'Dysgu siarad am ein hunain'‎
- Cyhoeddwyd
Mae'r cyfnod clo wedi bod yn gyfle i arbrofi a mentro i feysydd newydd, a dyna'n union mae Tara Bethan a'i ffrind Llinos Williams wedi gwneud drwy gyd-gynhyrchu cyfres o bodlediadau yn ymdrin â heriau bywyd.
Tara Bethan sy'n cyflwyno'r podlediadau sydd yn rhoi sylw arbennig i sut mae'r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau hapus ac anodd.
Bydd pennod gyntaf 'Dewr' gyda Elin Fflur ar gael i'w lawrlwytho ar Ddydd Sul, 27 Medi, gyda naw pennod arall ar gael bob Dydd Sul yn yr wythnosau i ddilyn.
"Nath Llinos fy ffonio ar ddechrau lockdown yn dweud bod y Cyngor Celfyddydau yn cynnig grant i weithwyr creadigol llawrydd. Roedd hi wedi bod yn gwrando ar podcast iechyd meddwl ac odd hi'n meddwl fyswn i'n dda am gyflwyno rhywbeth tebyg, gan fy mod wastad wedi bod yn agored iawn am faterion iechyd meddwl.
"Dwi 'di bod yn ffrindia efo Llinos ers blynyddoedd, ond da ni erioed di gweithio efo'n gilydd ar brosiect. Diolch i brofiad Llinos fel cyn-drefnydd Tafwyl a fy mhrofiad amrywiol i o'r byd cyfryngau, roedden ni'n llwyddiannus efo'r grant.
Dewis y gwesteion
"Wrth wneud rhestr o'r bobl delfrydol fysan ni wir wedi hoffi cael ar y podcast, doeddwn i ddim yn meddwl fysan ni'n cael pawb, ond nath pawb ddweud 'ia'.
"Da ni 'di bod mor lwcus i gael arian o bot oedd wedi cael ei greu i helpu bobl oedd wedi colli gwaith yn sgil y pandemig, fel fi a Llinos, ond hefyd da ni wedi gallu rhoi gwaith i nifer o weithwyr creadigol.
"Doedd 'na ddim criteria i ddweud gwir, ond oedden ni eisiau amrywiaeth eang o bobl o ran oedran a phrofiadau. Yn sicr, roedden ni eisiau iddyn nhw i gyd gael cysylltiad â'r celfyddydau, boed hynny yn eu gwaith neu rhywbeth mae nhw'n wneud i gael pleser, achos y syniad oedd i siarad am heriau bywydau pobl, ond hefyd sut mae nhw'n delio efo'u ymennydd nhw."
Mae Tara o'r farn bod yr amodau diweddar yn golygu bod pobl yn fwy tebygol o edrych ar ôl agweddau o'u hiechyd a fyddai efallai wedi ei anwybyddu yn y gorffennol:
"Dwi'n meddwl ers lockdown ma pobl yn fwy parod neu'n fwy ymwybodol o'u iechyd meddwl nhw, ac mae'n cael ei drafod fwy dydi, achos mae pawb wedi bod yn styc yn eu tai ag ati. Mae'n amlwg bod llawer o bobl yn troi at gelfyddyd i'w helpu nhw drwy gyfnodau arbennig."
Dysgu am fi fy hun
Yn ogystal â dysgu am y bobl roedd hi'n eu holi, mae Tara'n dweud fod y broses wedi rhoi'r cyfle iddi ddysgu mwy amdani hi ei hun hefyd.
"Mae wedi bod yn siwrne ac yn lot o waith dysgu. Da ni'n griw mor fach; Llinos a fi, Cadi Jones (torri+gludo) yn gwneud y gwaith celf, a Meic Parry yn gwneud y sain.
"Dwi erioed 'di bod mor ynghlwm mewn prosiect o'r dechrau i'r diwedd â hwn. A dwi di ffeindio fo reit anodd gwrando nôl ar y sgyrsiau, achos pan dwi ynddyn nhw dwi yn y mode o wrando a thrio cael gymaint â phosib allan o'r person, tra'n gwneud iddyn nhw deimlo'n gyfforddus yr un pryd.
"Dwi'n mynd mewn iddo gymaint dwi ddim wir yn sylweddoli bod fi'n rhan ohono, ac mae dewis a dethol pa rannau i gadw fewn a dileu wedi bod yn anodd ofnadwy. Mae pobl yn cymryd, achos mod i di arfer bod ar y teledu ag ati, mod i ddim yn meindio clywed fy hun yn ôl wedyn, ond dwi'n casáu o! Mae hynny di bod yn weird!
'Teimlo dyletswydd'
"Dwi di teimlo dyletswydd mewn ffordd, achos ti'n gofyn i bobl rannu eu deepest, darkest secrets, a dwi'n un sy'n licio gwneud i bobl deimlo'n gyfforddus. Mae 'di bod yn eitha' od i fi orfod chwilota drwy pobl a gofyn iddyn nhw fynd i lefydd efallai dydyn nhw erioed di bod yn gyhoeddus o'r blaen.
"Ond dyna oedd bwriad y peth a dyna pam nathon ni alw o'n 'Dewr', achos ti'n gofyn i bobl fod digon dewr i siarad allan am eu profiadau gan obeithio bod y gwrandawyr am gael budd allan ohono fo a dysgu mai dim nhw di'r unig un sy'n teimlo fel hyn."
Mae Elin Fflur, sydd ar y podlediad cynta, yn hen ffrind i Tara: "Nes i siarad efo Elin Fflur, a da ni'n ffrindiau ers blynyddoedd. Oedden ni'n mynd drwy rhywbeth mae hi wedi ei drafod yn agored iawn yn barod, sef bod hi wedi bod yn cael triniaeth IVF.
"Ond hefyd aethon ni nôl i'r cyfnod pan nes i golli Dad, achos roedden ni'n ffrindiau mawr ar y pryd. Mi roedd o bron fel bo ni'n sbïo nôl ar ein perthynas ni, ac aethon ni'n uffernol o emosiynol achos dydi o ddim yn rywbeth mae pobl yn ei wneud fel arfer, edrych nôl ar eu profiadau gyda phobl eraill.
"Ond mi roedd 'na rywbeth rili therapiwtig amdano fo. Roedd Elin mor agored ac mor ymroddgar efo'i stori hi - nath o gymryd dyddia' i fi ddod dros yr un yna!"
"Pan wyt ti'n siarad efo rhywun, ti'n tueddu i uniaethu efo pethau. O'n i wastad eisiau i rhain fod yn sgrysiol yn hytrach na fi'n mynd drwy cwestiwn un, cwestiwn dau, ac yn y blaen. Y pwrpas yw i normaleiddio pobl yn siarad am eu bywydau a'u teimladau, ac yn amlwg mae hynny am fod yn fwy sgyrsiol na cwestiwn a holi.
"Un arall sy'n sefyll yn y cof ydy pan o'n i'n siarad efo Gai Toms, achos mae o wedi colli ei fam yn ddiweddar.
"Nath o neud albwm yn seiliedig ar fywyd Dad, ac fe wnes i deithio peth o'r albwm efo fo llynadd - felly gafon ni siwrne fawr efo'n gilydd, a dwi'm 'di gweld o'n iawn ers hynna. Yn trafod colli ei fam, nath o rili fy nharo hi, oedd o dan deimlad, o'n i dan deimlad."
'Fel sesiwn therapi'
Mae Tara'n dweud bod y y podlediadau wedi bod yn chwa o awyr iach iddi hi a'r gwesteion - rhai ohonynt fel Huw Stephens, Elin Fflur ac Hywel Gwynfryn, sydd wedi hen arfer bod ar ochr arall y meic, yn gwneud yr holi:
"Be dwi 'di mwynhau o ran y rhan 'ysgafn' o'r sgyrsiau 'ma ydi pobl fel Huw Stephens er enghraifft yn dweud "diolch nes i rili fwynhau hynna, roedd o fel sesiwn therapi". Nath hwnna neud fi'n hapus, achos dwi 'di cael lot o therapi fy hun dros y blynyddoedd a dwi'n gweld budd mawr ohono fo.
"Am ryw reswm mae fel bod gan bobl gywilydd siarad am ni'n hunain - yn enwedig fel Cymry - ond be dwi'n ffeindio'n dda am siarad am ti dy hun efo ffrindiau ydi ti bron yn cael persbectif ar dy fywyd, a ti'n sylweddoli pethau drwy jest dweud nhw allan yn uchel. Dwi'n cofio nath Hywel [Gwynfryn] ddweud yr un peth, bod o'n teimlo bod o 'di cael therapi.
"Elli di ddychmygu pa mor nerfus o'n i yn holi y bobl 'ma sydd wedi bod yn holi bobl eraill ers blynyddoedd!... Ond o'n i jest yn gorfod cael gwared ar hynna.
"Yn yr ardd oedden ni'n recordio, yn cael paned, ac oedden ni jest yn siarad efo nhw fel ffrind, a dyna o'n i wastad isho achos does 'na ddim byd gwaeth na teimlo bo' ti'n cael dy wylio tra ti'n siarad am bethau personol - dydi hynny ddim yn gwneud chdi agor fyny. O'n i isho i bobl fwynhau yr holi, o'n i ddim isho iddyn nhw deimlo bod nhw'n gorfod, neu bod nhw'n cael eu interigatio.
"Achos bo' ni wedi penderfynu gwneud hyn yn annibynnol doedd 'na byth poeni am iaith ac ati. Y ffordd dwi'n siarad, dwi'n taflu ambell air Saesneg fewn bob hyn a hyn, dwi'n rhegi weithiau, ond ma'n rhan o pwy ydw i, a dyna di'r podcast ma, gweithio allan pwy ydan ni'n hunain a derbyn ein hunain.
"Mae wedi bod yn neis dweud wrth bobl y cawn nhw ddweud unrhyw beth mae nhw eisiau, da ni ddim yn cynrychioli neb, da ni jest yma yn bod yn ni, yn siarad am ni, ac mae hynny'n ok."
Bydd 'Dewr' ar gael i'w lawrlwytho ar Ddydd Sul, 27 Medi, ac yna bob dydd Sul am naw wythnos i ddilyn.
Hefyd o ddiddordeb: