Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gohirio agor Labordy Goleudy Casnewydd tan fis nesaf
Mae agoriad labordy arbenigol yng Nghasnewydd ar gyfer profion coronafeirws wedi cael ei ohirio tan fis nesaf.
Roedd yna fwriad yn wreiddiol i'r gwaith profi ddechrau yn y Labordy Goleudy yn Imperial Park ym mis Awst.
Dydy Llywodraeth y DU heb egluro pam, ond dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) mai prosesau penodi a "dilysu'r" labordy sydd wrth wraidd y sefyllfa.
Llywodraeth y DU sy'n rheoli'r Labordai Goleudy ac maen nhw'n cael eu rhedeg gan gwmn茂au preifat.
Y cwmni diagnosteg Americanaidd, Perkin Elmer sy'n rhedeg y labordy yng Nghasnewydd ac mae'n penodi 200 o staff.
"Cyfuniad o ffactorau"
Ym mis Gorffennaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai ICC yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU fel bod y labordy'n gallu dechrau ar ei waith.
Ddydd Mercher, dywedodd Quentin Sandifer o ICC wrth un o bwyllgorau Senedd Cymru ei fod wedi codi cwestiynau ynghylch yr oedi gydag adran iechyd San Steffan.
"Rydym wedi holi ac ein dealltwriaeth ydy bod yna gyfuniad o ffactorau, yn gynnwys proses benodi sy'n parhau, a materion yn ymwneud 芒 dilysu'r labordy cyn y gallai agor.
Mae nifer o broblemau wedi codi'n ymwneud 芒'r Labordai Goleudy, sy'n delio gyda mwyafrif y samplau sy'n cael eu casglu yng Nghymru.
Mae'r gwaith wedi pentyrru i'r graddau nes bod llawer o bobl wedi cael trafferthion ceisio trefnu profion yn agos i'w cartrefi.
"Siomedig a rhwystredig"
Dywed Llywodraeth y DU fod offer wedi ei osod yn y labordy ac mae staff wedi cael eu recriwtio.
"Yn y misoedd diwethaf rydym, yn gyflym, wedi creu'r capasiti profi diagnosteg mwyaf yn hanes Prydain, gan ragori ar holl brif wledydd Ewrop gyda mwy o brofion y pen o fewn y boblogaeth" meddai llefarydd.
"Mae gyda ni gapasiti labordai goleudy newydd i ddod ar-lein, gan gynnwys yng Nghasnewydd, Newcastle, Bracknell a Charnwood, wrth i ni anelu at ein targed capasiti profi o 500,000 y diwrnod erbyn diwedd mis Hydref."
Dywedodd AS Llafur Gorllewin Casnewydd, Jayne Bryant: "A ninnau'n gweld cynnydd yn y galw am brofion, mae oedi Llywodraeth y DU o ran y Labordy Goleudy yn Imperial Park, Casnewydd yn siomedig a rhwystredig iawn, a dweud y lleiaf.
"Mae angen i Lywodraeth y DU ddatrys ar frys y problemau gyda'r Labordai Goleudy, y gwelwn ar hyd y DU, i sicrhau ein bod 芒'r capasiti o fewn y system."