大象传媒

Coronafeiriws: Dwy farwolaeth a 212 prawf positif arall

  • Cyhoeddwyd
Profi am Covid-19 mewn canolfan brosesuFfynhonnell y llun, Reuters

Mae dau yn rhagor o bobl wedi marw ar 么l cael eu heintio gyda coronafeirws, a 212 yn fwy o bobl wedi profi'n bositif.

Mae'n golygu bod 1,603 o bobl bellach wedi marw a 20,445 wedi profi'n bositif yn ystod y pandemig, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd y ddwy farwolaeth yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd.

Roedd mwyafrif yr achosion newydd (97) yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys Rhondda Cynon Taf - ardal sydd bellach yn wynebu cyfyngiadau, ym Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

Roedd 41 o achosion newydd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, sy'n cynnwys sir Caerffili, a 23 yn yr ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Dr Chris Williams, o PHW: "Rydyn ni nawr yn gweld cynnydd cyson mewn achosion mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac mae ein hymchwiliadau'n dangos bod llawer o'r rhain wedi cael eu trosglwyddo oherwydd diffyg pellter cymdeithasol.

"Rydyn ni hefyd yn gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n ddifrifol wael ac wedi cael eu derbyn i'r ysbyty gyda Covid-19."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Does dim mynediad i ymelwyr yn Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful o hyn ymlaen

Yn y cyfamser mae ymweliadau ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf wedi'u hatal oherwydd pryder ynghylch achosion cynyddol o Covid-19.

Dim ond ymwelwyr sy'n mynd i weld claf sy'n derbyn gofal diwedd oes, neu i gefnogi menyw feichiog sydd i roi genedigaeth, bydd yn cael mynediad.

Dywedodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg ei fod wedi atal ymweliadau ag Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, yn ogystal ag unedau eraill i "amddiffyn" cleifion a staff.

Mae ymweliadau 芒 chartrefi gofal yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi cael eu hatal.

Ar hyn o bryd mae ardal Rhondda Cynon Taf yn wynebu cyfyngiadau ac mae pryder cynyddol am ardaloedd cyfagos.

Dangosodd ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sadwrn fod gan Merthyr Tudful 96.1 o achosion Covid-19 fesul 100,000 gydag 88.7 yn Rhondda Cynon Taf a 38.8 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.