大象传媒

Teledu ail-law yn effeithio band eang pentref am 18 mis

  • Cyhoeddwyd
AberhosanFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y problemau'n dechrau am 07:00 bob bore i drigolion Aberhosan

Mae peirianwyr wedi datrys dirgelwch gan ddarganfod beth wnaeth achosi problemau band eang i drigolion pentref yn y canolbarth am 18 mis.

Roedd cyswllt y we a chyflymder araf yn broblem dyddiol i bobl Aberhosan ger Machynlleth - a hynny o 07:00 bob bore.

Bu'n rhaid i beirianwyr Openreach feddwl eto ar 么l i ymgais i ddisodli ceblau fethu 芒 datrys y broblem.

Yna fe wnaethon nhw ddefnyddio dyfais fonitro a chanfod bod y nam oherwydd ymyrraeth drydanol a oedd yn dod o deledu ail-law o d欧 yn y pentref.

Cafodd y perchennog, nad yw am gael ei adnabod, ei synnu i ganfod bod ei hen deledu yn achosi'r broblem, yn 么l Openreach.

Fe wnaeth y perchennog gytuno i'w ddiffodd a pheidio 芒'i ddefnyddio eto.

Ymyrraeth drydanol

Cerddodd peirianwyr o amgylch y pentref gyda monitor i geisio dod o hyd i unrhyw "s诺n trydanol" i helpu i nodi'r broblem.

"Ac am 07:00, dyna a ddigwyddodd," meddai Mr Jones.

"Mae'n ymddangos y byddai'r preswylydd yn troi ei hen deledu ymlaen am 7am bob bore a fyddai, yn ei dro, yn bwrw band eang allan o'r pentref cyfan."

Daeth hi i'r amlwg bod y teledu yn allyrru un s诺n impulse lefel uchel (SHINE), sy'n achosi ymyrraeth drydanol mewn dyfeisiau eraill.

Dywedodd Mr Jones nad yw'r broblem wedi dychwelyd ers i'r nam gael ei nodi.

Bydd Aberhosan yn derbyn cyswllt ffibr yn ddiweddarach eleni fel rhan o'r gwaith i ehangu'r rhwydwaith band eang ffibr yng nghefn gwlad Cymru.