大象传媒

Covid-19: Pum marwolaeth a 576 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
YsbytyFfynhonnell y llun, Nick Mason

Mae pump yn rhagor o bobl wedi marw gyda coronafeirws, yn 么l y ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bellach, cyfanswm nifer y marwolaethau Covid-19 yng Nghymru yw 1,630.

Cofnodwyd 576 o achosion newydd o coronafeirws ers dydd Gwener, gan fynd 芒'r cyfanswm i 25,420.

Mae 546,626, o bobl wedi derbyn prawf gyda 521,206 yn profi'n negyddol. Cynhaliwyd cyfanswm o 10,988 o brofion ddydd Gwener.

O'r marwolaethau newydd gafodd eu cyhoeddi ddydd Sadwrn, roedd dau yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, dau yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac un yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Mae 15 allan o 22 sir Cymru dan gyfyngiadau lleol bellach, sydd yn effeithio ar fwy na 2m o bobl.

Yn 么l y ffigurau diweddaraf, mae Rhondda Cynon Taf wedi gweld 67 o achosion newydd, gyda 57 yng Nghaerdydd, 55 yn Abertawe, 31 ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 22 yr un ym Merthyr Tudful a Sir y Fflint, a 21 yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Caerffili, sef y sir gyntaf i brofi cyfyngiadau newydd, wedi gweld 16 achos newydd ac mae'r "data'n dechrau dangos tuedd ar i lawr", yn 么l Dr Chris Williams, cyfarwyddwr digwyddiadau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Er na allwn ddweud yn bendant fod y duedd hon yn ganlyniad i gloi i lawr, rydym yn obeithiol iawn ac rydym yn edrych ar nifer o ffynonellau amgen i ddilysu'r canlyniadau hyn," meddai.

Mae'r gyfradd achos dros saith diwrnod yn dangos 189 o heintiau fesul 100,000 o bobl ym Merthyr Tudful o'i gymharu 芒 45.8 yng Nghaerffili.

Mae Rhondda Cynon Taf wedi gweld 175.7 o achosion fesul 100,000 o bobl, gyda 164.6 ym Mlaenau Gwent a 101.7 yng Nghaerdydd.

Yng Ngheredigion, bu 31.6 achos i bob 100,000 o bobl, gydag 11.9 yn Sir Benfro.

Ynys M么n sydd 芒'r gyfradd achosion isaf gyda 10 haint i bob 100,000 o bobl.

Mae ffigurau ICC yn bennaf yn cofnodi marwolaethau mewn ysbytai, a dim ond yn cynnwys achosion pan gadarnhawyd y feirws mewn prawf labordy.

Nid yw'r ffigurau'n cynnwys marwolaethau preswylwyr o Powys mewn ysbytai yn Lloegr, er bod y rhain wedi'u cynnwys yn nata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.