Plaid Cymru yn galw am fwy o reolaeth ar ail gartrefi
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru yn galw am greu deddfwriaeth newydd fyddai'n rhoi cap ar nifer yr ail gartrefi ym mhob cymuned.
Ddydd Mercher fe fydd y Blaid yn cyhoeddi adroddiad 16 tudalen ar effaith dai haf ar gymunedau.
Yn ogystal 芒 chyfyngu ar y niferoedd, maen nhw'n galw am hawliau i godi mwy o dreth y cyngor ar ail gartrefi.
Y nod, medd Plaid Cymru, yw "gwarchod cymunedau a phrynwyr tro cyntaf yn erbyn yr annhegwch economaidd sy'n deillio o orwerthiant ail dai".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn monitro'r sefyllfa a'u bod eisoes wedi cyflwyno mesurau "sy'n cydnabod her ail gartrefi a thai gwag i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau."
Bydd cynigion Plaid Cymru yn cael eu trafod mewn dadl yn y Senedd ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach.
Maen nhw'n galw am:
Newidiadau i'r maes cynllunio fyddai'n galluogi cynghorau i osod cap ar ail gartrefi ym mhob cymuned
Caniat谩u i gynghorau codi'r dreth cyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200%
Cau'r bylchau a diweddaru'r gyfraith sy'n golygu bod modd optio allan o drethi domestig ac o'r premiwm treth cyngor
Rheoli'r gallu i osod t欧 annedd ar sail tymor byr drwy gwmn茂au fel AirBnB am rannau helaeth o'r flwyddyn
Dod 芒 thai o fewn cyrraedd lleol - gan gynnwys y posibilrwydd o sefydlu cronfai ddatblygu tai gydag amod lleol arnynt
Dywedodd Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar dai: "Cafodd traean o dai yng Ngwynedd a M么n eu prynu fel ail dai yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac mae 12% o stoc tai Gwynedd bellach yn ail dai dan berchnogaeth pobl tu allan i'r sir, sydd ymysg yr uchaf yn Ewrop.
"Mae'r cyfres o fesurau mae Plaid Cymru yn eu cyhoeddi heddiw wedi eu dylunio er mwyn dod 芒'r sefyllfa dan reolaeth a grymuso cymunedau gydag ymyraethau penodol a chytbwys, ac rwy'n gobeithio bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried o ddifri."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod her ail gartrefi a thai gwag i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.
"Rydym ar y trywydd iawn at godi 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn ystod tymor y Senedd hon, a Chymru yw'r unig wlad yn y DU o hyd i roi pwerau i awdurdodau lleol allu codi lefelau uwch o dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor.
"Mae ein Treth Trafodiadau Tir hefyd yn cynnwys t芒l ychwanegol o 3% ar gyfer prynu ail gartref neu brynu i osod yng Nghymru, ac yn ddiweddar gwnaethom newid ein meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth busnes ar gyfer llety hunanddarpar.
"Rydym yn parhau i fonitro'r system yn agos a byddwn yn gwneud newidiadau pellach os bydd angen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018