大象传媒

Arweinydd cyngor yn anhapus am gapasiti profion

  • Cyhoeddwyd
Rhondda sceneFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ardal Rhondda Cynon Taf wedi gweld cynnydd yn nifer y achosion positif

Dywed arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod yn gynddeiriog am reolau sy'n cyfyngu ar gapasiti profion Covid-19 wrth i'r ardal geisio atal yr haint rhag ymledlu.

Nos Wener fe wnaeth Andrew Morgan drydar fod yna "ymgyrch enfawr" i geisio sicrhau fod profion ar gael.

Dywedodd ei fod yn hynod o flin fod 'rheolau cenedlaethol' yn cyfyngu ar nifer y profion i 60.

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod wedi ymyrryd er mwyn cynyddu capasiti.

Gwnaed cais i Lywodraeth y DU am sylw.

Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fe fydd digonedd o brofion ar gael i drigolion ddydd Sadwrn a dydd Sul.

"Mae yna broblemau yn parhau gyda rhwydwaith labordai Lighthouse y DU"

"Mae trefniadau ar gyfer cynnal profion wedi ei sefydlu ar frys yn yr ardal gan y bwrdd iechyd lleol yn cydweithio gyda'r cyngor sir ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru," meddai'r llefarydd.

"Rydym yn cymryd camau brys i symud cyfleusterau cynnal profion i labordai yng Nghymru er mwyn cynyddu capasiti."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae unedau symudol wedi bod yn cynnal profion yn y Rhondda dydd Sadwrn

Ffigyrau diweddara

Yn y cyfamser, mae 164 o bobl wedi profi'n bositif i coronafierws, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Doedd yna ddim marwolaethau yn gysylltiedig 芒 Covid-19 wedi eu hadrodd yn y 11 diwrnod diwethaf.

Cyfanswm y marwolaethau yw 1,597 gyda 19,228 wedi profi'n bositif.

O'r 164 wnaeth brofi'n bositif roedd 25 yn ardal Rhondda Cynon Taf.

Dros gyfnod o saith diwrnod mae cyfradd o 37.7 bob 100,000 wedi profi'n bositif yn y sir.

Hwn yw'r pedwerydd uchaf yng Nghymru ar 么l Caerffili, Merthyr a Chasnewydd.

Beth yw'r broblem yn Rhondda Cynon Taf?

Mae'r unedau profi symudol yn rhai newydd, o dan ofal labordai Lighthouse - partneriaeth rhwng y sector breifat a Llywodraethau'r DU a'r gwledydd datganoledig.

Fel rheol maen nhw'n gallu cynnal 300 o brofion bod dydd - ond wrth i alw am y profion drwy'r DU gynyddu, fe gafodd uchafswm o 60 ei osod ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth San Steffan gynyddu'r ffigwr, ac fe gafodd ei godi i dros 150.

Mae disgwyl i Lywodraeth y DU ei godi eto ddydd Sul, i 300.

Mae uned symudol dros dros wedi ei sefydlu yng Nghwmclydach, ar gyfer trigolion Rhondda Cynon Taf yn unig.

Yn ogystal 芒 hyn mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi anfon uned symudol i'r sir.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Vaughan Gething: 'Sefyllfa anfoddhaol iawn'

Dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething nos Wener fod hyn wedi gadel Llywodraeth Cymru mewn "sefyllfa anfoddhaol iawn" wrth iddynt gael gwybod fod Llywodraeth y DU yn bwriadu gosod terfyn o 60 o borion ar unedau symudol yng Nghymru.

"Doedd hynny yn amlwg ddim yn cwrdd 芒'n hanghenion, a hefyd natur sydun y cafodd y penderfyniad ei wneud heb ymgynghori 芒 ni. "

Fe wnaeth llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS alw am weithredu brys.

Gan rybuddio Llywodraeth Cymru i beidio dibynnu ar labordai Lighthouse dywedodd fod angen i'r gweinidog iechyd fynd i'r afael 芒'r sefyllfa.

"Mae'r system brofi yn amlwg ar y dibyn," meddai.

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rhoi ei ffydd yn Llywodraeth y DU a pan mae'n dod i brofi, mae Cymru wedi cael ei siomi unwaith eto."