Galw am drin trais fel 'rhywbeth heintus' i'w atal
- Cyhoeddwyd
Dylai trais gael ei drin fel rhywbeth heintus - fel clefyd - yn 么l ymgynghorydd blaenllaw.
Dywedodd yr Athro Mark Bellis o Iechyd Cyhoeddus Cymru, pe bai modd rheoli gwasgariad trais, y gallai atal pobl eraill rhag cael eu heffeithio hefyd.
Daw wrth i gynllun gael ei lansio yng Nghymru er mwyn lleihau nifer y bobl ifanc sy'n dod i gysylltiad 芒 throseddau, a'r trais sy'n deillio o hynny.
Mae cynllun mentora Action for Children - sy'n defnyddio cyn-droseddwyr a phobl oedd yn gaeth i gyffuriau i annog eraill i beidio dilyn eu hesiampl - yn cael ei ddisgrifio fel y cyntaf o'i fath yn y DU.
'Rheoli gwasgariad trais'
Dywedodd yr Athro Bellis, sy'n ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd ar atal trais, bod cynghori pobl ifanc yn gynnar yn bwysig i atal problemau rhag datblygu.
"Ry'n ni'n gwybod pan fo pobl yn gweld trais, hyd yn oed yn hwyrach mewn bywyd, maen nhw'n fwy tebygol o fynd yn dreisgar eu hunain," meddai.
"Felly mewn rhai ffyrdd fe allwch chi bron feddwl am drais fel rhywbeth heintus," meddai.
Ychwanegodd bod y broblem yn dechrau cael ei weld fel mater iechyd cyhoeddus, gyda'r systemau addysg, iechyd a chyfiawnder troseddol yn cydweithio.
"Rydw i'n credu bod Cymru yn gwneud pethau y gellir eu hystyried fel arloesol yn fyd-eang," meddai.
"Fe allwch chi ystyried trais fel rhywbeth heintus. Yn union fel clefyd, mae rhywun sy'n gweld neu'n profi trais fel plentyn neu fel oedolyn, yn gynyddol debygol oherwydd hynny i fod yn rhan o drais pellach.
"Y peth gwych am hynny ydy, pan y'ch chi'n atal trais mewn un gr诺p neu ardal fechan ry'ch chi'n ei atal rhag cael ei basio 'mlaen i gr诺p arall o bobl hefyd.
"Felly ry'ch chi'n cael budd o reoli gwasgariad y trais, nid yn unig i'r unigolyn sydd eisoes yn profi trais, ond i'r rheiny y gallan nhw eu heintio hefyd."
Bydd y cynllun tair blynedd yng Nghaerdydd yn gweithio gyda'r heddlu, ysgolion a theuluoedd i adnabod plant rhwng 11 a 18 oed sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad 芒 throseddau difrifol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017