Pryder bod pobl o ardaloedd clo Lloegr yn ymweld 芒 Chymru
- Cyhoeddwyd
Er bod cyfyngiadau lleol mewn grym ar gyfer nifer o ardaloedd yn Lloegr mae pryder bod twristiaid o'r llefydd hynny yn parhau i allu ymweld 芒 gogledd Cymru.
Mae'n rhaid i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd sydd dan gyfyngiadau lleol yn ne Cymru gael "esgus rhesymol" dros groesi ffiniau'r sir, fel mynd i'r gwaith neu addysg.
Ond mae'r rheolau'n wahanol yn Lloegr, ble mae hawl gan bobl sy'n byw dan gyfyngiadau lleol i fynd ar wyliau.
Oherwydd hynny mae pryderon bod pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn Lloegr ble mae lefelau uchel o'r feirws yn parhau i ymweld 芒 gogledd-orllewin Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "mater i Lywodraeth y DU ydy'r mesurau yn Lloegr".
'Dio'm yn gwneud synnwyr'
Dywedodd Aelod Plaid Cymru o'r Senedd dros Arfon, Si芒n Gwenllian ei bod yn sefyllfa sy'n achosi pryder i bobl leol.
"Dio'm i weld yn gwneud llawer o synnwyr i mi fod pobl sy'n byw yng Nghaerffili a'r Rhondda a llefydd eraill sydd bellach mewn clo lleol ddim yn cael teithio allan o'u hardal - a dwi'n cytuno 'efo hynny - ond ar y llaw arall bod pobl sydd mewn sefyllfa debyg iawn i'r trigolion hynny yn cael teithio allan o'u hardaloedd nhw [yn Lloegr]," meddai.
"Does 'na ddim cyfyngiad ar deithio iddyn nhw ac wedyn mae 'na rwydd hynt ganddyn nhw i deithio i ble bynnag fynnon nhw.
"Mae'n debyg bod 'na rai yn dewis dod i ogledd Cymru - 'da ni'n agos iawn at Lerpwl, Manceinion a Birmingham, ac mae'r tri lle yna o dan gyfyngiadau clo."
Ychwanegodd Ms Gwenllian ei bod yn poeni y gallai'r sefyllfa arwain at densiynau rhwng pobl leol ac ymwelwyr
"Mae pobl yn gweld pobl o'r ardaloedd clo yn cyrraedd yma ac yn poeni bod y feirws yn cael ei ledaenu draw yma unwaith eto," meddai.
"Mae hi'n brysur ofnadwy yma o hyd.
"Mae'n pryderu pobl bod 'na gymaint o bobl o gwmpas a ninnau'n gwybod bod y feirws ar gynnydd, ac mae rhai o'r bobl yn dod o'r ardaloedd lle mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth."
'Dyletswydd ar Lywodraeth Cymru'
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd dros Arfon bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU i newid y rheolau ac ar Lywodraeth Cymru i dynnu eu sylw at y broblem.
"Rheolau'r llywodraeth dros Loegr ydy'r rhain, wrth gwrs, ac mae angen dwyn pwysau arnyn nhw dwi'n credu," meddai Ms Gwenllian.
"Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fynd atyn nhw i egluro'r sefyllfa a'r pryder y mae'r gwahaniaeth yma'n ei greu, ac i ofyn iddyn nhw i newid y sefyllfa.
"Un peth ydy dweud 'o wel, mae hi fyny i'r llywodraeth yn Lloegr wneud be' maen nhw eisiau gwneud', ond peth arall ydy o pan mae'n effeithio yn uniongyrchol ar ein poblogaeth ni fan hyn.
"Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i fynd ar 么l y peth ac i fynnu bod y llywodraeth yn Lloegr yn sylweddoli be' sy'n mynd ymlaen.
"Ond yn anffodus 'da ni'n clywed bod 'na ddim lot o siarad yn mynd ymlaen rhyngddyn nhw."
Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts godi'r pwnc gyda Boris Johnson yn y senedd brynhawn Mawrth, gan ofyn iddo "roi cyngor clir yn erbyn teithio tu hwnt i'r ardaloedd hyn at bwrpas hamdden".
Dywedodd Mr Johnson bod y rheolau lleol yn cael eu gosod gan awdurdodau lleol yn Lloegr, ond bod y "cyfyngiadau y mae hi'n eu hargymell yn rhan o'r gymysgedd".
'Mater i Lywodraeth y DU'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cymru yn rhoi croeso cynnes i ymwelwyr ond mae'n hollbwysig nad ydy pobl yn teithio os oes ganddyn nhw coronafeirws, symptomau o'r feirws neu os ydyn nhw'n byw 芒 rhywun sydd 芒 symptomau.
"Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol yn wahanol i Loegr - yn ogystal 芒 cheisio rheoli'r feirws o fewn yr ardaloedd hynny rydym hefyd yn ceisio rhwystro'r feirws rhag lledaenu allan o'r ardal.
"O ganlyniad mae'n rhaid i bobl sy'n byw mewn llefydd 芒 chyfyngiadau lleol gael rheswm dilys i adael neu ddod mewn i ardal awdurdod lleol.
"Mater i Lywodraeth y DU ydy'r mesurau yn Lloegr."
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod gan bobl yn Lloegr yr hawl i deithio allan o'u hardaloedd ond bod yn rhaid dilyn y rheolau sydd mewn grym yn y llefydd maen nhw'n ymweld 芒 nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2020
- Cyhoeddwyd19 Awst 2020
- Cyhoeddwyd9 Awst 2020