大象传媒

Trafodaethau am safle Wylfa Newydd yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon Nuclear
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae trafodaethau yngl欧n 芒 safle Wylfa Newydd yn parhau

Mae'n bosib nad yw'r cynlluniau ar gyfer codi atomfa yn Wylfa ar ben, yn 么l llythyrau sydd wedi eu derbyn gan Lywodraeth San Steffan.

Bythefnos yn 么l dywedodd cwmni Hitachi nad oeddynt am barhau 芒'u diddordeb yn y cynllun 拢20bn.

Ond mae datblygwyr safle Wylfa Newydd - Horizon Nuclear Power - wedi anfon dau lythyr at weinidogion San Steffan yn dweud fod trafodaethau gyda chwmn茂au eraill yn parhau.

Yn wreiddiol roedd penderfyniad yngl欧n 芒 rhoi hawl cynllunio ar gyfer y cynllun i fod i gael ei wneud ddydd Mercher 30 Medi, ond bydd nawr yn cael ei ohirio tan 31 Rhagfyr.

Fe wnaeth prif weithredwr Horizon Nuclear ysgrifennu at weinidog Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y DU, Alok Sharma, ar 22 Medi a 28 Medi.

Roedd y llythyrau yn gofyn am "estyniad byr" ar gyfer y dyddiad pan fydd Llywodraeth y DU yn penderfynu a fyddai'n rhoi caniat芒d cynllunio ar gyfer cynlluniau gwreiddiol Hitachi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Horizon Nueclar Power sy'n gyfrifol am ddatblygu safle Wylfa Newydd

Mae Horizon wedi gwrthod rhoi unrhyw fanylion am y cwmn茂au sy'n rhan o'r trafodaethau newydd gan fod y rhain mewn cyfnod "sensitif".

Wrth ymateb i gais Horizon Nuclear am gael oedi'r broses caniat芒d cynllunio dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni: "Dan yr amgylchiadau, mae'n briodol i newid y dyddiadau cau ar gyfer y cais cynllunio i 31 Rhagfyr 2020."

Cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 eu penderfyniad i atal yr holl waith ar y cynllun, a fyddai wedi costio hyd at 拢20bn, wedi methiant i ddod i gytundeb ariannol.

Yn 么l y datblygwyr, fe fyddai'r atomfa wedi cyflenwi trydan ar gyfer hyd at bum miliwn o gartrefi a chyflogi 9,000 o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.