Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Coronafeirws: 6 marwolaeth a 398 o achosion newydd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi chwe marwolaeth yn ymwneud 芒 Covid-19 dros y 24 awr ddiwethaf.
Cyhoeddwyd hefyd ddydd Iau bod 398 o bobl yn ychwanegol wedi cael prawf positif am y feirws.
O'r achosion newydd a gyhoeddwyd ddydd Iau, roedd 74 yng Nghaerdydd, 51 yn Rhondda Cynon Taf a 25 yn Wrecsam.
Dyw hi ddim yn eglur eto a ydy'r marwolaethau yn rhai o'r wyth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar.
Cafodd 9,137 o brofion eu prosesu yng Nghymru dros y 24 awr ddiwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y bydd rhaid i deithwyr o Dwrci, Gwlad Pwyl a thair o ynysoedd y Caribi -Bonaire, Saba and St Eustatius - hunan-ynysu ar 么l dychwelyd.
Bydd y rheol yn golygu bod rhaid ynysu am bythefnos, ac mae'n dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn.
60% o gynnydd yn nifer y cleifion
Mae nifer y cleifion Covid-19 sydd angen triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cynyddu 60% dros yr wythnos ddiwethaf.
Roedd 550 o gleifion coronafeirws angen gwely ysbyty yn yr wythnos ddiwethaf - 229 o'r rheiny ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Ledled Cymru roedd 34 o gleifion Covid-19 yn cael eu trin mewn unedau gofal critigol ar 29 Medi - bron i ddwbl y ffigwr yn yr wythnos cyn hynny.
Roedd 15 o'r rheiny yng Nghwm Taf Morgannwg, a saith ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
Bydd cyfyngiadau pellach yn dod i rym mewn pedair sir yng ngogledd Cymru am 18:00 ddydd Iau - rhai tebyg i'r rheiny sydd eisoes mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r de.
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, ers dechrau'r pandemig mae 24,383 o bobl wedi cael prawf positif am y feirws yng Nghymru, a 1,622 o bobl wedi marw ar 么l cael prawf positif.
Oedi yn prosesu profion
Dywedodd y corff bod oedi yn prosesu nifer o brofion, ac felly bod y ffigyrau yn "amcangyfrif rhy isel o ddarlun cywir coronafeirws yng Nghymru".
"Mae oddeutu 2,000 o ganlyniadau profion (a fydd yn cynnwys canlyniadau positif a negatif) o Labordai Goleudy Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU wedi'u hoedi," meddai Dr Robin Howe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.
"Mae hyn yn golygu y bydd nifer y profion heddiw yn amcangyfrif rhy isel o ddarlun cywir coronafeirws yng Nghymru.
"Mae hyn y tu hwnt i'n rheolaeth, ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
"Mae'n debygol y bydd nifer y profion yn cynyddu'n anghymesur dros y dyddiau nesaf wrth i'r 么l-groniad o ganlyniadau profion gael eu cynnwys yn ein hadroddiadau."