大象传媒

Cau ysgol: Ymgynghori dros y we yn 'sefyllfa amhosib'

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Google

Mae llywodraethwyr ysgol gynradd yng Ngwynedd yn galw ar y cyngor i atal unrhyw benderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol gyda'r bwriad i'w chau ym mis Awst y flwyddyn nesaf.

Ddydd Mawrth fe fydd cabinet Cyngor Gwynedd yn cyfarfod i benderfynu ar ddyfodol Ysgol Abersoch, ym Mhen Ll欧n.

Dywed y llywodraethwyr fod cynnal ymgynghoriad rhithiol dros y we ar ddyfodol yr ysgol yn ystod y cyfnod clo wedi eu rhoi mewn "sefyllfa amhosib".

Mae'r ysgol yn darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng tair ag wyth oed, ac mae'r plant yn trosglwyddo i ysgol gyfagos ar 么l blwyddyn tri i gwblhau eu haddysg gynradd.

Mae gan yr ysgol le ar gyfer 42 o ddisgyblion rhwng blynyddoedd meithrin a blwyddyn tri, ond ym mis Medi roedd wyth disgybl llawn amser a dau ddisgybl meithrin ar y gofrestr.

Dywed Cyngor Gwynedd fod niferoedd disgyblion yr ysgol wedi gostwng yn gyson ers 2016 "ac yn fregus ers peth amser".

Mae'r gost o addysgu disgybl yn yr ysgol dros 拢10,000 y pen yn uwch nag ysgolion cyfagos, medd yr awdurdod.

Opsiynau posib

Cafodd nifer o opsiynau posib eu trafod yn ystod cyfod o ymgynghori, gan gynnwys gwneud dim, newid ystod oed disgyblion yr ysgol o 3-8 i 3-11 oed, ffederaleiddio gydag ysgol gyfagos, a chau'r ysgol yn gyfan gwbl a chynnig lle i ddisgyblion mewn ysgol arall.

Daeth swyddogion y cyngor i'r casgliad mai'r opsiwn gorau ar gyfer ymgynghoriad pellach fyddai cau'r ysgol a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Sarn Bach.

Mewn datganiad cyn cyfarfod cabinet y cyngor, dywedodd llywodraethwyr yr ysgol eu bod dros y 12 mis diwethaf "wedi gweithio'n galed i gynyddu nifer y disgyblion, gan groesawu pum phlentyn newydd i'r ysgol ym mis Medi, ac rydym wedi agor Cylch Meithrin ar y safle.

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol, sydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a chryfhau'r iaith Gymraeg ac yng nghanol cymuned ein pentref, yn cael cyfle teg i ffynnu."

Ychwanegodd y datganiad fod y cyfnod clo wedi cael effaith ar y trafodaethau am ddyfodol yr ysgol, gan nad oedd modd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda swyddogion i ddadlau eu hachos yn llawn:

"Mae'r gofyniad presennol i gynnal ymgynghoriadau yn rhithiol wedi eithrio cyfraniadau gan fwyafrif y llywodraethwyr, rhieni a rhanddeiliaid pwysig eraill, yn ein rhoi mewn sefyllfa amhosibl.

"Anogwn Aelodau'r Cabinet... i atal unrhyw benderfyniad ar yr ymgynghoriad tan y caiff effaith ein flaengareddau gyfle i lwyddo, a phan ellir dilyn proses deg a democrataidd 芒 chynrychiolaeth lawn y rhanddeiliaid sydd 芒 diddordeb."