大象传媒

Byw gyda dementia: bywyd fel 'blanc du'

  • Cyhoeddwyd
TomFfynhonnell y llun, Prydwen Elfed-Owens

Mae pawb ohonom, mae'n si诺r, yn adnabod rhywun sy'n byw 芒 dementia.

Ar Ddiwrnod Alzheimer's y Byd mae Dr Prydwen Elfed-Owens o Drefnant yn rhannu ei phrofiadau hi o ofalu am ei g诺r, Tom, sydd 芒 dementia.

Mae Dr Elfed-Owens newydd gyhoeddi cyfrol, Na ad fi'n angof - Byw 芒 dementia, sy'n rhannol yn hunangofiant ac hefyd yn olrhain hanes 13 o ofalwyr.

Mae hi'n rhannu ei stori hi a Tom, 93, gyda Cymru Fyw.

'Nes i gyfarfod fy ng诺r dros hanner can mlynedd yn 么l pan 'oedd e'n gwegian wedi ysgariad a minnau'n gwegian wedi hunanladdiad fy nhad.

Bu raid i fy mam a minnau heglu o'r mans yng Nghwm Rhondda i d欧 pedwar fflat yng ngogledd Cymru. Roedd hyn ynghyd 芒 chanser y fron yn straen enfawr ar fy mam. Diflannai i'r nos a byddai 'Tom Fflat 3' yn cadw cwmni imi nes iddi ddychwelyd.

Priodais Tom 15 mlynedd yn ddiweddarach ond ymhen 30 mlynedd, roedd rhaid i ni fyw ar wah芒n ar 么l gwneud y penderfyniad anodd fod rhaid i Tom fynd i gartref gofal wedi deiagnosis o dementia.

Er hynny, rydym mewn cyswllt dyddiol oherwydd y cwlwm agos rhyngddom ac yntau'n 20 mlynedd yn h欧n na mi.

Gofalwr

Cychwynnais ar fy siwrne fel gofalwr iddo heb nac ymwybyddiaeth, na gwybodaeth na dealltwriaeth o natur ac effaith dementia arno fo nac arnaf i.

Ro'wn i'n greithiau ac yn gleisiau o ymdrybaeddu i gynnal urddas ac ansawdd bywyd y g诺r hwn a larpiwyd gan effeithiau distrywiol dementia.

Er bod llawer yn cydymdeimlo ac yn cynnig cysur, ni all neb ddod yn agos at ddeall pa mor ofidus a blinderus yw gofalu am gymar sy'n ceisio'i orau i ffynnu mewn triog.

Ro'wn i'n gofalu amdano ar fy mhen fy hun, heb deulu a heb unrhyw fath o gymorth.

Ffynhonnell y llun, Prydwen Elfed-Owens
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prydwen a Tom

Pwysedd aruthrol

Nid oeddwn wedi sylweddoli cymaint oedd y cyfrifoldeb yn pwyso arnaf. Un o'r penderfyniadau dwysaf oedd atal fy ng诺r rhag gyrru wedi iddo anghofio ei ffordd adref.

Wrth imi ymdrin 芒 staff y gwasanaethau cymdeithasol lleol 'anfonwyd angel' ataf, sef Asesydd Anghenion Gofalwyr ac fe newidiodd fy mywyd yn syth.

Cyflawnodd asesiad anffurfiol wrth sgwrsio 芒 mi a'm g诺r am ein sefyllfa, gan gofnodi fy ngofynion a'm pryderon yn ogystal 芒 gwerthuso fy anghenion corfforol, meddyliol ac emosiynol.

Bu llawer o ddagrau. Wrth sgwrsio, buan iawn y sylweddolais mai fy angel i oedd hi, tra oeddwn i yn angel i'm g诺r.

Cefnogaeth

Roedd gwybod bod yna rywun yn cydnabod fy sefyllfa ac yn derbyn a deall anawsterau fy mywyd ar y pryd, yn rhyddhad enfawr.

Pwy fase'n meddwl y buasai awr yn y lolfa yn y t欧 yn gwneud cymaint o wahaniaeth imi? Roedd hi'n cynnig cyfleoedd niferus i siarad er mwyn rhoi pethau mewn persbectif, mynediad i'r gwasanaethau cymdeithasol lleol - gweithiwr cymdeithasol penodol a chyngor neu gyfeiriad i leihau biwrocratiaeth.

Fe'm cyfeiriodd at Gwasanaeth Gwybodaeth Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam (NEWCIS) i ofalwyr. Derbyniais hyfforddiant a chyngor i osod trefniadau fel Grym Atwrnai Parhaol a threfniadau defnyddiol eraill yn eu lle tra bo'r claf yn deall beth sy'n mynd ymlaen ac yn abl i gyfrannu.

Cyfeiriodd fi hefyd at waith arloesol Gofal Dydd y Waen. Yr hyn a wnaeth wahaniaeth allweddol i'n sefyllfa i oedd cymryd rhan yng ngweithgareddau amrywiol y sesiynau wythnosol gyda'n gilydd.

Teg dweud nad oedd fy ng诺r yn awyddus o gwbl i adael y t欧 i fynychu'r sesiynau a chymysgu ac eraill. Fodd bynnag, ar 么l y sesiwn cyntaf o groeso cynnes, paned a thost, cinio cartref, te a theisen a gweithgareddau, dywedodd: "Dwi wrth fy modd yma. Dw i 'di ffeindio fy hyder eto."

Ffydd a ffrindiau

Sylweddolais maes o law fod arnaf innau, fel gofalwr, hefyd angen cynhaliaeth i ddal ati. Yn sicr, bu fy ffydd yn sylfaen, a bu meddylgarwch ffrindiau a chymdogion yn gefn amhrisiadwy.

Ceir toreth o wybodaeth a deunyddiau gan Gymdeithas Alzheimer's Cymru ac adrannau prifysgolion a gwefannau sefydliadau eraill. Teg dweud, pan oeddwn ym mwrlwm gofalu mewn amgylchiadau heriol iawn imi fod angen person yn hytrach na phapur.

Ffynhonnell y llun, Prydwen Elfed-Owens
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Tom Elfed-Owens ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 92 oed

Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n amhosibl cadw trefniadau ac apwyntiadau. Byddwn byth a hefyd yn gorfod ymddiheuro.

F'amser i

Yn ffodus, gwrandewais ar gyngor ffrind i fod yn fwy gofalus a charedig wrthyf fy hun. Trefnodd imi ymweld 芒'i hoff barlwr prydferthwch hi a daeth hwn yn arfer moethus misol - f'amser i'.

Yn sgil hynny, dechreuais gymryd cyfleoedd eraill i lacio'r tensiynau heb deimlo'n euog nac yn hunanol.

Cefais loches yma - y triniaethau a'r therapi siarad. Syrthiais i gysgu droeon, collais ddysglau o ddagrau, a derbyniais faldod heb ei ail. Byddwn yn cyrraedd adref yn gryfach ac yn ysgafnach fy meddwl a'm hysbryd - os nad yn harddach!

Yn dilyn asesiadau, daeth yn glir nad oedd gan fy ng诺r bellach y gallu i ymgymryd yn annibynnol ag amryw agweddau ar ei fywyd beunyddiol. Aeth y sefyllfa'n drech na'r ddau ohonom. Penderfynodd yr arbenigwyr mai'r cam nesaf oedd cartref gofal 24/7.

Bu'n anodd imi dderbyn nad fi oedd prif ofalwr fy ng诺r bellach; felly, roedd cyd-ddealltwriaeth rhwng y cartref a mi yn hanfodol os oeddwn i barhau i fod ag unrhyw ddylanwad.

Dysgais yn fuan, y byddai'n rhaid i mi ymyrryd heb ofn na ffafr pan fyddwn yn gweld angen am hynny. Dechreuais wneud pethau megis:

  • sicrhau bod ei ystafell yn atgynhyrchiad o'i gartref

  • darparu ff么n dementia-gyfeillgar iddo fedru cysylltu 芒 mi

  • prynu dillad newydd o ansawdd iddo

  • labelu'r cyfan o'i eiddo yn glir

  • sicrhau gwely tra chyfforddus i warantu noson dda o gwsg.

O ganlyniad, lleihaodd cyffro a phryder fy ng诺r yn sylweddol. Wrth reswm, roeddwn yn awchu am gadarnhad y gwnaethpwyd y dewis gorau. Cefais hynny yng ngeiriau'r arbenigwr: "Your husband is in the right place at the right time."

Nid adwaenwn y pwysau nes i mi brofi'r rhyddhad.

Y cyfnod clo

Roedd fy sgyrsiau gyda'm g诺r ar ei ff么n bach yn ystod Covid-19 yn agoriad llygad. Ar brydiau, disgrifiai ei sefyllfa fel 'blanc du'. Felly, fe sefydlon mai fi fyddai ei gof yn ystod y cyfnodau rheini. Daw ei feddwl yn glir eto yn y man.

Mae gen i ofn imi waelu, ofn iddo ddirywio ac ofn iddo golli f'adnabod.

Fodd bynnag, dw i'n diolch am y dyddiau da, trysori f'atgofion melys a chanolbwyntio ar beth sy'n bosibl y funud hon - gydag un llygad ar y dyfodol.

Mae fy mywyd yn bell o fod yn 'gonfensiynol' ond tra byddaf fyw, fy mhrif nod fydd gwarchod urddas ac ansawdd bywyd fy ng诺r.

Hefyd o ddiddordeb