大象传媒

Cynnydd bychan mewn diweithdra yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Mae'r canran o boblogaeth Cymru sy'n ddiwaith rhwng Mai a Gorffennaf yn 3.1% - cynnydd bychan o'r chwarter blaenorol.

Ar draws y DU mae'r raddfa diweithdra yn 4.1%, sef yr uchaf ers dwy flynedd.

O gymharu gyda'r un cyfnod y llynedd, mae 22,000 yn llai o swyddi ar gael yng Nghymru.

Roedd gan Gymru raddfa uchel o 22.9% o bobl mewn oed gwaith sydd ddim yn chwilio am waith am eu bod yn ofalwyr llawn amser, yn fyfyrwyr, yn s芒l am gyfnod hir neu wedi ymddeol yn gynnar.

Dyna'r ail uchaf yn y DU, ac er ei fod fymryn yn is nag oedd rhwng Chwefror ac Ebrill, mae 0.6 pwynt canran yn uwch dros y flwyddyn.

Dydy'r ffigyrau ddim yn cynnwys gweithwyr sydd ar gynllun ffyrlo, pobl sydd 芒 chytundebau oriau sero ond ddim yn cael shifftiau, a phobl sydd i ffwrdd o'u gwaith heb gyflog dros dro.

Yn 么l ffigyrau'r Trysorlys, fe wnaeth 316,500 o weithwyr yng Nghymru dderbyn 80% o'u cyflogau dan gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU ym mis Mehefin.