Rob Howley yn dychwelyd i rygbi gyda th卯m Canada
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hyfforddwr rygbi Cymru, Rob Howley wedi cael ei benodi'n hyfforddwr cynorthwyol i d卯m cenedlaethol Canada.
Mae'n dychwelyd i'r gamp ar 么l gwaharddiad am dorri rheolau betio cyn Cwpan Rygbi'r Byd y llynedd.
Bydd cyn-fewnwr Cymru a'r Llewod yn ymuno gyda chyn-gapten Cymru, Kingsley Jones, ar y t卯m hyfforddi ar gytundeb tair blynedd.
Cafodd Howley, 49 oed, ei wahardd o rygbi am 18 mis o fis Medi 2019 - gyda naw mis wedi'u gohirio - am fetio ar gemau, gan gynnwys gemau Cymru.
Cafodd ei dynnu o d卯m hyfforddi Cymru o fewn dyddiau i ddechrau Cwpan y Byd pan gafodd y mater ei ddatgelu.
Bydd Howley hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i d卯m y Toronto Arrows wrth gynorthwyo Jones i baratoi Canada ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2023.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd17 Medi 2019