大象传媒

Merched beichiog Abertawe i dderbyn 'bwndeli babi'

  • Cyhoeddwyd
bwndel
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nathalie Wilson o Abertawe yw un o'r cyntaf i dderbyn Bwndel Babi

Bydd y 'bwndeli babi' cyntaf yn cael eu derbyn yr wythnos hon gan ferched beichiog fel rhan o gynllun peilot yng Nghymru.

Fe fydd 200 o'r bwndeli yn cael eu darparu i ddarpar famau yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe dros y misoedd nesaf.

Bydd y bwndeli yn cynnwys dillad babi o safon uchel, sachau cysgu, teganau sy'n annog cyfathrebu cynnar, eitemau i'r cartref i gynorthwyo gydag ymolchi babanod yn ddiogel ac ystod o gefnogaeth i famau ar 么l rhoi genedigaeth.

Y nod yw hybu iechyd a lles babanod newydd-anedig ac i gynorthwyo rhieni yn y dyddiau ac wythnosau cyntaf o fywyd y babi.

Daw'r cynllun peilot yma yn dilyn llwyddiant cynlluniau tebyg yn Yr Alban a'r Ffindir.

Bydd y bwndeli am ddim i rieni sy'n eu derbyn, a does dim rhaid i rieni eu derbyn os nad ydyn nhw eisiau neu angen un.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cynllun 'Baby Box' wedi profi'n boblogaidd yn Yr Alban

'Arbennig o bwysig'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: "Mae ein bwndeli babi yn cynnwys nid yn unig 'croeso i'r byd' i ddinasyddion mwyaf newydd Cymru, ond hefyd yn cynnig cefnogaeth wych i rieni a babanod yn y cyfnod allweddol yma o'u bywydau.

"Mae hyn yn arbennig o bwysig i deuluoedd sy'n cael babi yng nghanol pandemig, ac rydym yn gobeithio y bydd y bwndeli yn rhoi maes cyfartal i rieni a'u babanod drwy leihau gwariant ar bethau hanfodol i fabi newydd.

"Mae cynlluniau tebyg, fel yn Yr Alban, wedi bod yn boblogaidd iawn, ac mae'r dystiolaeth hyd yma'n awgrymu bod rhieni yn Abertawe yn awyddus i fod yn rhan o'r cynllun peilot yma yn eu hapwyntiadau 28-wythnos.

"Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adborth gan y teuluoedd yma wrth iddyn nhw ddechrau eu taith gyda'r aelodau newydd."