgor ei bod hi'n "baradocs annerbyniol, wrth i'r Senedd ennill rhagor o bwerau, fod newyddiaduraeth er budd y cyhoedd wedi encilio o Gymru".

Mae'n annog Llywodraeth Cymru i ofyn am estyniad i gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU i gefnogi'r sector yn y tymor byr, a hynny "ar frys".

"Rydym yn ymwybodol iawn bod y pandemig wedi rhoi straen enfawr ar ein sector newyddion a'r cyfryngau, a bod refeniw a ddaw o hysbysebu a gwerthu wedi diflannu, sydd wedi arwain at dorri swyddi a chwtogi ar wasanaethau," meddai Ms Jones.

"Rydym eisoes wedi gweld cwtogi ar swyddi yn Reach Plc, sef un o'r prif ddarparwyr newyddion yng Nghymru, sy'n cynnwys Wales Online, y Western Mail, North Wales Live a'r Daily Post.

"Rhaid inni weithredu nawr i atal rhagor o doriadau ac ailstrwythuro pellach, sy'n crebachu'r cyfryngau yng Nghymru."

'Y papur byth yn eilradd i'r wefan'

Mae Dion Jones - sydd 芒 chyfrifoldeb golygyddol am dros 20 o staff - yn ymwybodol fod ansicrwydd am ddyfodol swyddi o fewn y cwmni yng Nghymru.

Ond mae'n grediniol fod y gwasanaeth newyddion yn mynd i'r cyfeiriad iawn mewn diwydiant sy'n newid yn barhaus.

"Mae'n amser anodd i fusnesau'n gyffredinol ar y funud, nid jest i newyddion - ma' lockdown wedi cael effaith, dydy hynny ddim yn gyfrinach," meddai.

"Doedd pobl methu mynd allan i siop i brynu papurau neu ddim yn teimlo'n ddigon saff i 'neud. Ond ma' petha'n dechra' sefydlogi erbyn hyn.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Dion Jones fod ffynonellau newyddion fel y Daily Post hefyd yn "bwysig i ymladd cynnydd yn newyddion ffug"

"'Da ni mewn sefyllfa lle dydy pobl ddim yn gorfod disgwyl wsos, diwrnod am eu newyddion nhw hyd yn oed. Mae'n digwydd o'n blaenau'n llygad ni ac mae'n rhaid i ni addasu i hynna i drio cadw i fyny efo'r newidiada'.

"Fydd y papur byth yn eilradd i'r wefan," meddai. "Dydy o ddim a fydd o ddim yn eilradd i'r wefan ond 'da ni'n gorfod addasu i'r ffordd ma' pobl yn darllen eu newyddion.

"Ma' readership ni yn un o'r gora' per population o fewn y cwmni. Dwi'n bersonol yn gwerthfawrogi hynna.

"Mae ganddo ni d卯m sy'n byw ac yn bod yng ngogledd Cymru ac sy'n arbenigwyr ar weithio ar bapur newydd. Dwi'n trio rhannu fy amser rhwng y papur a'r wefan gora' y galla i."

Ffynhonnell y llun, Reach Plc

Disgrifiad o'r llun, "Dwi'm yn cofio adeg lle do'n i ddim isio bod yn newyddiadurwr," medd Dion Jones

Fel rhywun sydd wedi'i fagu ac sy'n dal i fyw yng Nghaernarfon, dywed Mr Jones bod "teimlad cymunedol" yn bwysig i'r papurau sydd o dan ei ofalaeth o hyd.

"Dwi'n edrych ymlaen i siarad efo lot mwy o'n darllenwyr. Fel siaradwr Cymraeg, sy'n byw a bod yn y gymuned, dwi'n hollol invested yn y gymuned," meddai.

"Mae'n job 24/7, i 'neud y job yma ma'n rhaid i chdi ga'l lot o gariad iddo, caru be ti'n 'neud neu fel arall ti ddim yn mynd i bara'n hir iawn.

"Dwi yn teimlo na hogyn o nunlla ydw i - hogyn o Gaernarfon sy'n licio newyddiaduraeth ac sydd wedi cymryd y cyfleoedd mae'r cwmni wedi'u rhoi i fi. Mae'n golygu lot i fi bod nhw wedi trystio fi i ofalu am y papur."