大象传媒

Mark Drakeford yn cyflwyno rhagor o fesurau i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Datganiad Mark Drakeford ar gyfyngiadau newydd i Gymru

Fe fydd tafarndai, tai bwyta a chaffis yng Nghymru yn gorfod cau am 22:00 bob nos fel rhan o fesurau newydd gan Lywodraeth Cymru i geisio rheoli ymlediad coronafeirws.

Bydd y cyfyngiadau newydd ddod i rym am 18:00 nos Iau.

Daw hyn yn dilyn penderfyniad tebyg yn gynharach ddydd Mawrth gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr.

Bydd siopau sydd 芒 thrwydded i werthu alcohol ddim yn cael gwneud hynny ar 么l 22:00 chwaith.

Yn ogystal 芒 hyn y bydd yn rhaid i dafarndai gynnig gwasanaethau gweini wrth y bwrdd yn unig.

Hefyd bydd ap锚l ar bobl Cymru ond i deithio os yw hynny'n angenrheidiol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn araith gafodd ei darlledu nos Fawrth, dywedodd Mr Drakeford fod achosion o'r feirws yn cynyddu mewn gwahanol rannau o Gymru.

"Unwaith eto, rydym yn gweld ysbytai yn derbyn pobl gyda salwch difrifol oherwydd y feirws angheuol," meddai.

"Yn yr wythnos a'r misoedd i ddod, mae posibilrwydd real iawn y gallwn weld y feirws yn dal gafael yn ein cymunedau lleol, trefi a dinasoedd."

Gwnaed y penderfyniad am fesurau pellach wrth i bedair sir arall yng Nghymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Merthyr a Chasnewydd wynebu cyfyngiadau newydd o 18:00 ddydd Mawrth.

Ni fydd gan bobl hawl i ymweld neu adael y siroedd uchod heb esgus rhesymol.

Ond nawr mae Mr Drakeford hefyd yn annog pobl ledled Cymru ond i deithio "pe bai hynny'n hanfodol".

Daw hyn ar 么l iddo fod mewn trafodaethau gyda Boris Johnson, a phrif weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon fore Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd tafarndai a thai bwyta yn gorfod cau am 22:00

Cyhoeddodd Mr Johnson y byddai tafarndai a thai bwyta yn Lloegr yn gorfod cau am 22:00.

Yn ei araith deledu dywedodd Mr Drakeford ei fod yn bwysig bod pobl Cymru yn parhau i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.

"Mae angen parhau i weithio o adre pryd bynnag mae hynny'n bosib. Mae angen i'r neges yna gael ei dilyn gan weithwyr a chyflogwyr."

"A dim ond chwech o bobl sy'n gallu cwrdd dan do, tra ein bod yn gwneud yn si诺r fod yr un chwech yn rhan o'r teulu estynedig."

Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno mesurau i helpu pobl sydd angen hunan-ynysu.

"Byddwn yn darparu taliad o 拢500 i gefnogi y pobl hynny ar incwm isel er mwyn iddynt allu cymryd camau o'r fath."

Ymateb y gwrthbleidiau

Yn 么l Andrew RT Davies, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, mae angen sicrhau fod yr ymateb i'r pandemig yn diogelu iechyd y cyhoedd a'r economi ar yr un pryd.

"Mae'n bryd i ystyried ardaloedd clo lleol iawn a hynny yn 么l y data gorau sydd ar gael - mae hynny'n golygu fod yn rhaid i'r system Profi, Olrhain a Diogelu fod yn gywir iawn - fel bod cyn lleied o Gymru a'i heconomi yn cael ei chau, hyd yn oed dros dro.

"Mae'n rhaid i warchod bywydau a bywoliaeth, ac amddiffyn yr economi barhau yn flaenoriaethau."

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ei fod yn teimlo nad oedd y mesurau yn ddigonol.

"Yn yr ardaloedd lle mae yna gyfyngiadau pellach, dylid gwneud mwy na dim ond cau tafarndai am 10 o'r gloch.

"Yn yr ardaloedd yna dylwn gyfyngu gwerthiant alcohol o siopau am chwech o'r gloch ac un ai cau tafarndai rhag gwerthu tu mewn yn llwyr, neu gau tafarndai sydd ddim yn gwerthu bwyd fel sy'n digwydd yn Iwerddon," meddai.

"Ac yn allweddol, mae'n rhaid i gamau o'r fath gael cymorth ariannol i'r sector sy'n cael ei effeithio."

Dywedodd Mark Reckless, arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, eu bod nhw'n gwrthwynebu rhagor o gyfnodau clo.

"Rydym o'r farn y byddai'n llawer gwell i ymddiried ym marn unigolion, wrth (asesu) y risg iddynt eu hunain a'r sawl sy'n byw gyda nhw."