大象传媒

Cefnogwyr Wrecsam gam yn nes tuag at werthu'r clwb

  • Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi bod o dan berchnogaeth y cefnogwyr ers 2011Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Wrecsam wedi bod o dan berchnogaeth y cefnogwyr ers 2011

Mae cefnogwyr Clwb P锚l-droed Wrecsam wedi cymryd y cam cyntaf tuag at ganiat谩u buddsoddwyr i gymryd drosodd.

Pleidleisiodd rhan helaeth o aelodau Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam o blaid caniat谩u i sgyrsiau gyda "dau unigolyn adnabyddus iawn o werth net uchel" fynd yn eu blaen.

Dywedir bod y p芒r, a oedd yn dymuno aros yn ddienw, yn bwriadu buddsoddi 拢2m yn y clwb ar unwaith.

Pleidleisiodd cyfanswm o 1,223 o aelodau yn y cyfarfod cyffredinol arbennig ddydd Mawrth - gyda dim ond 31 yn erbyn.

Mae Wrecsam wedi bod o dan berchnogaeth y cefnogwyr ers 2011.

Ar 么l y cyfarfod, cyhoeddodd yr ymddiriedolaeth ddatganiad a ddywedodd: "Bydd y bwrdd nawr yn bwrw ymlaen 芒 sgyrsiau, a bydd yn diweddaru aelodau ar y camau nesaf cyn gynted 芒 phosib."

Dim ond os caiff ei gymeradwyo mewn cyfarfod cyffredinol arbennig yn ddiweddarach y gall y gwerthiant fynd yn ei flaen.

Bydd y trafodaethau'n parhau gyda thymor y Gynghrair Genedlaethol i fod i gael ei ohirio oherwydd effeithiau pandemig coronafeirws.