大象传媒

Agor y cloeon - ond ar ddrysau newydd

  • Cyhoeddwyd
Karen MacIntyre HuwsFfynhonnell y llun, Karen MacIntyre Huws

Roedd teulu Karen MacIntyre Huws ymysg y cyntaf i ddechrau ynysu eu hunain ym mis Mawrth wrth i goronafeirws gyrraedd Cymru. Mae Karen a'i g诺r Mei yn cadw busnes Gwely a Brecwast a Karen yn y categori risg uwch am ei bod yn dioddef o diabetes.

Ond wrth i'r byd gychwyn ailagor, mae'r teulu wedi mentro allan unwaith eto. Ac mae Karen wedi mentro ar yrfa newydd hefyd. Sut mae hi i gamu i fyd dra gwahanol? Mae'n adrodd yr hanes wrth Cymru Fyw:

Aeth 23 wythnos heibio ers i mi adrodd gyntaf am ein dewis i fod 'dan glo'. Chwe mis diddorol, rhwystredig a phryderus ond ar y cyfan yn brofiad positif, os yw hynny'n gwneud synnwyr.

Mae 'na hen ddweud dwi'n ei hoffi'n fawr: 'O'r felltith, rhyw fendith fu' ac mae hyn yn sicr yn wir am gyfnod Covid-19 yn ein cartref ni.

Wedi union 161 o ddyddiau o ynysu ddaru ni gynnal pleidlais deuluol ar y mater o fentro allan i'r byd. A diolch i'r drefn ddaru ni guro 4-0!

Rhyddid

Er ein bod wedi laru bod adref mi roeddan ni hefyd yn amau bod ail-gloi ar y gorwel ac y dylen ni fanteisio ar gael ein traed yn rhydd am ychydig. Felly i ble fysan ni'n mynd gyntaf?

Roeddan ni eisiau gweithgaredd tu allan, a phwll nofio tu mewn, gweithgaredd gwahanol ond yn addas i'r pedwar ohonom ni. I ateb pob gofyn dyma ddewis Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, a dewis da oedd o hefyd.

Ffynhonnell y llun, Karen MacIntyre Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar y ffordd i Wersyll yr Urdd Glan Llyn

Diwrnod i'r brenin

Padl-fyrddio yn Llyn Tegid yn y gwynt a'r glaw. Saethu bwa saeth yn y gampfa, heb neb arall yno heblaw Guto, ein tiwtor tangamp. Y pwll nofio i ni'n hunain am awr ac yna am bryd o fwyd i Lanuwchllyn am bryd o fwyd blasus.

Diwrnod hyfryd. Godidog. Hwyliog. Ysbrydoledig. Daw llu o eiriau i'r meddwl gan gynnwys adenydd, hedfan ac yn y blaen.

Euogrwydd ac embaras

Rydan ni wedi bod yn gweithio ym maes twristiaeth ers bron i naw mlynedd bellach a hynny heb fawr o 'euogrwydd' os dyna'r gair. Ond gyda'r datblygiadau diweddar, y mae'r gair 'embaras' yn dod i fy ngeirfa'n amlach.

Dwi wedi teimlo cywilydd ambell dro am feddwl agor eto ac ychwanegu at y broblem o bobl yn llifo i'r ardal.

Mi ddaeth y penderfyniad i gadw ein drysau ar gau, er mor boenus ag yr oedd yn ariannol, yn fendith a dweud y gwir. Mi gododd 'na rhyw bwysau oddi arnom ni.

Er cymaint o lysgenhadon oeddan ni dros Gymru - yn cywiro ac addysgu ymwelwyr am ein hiaith a'i diwylliant fel t么n gron, roeddwn i'n falch o beidio cael unrhyw ran yn eu croesawu nhw yma eleni. Dwi o'r farn na ddylsa pobl wedi cael mentro i unman 芒 dweud y gwir, derbyn mai write-off ydi 2020 ac aros adra.

Dwi'n teimlo bod yr ail-don 'ma y clywn amdani, sydd ar y gorwel, wedi magu st锚m dros yr haf heb os. Syniad da oedd cau drysau'r B&B a does wybod pryd y byddan nhw'n agor eto, am sawl rheswm.

Hawdd fyddai beirniadu pobl eraill ym maes twristiaeth sydd wedi dewis ailagor achos maen nhw angen bywoliaeth hefyd. Ond yn ddiweddar dwi'n teimlo bod yr hen ymadrodd 'Mae pawb isio byw' wedi magu ystyr newydd. Bellach, i mi, mae'n golygu mwy o 'mae pawb isio byw drwy beidio 芒 marw'!

Dychwelyd i'r ysgol

Bu lot o bendroni am yrru'r plant i'r ysgol ac er eu lles nhw, 'rhen bethau bach, dyma gymryd mai dyna fyddai'r lle gorau iddyn nhw fod. Maen nhw wedi colli bod ymysg eu cyfoedion digon fel mae.

Wedi trafod efo nhw, ddaru nhw ddweud eu bod nhw'n awyddus i fynd ac i weld eu hathrawon. Ond maen nhw'n poeni am y feirws hefyd ac wedi dewis mwgwd c诺l bob un ac yn awyddus i'w wisgo felly mae pawb yn hapus. Os barith hynny, dyn a 诺yr!?

Ffynhonnell y llun, Karen MacIntyre Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y plant yn eu mygydau c诺l

Gyrfa newydd

Yn sgil yr ansicrwydd ariannol o fod yn hunangyflogedig mewn cyfnod pryd nad oes fawr o gefnogaeth i bobl felly, rydw i wedi penderfynu lledu fy adenydd a mentro i fyd newydd.

Rydw i wedi cychwyn cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) gyda Phrifysgol Bangor, gyda'r bwriad o fynd yn athro. Gyrfa gwbl newydd ond nid mewn byd dieithr rhywsut gan i mi dreulio blynyddoedd mewn ysgolion yn cydweithio efo plant a phobl ifanc pan oeddwn i'n cyflwyno rhaglen newyddion Ffeil ers talwm.

Ac mae cael chwe mis o ddysgu fy mhlant fy hun wedi bod yn brentisiaeth gystal 芒'r un am wn i, profiad sydd wedi cadarnhau i mi mai dyma dwi eisiau ei wneud.

Dwi'n mwynhau'r cwrs yn arw (hyd yn hyn!) ond mae cyfyngiadau Covid wedi golygu mai dros y we fydd y rhan fwyaf o'r cwrs yn cael ei gynnal yn hytrach na mewn darlithoedd yn y Brifysgol ei hun. Mi siwtith hynny fi'n iawn.

Yn lle picio am beint rhwng darlithoedd, fel y byddwn i'n ei wneud flynyddoedd yn 么l, mi fedra i stwffio llwyth o ddillad yn y peiriant golchi! Ydi, mae bywyd myfyriwr yn wahanol iawn i mi y tro hwn!

Mi fyddan ni'n cael mynd i ysgolion yn y flwyddyn newydd meddan nhw wrthan ni. Ond yn barod dwi'n nerfus braidd, os oes ail-gloi, o fod adref eto, efo dau o blant i'w haddysgu. Mi groeswn ni'r bont honno maes o law.

Maes newydd i mi felly, ac un sy'n cynnig mwy o sicrwydd ac mae Mei hefyd wedi gorfod troi'n 么l at lunio gwefannau a chyfieithu ac ati ac yn mwynhau hynny.

Ffynhonnell y llun, Karen MacIntyre Huws
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Diwrnod ar y traeth i'r teulu

Tybed felly dyma gychwyn y diwedd ar gadw lle gwely a brecwast? 'Does wybod yn iawn, ond mae byd addysg a'r gwyliau mae'r maes hwnnw'n ei gynnig yn cyd-fynd yn ddel efo prysurdeb ymwelwyr mewn ardal.

I'r dyfodol

Ac wrth edrych ymlaen, dwi'n edrych yn 么l yn aml. Mae sefyll yn edrych yn 么l o gwch yn llawn cystal 芒 bod yn y pen blaen yn edrych i gyfeiriad y daith. Mae chwe mis o fod oddi wrth y byd wedi gwneud i mi gamu n么l, pwyso a mesur, ac ystyried beth sy'n bwysig. Dwi wedi dod i'r canlyniad fy mod i'n gwneud y peth iawn.

Mae'r plant wedi bod adra am rai dyddiau wrth i mi gychwyn y cwrs. Mae Nanw'n gofyn weithiau cyn noswylio "Ydi Mam yn mynd i'r Coleg eto 'fory Dad?", a finna mond yn mynd i'r llofft drws nesaf. Wedi'r holl straeon a gafodd gen i am ddyddiau coleg, yr hwyl a'r cymdeithasu difyr, mae hi wedi drysu'n l芒n. Os ydi hi'n dymuno addysg bellach byth, nid dyma'r ffordd 'ma hi fod fy mechan fach i.

"Be' ddaw ohonyn nhw" meddan ni'n aml, ond dwi'n dueddol o ofyn "be' ddaw ohonan ni i gyd" bellach.

Hefyd o ddiddordeb