大象传媒

570 disgybl a saith aelod o staff i hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
ysgol glan clwyd

Mae achosion o Covid-19 mewn tair ysgol yn Sir Ddinbych wedi arwain at 570 o ddisgyblion a saith aelod o staff yn hunan-ynysu.

Dywedodd y cyngor fod hyn yn cynnwys 240 o ddisgyblion blwyddyn naw yn Ysgol Uwchradd y Rhyl.

Ychwanegodd fod un aelod o staff a 240 o ddisgyblion o flwyddyn naw, ynghyd 芒 disgyblion ar un llwybr bws, wedi eu heffeithio yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy.

Mae 90 o ddisgyblion o flwyddyn tri a chwe aelod o staff yn Ysgol Llywelyn yn y Rhyl wedi gorfod hunan-ynysu hefyd.

Mae'r tair ysgol yn parhau ar agor ac fe fydd pawb sydd wedi eu heffeithio yn gorfod hunan-ynysu tan 15 Hydref.

Dywedodd y cyngor ei fod yn gweithio'n agos gyda'r ysgolion, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal 芒 gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru.

Dywedodd swyddogion fod llythyrau wedi eu hanfon at rieni a gwarcheidwaid ddydd Sadwrn i'w hysbysu o'r sefyllfa.

Dylai'r rhai sy'n cael eu cynghori i hunan-ynysu archebu prawf coronafeirws os ydyn nhw'n datblygu peswch newydd neu barhaus, tymheredd uchel neu golli neu newid yn eu harogl neu flas, ychwanegodd y cyngor.