Cynghorau yn wynebu cost o 拢325m yn wyneb y pandemig
- Cyhoeddwyd
Mae costau cynghorau Cymru wedi cynyddu 拢325m dros chwe mis cyntaf pandemig Covid-19, yn 么l y corff craffu Archwilio Cymru.
Dywed adroddiad fod yr awdurdodau lleol wedi gweld 拢165m o gynnydd yn eu gwariant ac 拢160m o ostyngiad yn eu hincwm ers mis Ebrill.
Yn 么l Archwilio Cymru roedd y cynnydd mwyaf mewn costau ym meysydd addysg a gwasanaethau cymdeithasol.
O ran incwm, roedd gostyngiad ym meysydd gwasanaethau hamdden a gwasanaethau diwylliannol.
Dywedodd Archwilio Cymru fod arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi lliniaru ychydig ar y sefyllfa ond "fe allai yna fod bwlch ariannol sylweddol" gweddill y flwyddyn ariannol, a "hynny yn ddibynnol ar natur y pandemig".
Ym mis Mai dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y gallai gymryd hyd at genhedlaeth gyfan i gynghorau dalu am gost y pandemig.
Dywedodd adroddiad Archwilio Cymru yn y tymor byr a chanolig mae'n debygol y bydd:
Gwasanaethau yn gweld cynnydd yn y gost o ddarparu offer diogelwch personol;
Incwm o ganolfannau hamdden a meysydd parcio yn cael eu heffeithio;
Incwm Treth y Cyngor yn gostwng oherwydd effaith economaidd y pandemig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020