大象传媒

Cyngor peidio aros noson i warchod yn 'anghyfiawn'

  • Cyhoeddwyd
Eifion Wynne
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Eifion Wynne ei fod yn "siomedig" bod yr un cyfyngiadau ddim yn effeithio ymwelwyr o Loegr

Mae dyn o Sir Ddinbych sy'n gwarchod yng Ngwynedd yn wythnosol yn dweud ei bod hi'n "anghyfiawn" na fydd yn cael aros noson mewn maes carafanau cyfagos o hyn ymlaen.

Daeth cyfyngiadau newydd i rym yn siroedd Dinbych, Conwy, y Fflint a Wrecsam am 18:00 ddydd Iau yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19.

Mae'n golygu na fydd hawl gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny i adael y sir heb "esgus rhesymol", fel gwaith neu addysg.

Ond dywed Eifion Wynne, sydd o Ruthun, nad ydy hi'n deg fod y rheolau newydd yn ei atal ef a'i wraig rhag aros noson mewn maes carafanau ar 么l gwarchod eu hwyres yn Llanllyfni tra bod pobl o Loegr yn parhau i gael mynd yno ar wyliau.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford eisoes wedi galw ar Brif Weinidog y DU, Boris Johnson i wahardd pobl sydd dan gyfyngiadau clo yn Lloegr i deithio i Gymru ar wyliau.

'Anghyfiawn a pheryglus'

"Dwi 'di teithio heddiw o Ddyffryn Clwyd i Ddyffryn Nantlle fel dwi wedi 'neud ers cael yr hawl i deithio ers y clo mawr achos 'de ni'n helpu efo gwarchod," meddai.

"Mae popeth wedi gweithio'n ardderchog - dau ddiwrnod yr wythnos mae gennon ni garaf谩n bach, 'da ni'n lleoli'r garaf谩n mewn maes carafanau yn yr ardal, 'de ni'n teithio'n y bore'n gynnar wedyn aros y noson yn y garaf谩n ac yn mynd 'n么l y diwrnod wedyn ar 么l gwarchod.

"Ond ar 么l 18:00 heno mae'n debyg y dyliwn i - yn 么l y rheolau, gan fod Sir Ddinbych dan glo - fod yn mynd adre a theithio'n 么l yma yn y bore.

"Dwi isio cydweithredu efo'r rheol gore y medra i - nid cael at y rheolau yma yng Nghymru ydw i yn hyn o beth.

"Be' sy'n swnio'n anghyfiawn braidd ydy - er y gallen ni deithio'n ddyddiol - yn y maes carafanau penodol lle dwi mae 'na ymwelwyr o Loegr, nifer o Gymru."

Ffynhonnell y llun, PAUL ELLIS
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Daeth y mesurau newydd i rym yn llefydd fel Rhuthun ddydd Iau

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n cynghori i Eifion beidio 芒 theithio.

"Mae'n anodd iawn derbyn hynny pan mae'r siroedd sy'n ffinio arnon ni yn y gogledd-ddwyrain yn cael teithio yma," meddai.

"Mae'n rhyfeddu dyn, mae o wirioneddol yn gwneud i ddyn feddwl a ydy arweinydd Prydain yn deall be sy'n mynd ymlaen.

"I fyny i r诺an, pan fydda i'n gadael y maes mi fedar sawl caraf谩n droi fewn o Lannau Merswy, Sir Gaer, o unrhyw le yn Lloegr.

"Dwi ddim yn cytuno efo fo, mae o'n anghyfiawn, mae o'n beryglus. Dwi ddim isio pasio'r haint, dwi ddim isio'i gario fo o sir sy' dan glo ac mae'n rhaid i ni weithio o amgylch hynny. Ond dydy'r un ystyriaeth yn amlwg ddim ar feddwl y rhai sy'n arwain ym Mhrydain."

Beth mae'r cyfyngiadau newydd yn ei olygu?

  • Ni fydd pobl yn cael mynd i mewn i'r ardaloedd hyn na'u gadael heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu i dderbyn addysg;

  • Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd 芒 phobl nad ydyn nhw'n byw gyda nhw. Ni fyddan nhw'n cael ffurfio aelwyd estynedig, na bod yn rhan o un.

Bydd y cyfyngiadau'n ychwanegol at y rheolau sy'n berthnasol ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys:

  • Rhaid i bob safle trwyddedig roi'r gorau i werthu alcohol am 22:00;

  • Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do.

Wrth siarad yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher, fe dynnodd AS Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts sylw at y ffaith y gallai'r rhai mewn ardaloedd clo lleol yn Lloegr deithio i Gymru, ond ni allai'r rhai yng Nghymru o dan gyfyngiadau tebyg deithio y tu allan i'w hardal heb reswm da.

Dywed Boris Johnson y byddai rhai mesurau'n "ymddangos yn afresymegol" ond bod hynny'n "anochel wrth fynd i'r afael 芒 phandemig".

Ychwanegodd: "Ar y cyfan mae'r DU yn bwrw ymlaen 芒'r un dull ac rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Drakeford a phawb arall yn Llywodraeth Cymru am y ffordd rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i drechu'r feirws."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd I'm A Celebrity... Get Me Out Of Here! yn cael ffilmio yng Nghastell Gwrych er gwaetha'r cyfyngiadau lleol

Cofnododd Iechyd Cyhoeddus Cymru chwe marwolaeth yn ymwneud 芒 Covid-19 - ynghyd 芒 398 prawf positif - dros y 24 awr ddiwethaf.

Bydd Ynys M么n a Gwynedd, siroedd sydd wedi gweld llai o gynnydd mewn achosion positif, ddim yn wynebu cyfyngiadau am y tro.

Yn y cyfamser, bydd ffilmio cyfres deledu I'm A Celebrity... Get Me Out Of Here! yn cael ei ganiat谩u yng Nghastell Gwrych yn Abergele, er fod cyfyngiadau lleol mewn grym yn sir Conwy.