大象传媒

Rhybudd bod mwy o bobl ifanc yn rhannu lluniau noeth

  • Cyhoeddwyd
ffon symudolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae elusennau yng Nghymru yn bryderus y gallai mwy o bobl ifanc yn fod yn rhannu lluniau noeth o'u hunain i'w gilydd.

Dywed staff yr NSPCC a Meic, llinell gymorth i bobl ifanc yng Nghymru, eu bod wedi gweld cynnydd yn y fath achosion ers dechrau'r cyfnod clo.

Cred yr elusennau fod cynnydd sylweddol yn yr amser sy'n cael ei dreulio ar-lein a diffyg cyfleodd i gwrdd ag eraill wedi cynyddu'r pwysau arnynt i rannu delweddau o'r fath.

"Mae nifer o bobl ifanc eisiau eu hanfon oherwydd ei fod yn rhywbeth sydd wedi ei normaleiddio yn nhermau'r cyfryngau cymdeithasol," meddai Sabiha Azad, sy'n gweithio i linell gymorth Meic ar gyfer plant a phobl ifanc.

"Rydym hyd yn oed yn clywed am ferched yn anfon lluniau i'w ffrindiau er mwyn checkio os ydynt yn edrych yn iawn neu fechgyn yn rhannu lluniau maen nhw wedi eu derbyn gydag eraill er mwyn eu cymharu nhw.

"Mae siarad am ganlyniadau hyn mor bwysig, oherwydd dyma'r amser y gallai rhywun gymryd mantais ohonynt."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sabiha Azad: 'Angen mwy o sylw i'r risgiau sy'n wynebu pobl ifanc'

Dywed yr elusennau mai'r gred yw bod y rhan fwyaf o achosion yn ymwneud 芒 phlant 14-16 oed.

"Mae lot o bobl ifanc yn ceisio celu eu hunain, o bosib drwy beidio dangos y pen a'r wyneb.

"Ond maen nhw'n anghofio bod yna lot o bethau eraill all eu hadnabod, o bosib y papur wal, marc geni, neu'r ffaith fod eich enw wedi ei gysylltu wrth i chi ddanfon delwedd o'ch hun.

"Mae'n golygu hyd yn oed os nad oes modd eich adnabod, fe allai bobl ddyfalu mai chi yw e."

Dywed yr elusennau y gallai anfon lluniau arwain at flacmel, neu fygythiad o rannu'r lluniau gydag eraill.

Er bod ymgyrchoedd i geisio diogelu oedolion yn ystod y cyfnod clo, dyw nifer o risgiau i bobl ifanc heb gael digon o sylw, meddai Ms Azad.

"Rwy'n meddwl fod merched yn enwedig yn dioddef canlyniadau anfon lluniau, ac yn fwy tebygol o gael eu cyfeirio at arbenigwyr er mwyn cael cymorth.

"Fe wnaeth un person ddatblygu problemau gyda bwyta ar 么l i ddelwedd gael ei rannu a hynny oherwydd y sylwadau negyddol gafodd ei wneud gan bobl."

Mae'n anghyfreithlon i rai dan 18 i anfon neu dderbyn lluniau o'r fath.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffonau clyfar ac iPads wedi ei gwneud yn haws i bobl rannu lluniau

Dywedodd Chloe, nid ei henw iawn, sy'n 14 oed, iddi ddechrau siarad 芒 bachgen golygus ar ap i bobl ifanc.

"Ro' ni'n dod ymlaen yn dda ac roedd o'n gwneud i mi deimlo'n dda, gan fod bywyd adref ar y pryd yn eithaf gwael.

"Ar 么l ychydig gofynnodd am luniau noeth - felly yn lle hynny fel j么c fe gytunais i siarad yn fudur.

"Roedd y peth yn dechrau teimlo yn anghyfforddus felly fe wnes i ei flocio fo.

"Fe gysylltodd ar ap arall a dweud ei fod am gyhoeddi fy llun proffil gyda'r holl negeseuon brwnt.

"Ro'n i'n teimlo mor euog 芒 chywilydd o'n hun.

"Roedd o wedi gwneud i mi deimlo'n sbesial pan nad oedd neb arall yn gwneud.

"Dwi ddim am i neb arall ffeindio allan, oherwydd i ddweud y gwir fy mai oedd y rhan fwyaf. Dwi ddim yn gwybod be' i wneud a dwi'n teimlo mor euog."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dioddefwr arall yw Mia, nid ei henw iawn, sy'n 13 oed.

"Fe wnes i gwrdd 芒 boi ar Instagram ac fe ddatblygodd i berthynas ar y we.

"Fe waeth o fy mherswadio i anfon lluniau - rhai rhywiol.

"R诺an mae wedi bygwth rhannu'r lluniau gyda fy ffrindiau oni bai fy mod yn anfon mwy.

"Dwi di ffeindio allan ei fod yn oedolyn.

"Dwi ddim yn gwybod be' i wneud. Mae gen i ormod o ofn i ddweud wrth mam rhag ofn bod fi'n cael st诺r."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Lucy O'Callaghan fod o'n bwysig i bobl ifanc ofyn am gymorth

Dywedodd Lucy O'Callaghan, o NSPCC Cymru: "Unwaith mae person ifanc wedi anfon llun o natur rywiol mae o allan o'u rheolaeth.

"Tra eu bod mewn perthynas mae'n bosib fod cariad wedi addo peidio anfon y ddelwedd i eraill, ond weithiau pan mae perthynas yn torri mae'r ddelwedd yn cael ei rannu, ac yna o bosib yn cael ei rannu eto ac eto.

"Gall hynny arwain at fwlian gan bobl ifanc eraill. Weithiau pan mae person ifanc yn anfon un ddelwedd, maen nhw'n wynebu blacmel i anfon mwy o ddelweddau.

"Fy nghyngor yw ceisio cymorth gan oedolyn, dylai neb deimlo fod yn rhaid i chi anfon llun o'r fath."

Mae plant a phobl ifanc yn gallu siarad gyda chwnsler Childline ar-lein neu ar y ff么n rhwng 21:00 a hanner nos drwy childline.org.uk neu 08001111.