Protestio yn erbyn gwersyll ffoaduriaid newydd Penfro
- Cyhoeddwyd
Daeth torf o hyd at 30 o ymgyrchwyr a thrigolion lleol at ei gilydd ger giatiau hen wersyll milwrol Penalun ym Mhenfro ddydd Llun, er mwyn gwrthwynebu camau i'w droi yn gartref i ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Wythnos diwethaf fe ddaeth i'r amlwg fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried cartrefu hyd at 250 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar y safle ger Dinbych-y-pysgod.
Mae gwersyll hyfforddi Penalun ymysg nifer o leoliadau sydd yn cael eu hystyried, ac mae'n debyg fod rheolaeth dros y safle wedi ei drosglwyddo o ddwylo'r Weinyddiaeth Amddiffyn i'r Swyddfa Gartref.
Roedd swyddogion diogelwch newydd yn cadw llygad ar fynedfa'r gwersyll brynhawn dydd Llun, ac mae faniau a chontractwyr wedi bod yn mynd a dod oddi yno drwy gydol y dydd.
Cafwyd ymgais i atal mynediad i'r gwersyll gan rhai protestwyr, wrth iddyn nhw eistedd ar draws y brif fynedfa, tra bu eraill yn ceisio atal mynediad i fynedfa arall ar y safle.
Dywedodd rhai trigolion oedd am aros yn ddienw fod diffyg ymgynghori am y cynllun wedi eu gwneud yn bryderus ac yn teimlo fel nad oedden nhw'n rhan o'r drafodaeth am y safle.聽Daeth oddeutu 100 o bobl ynghyd ar draeth Dinbych-y-pysgod dros y penwythnos i ddangos eu cefnogaeth i ffoaduriaid.
Y gr诺p Sefwch yn erbyn Hiliaeth drefnodd y brotest ar Draeth y Gogledd, a thanlinellwyd yn ystod sawl araith fod croeso i ffoaduriaid yn yr ardal, er y pryder am unrhyw gynllun i leoli'r ffoaduriaid yng ngwersyll Penalun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020