Ymchwilio i gynllun ysgol feddygaeth gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd y posibilrwydd o sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru yn cael ei ystyried ymhellach ar 么l i'r llywodraeth sefydlu gr诺p ymchwilio.
Ers 2019 mae nifer cyfyngedig o fyfyrwyr yn gallu astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor drwy gynllun ar y cyd 芒 Phrifysgol Caerdydd.
Ond nid oes ysgol feddygaeth lawn, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau i sefydlu un o'r blaen.
Dywedodd y llywodraeth ei bod am ystyried cynnig gan Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i sefydlu ysgol feddygaeth.
Bydd y gr诺p yn archwilio a ydy'r cynnig yn "ymarferol ac yn gyraeddadwy, ac ai dyma'r cam nesaf yn y broses o ehangu hyfforddiant meddygol yn y gogledd".
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething ei fod "wedi ymrwymo i ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yn y gogledd i helpu i recriwtio meddygon yn y rhanbarth".
Mae disgwyl i'r Gr诺p Gorchwyl a Gorffen adrodd yn 么l erbyn haf 2021.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Mark Polin, bod y cynllun "o bwys mawr" iddo a'i gydweithwyr, a bod ganddo "botensial mawr i fod o fudd i'r gwasanaeth iechyd ac, yn bwysicaf oll, ein cleifion".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017