Pryder tad bod Covid-19 yn oedi sgan canser prin

Disgrifiad o'r llun, Mae Alex Lovell yn poeni bod ei ferch fach yn aros yn hir cyn cael sgan
  • Awdur, Garry Owen
  • Swydd, Gohebydd Arbennig 大象传媒 Cymru

Mae elusen canser yn poeni am yr effaith y mae Covid-19 yn ei gael ar holl wasanaethau canser yng Nghymru.

Dywedodd Andy Glyde, rheolwr Cancer Research UK yng Nghymru ei fod yn "poeni fod oedi mewn profion a diagnosis yn mynd i arwain at adnabod y cyflwr yn hwyrach ac felly bydd hi'n anoddach i'w drin".

Mae e hefyd yn poeni y gall oedi achosi pryder i gleifion sydd ddim 芒 chanser.

Yn 么l yr elusen mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol barhau i weithio i "ddatblygu safleoedd diogel yn ystod y pandemig er mwyn sicrhau bod profion a thriniaeth canser yn gallu digwydd.

"Rhaid cael cyn lleied o bethau 芒 phosib yn amharu ar y gwaith.

"Mae hefyd yn bwysig fod pobl yn teimlo'n ddiogel i gysylltu 芒'u meddyg teulu os ydynt yn credu bod yna arwyddion neu symptomau posib o ganser," meddai Mr Glyde.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai unrhyw faterion brys gan gynnwys triniaethau canser barhau pan fo hynny'n ddiogel ac er lles y claf.

'Methu cael sgan i'r ferch fach'

Roedd yr elusen yn ymateb i bryder teulu o ardal Pen-y-bont-ar Ogwr sydd wedi dweud wrth raglen y Post Cyntaf eu bod yn poeni am oedi yn y system wrth drefnu sgan ganser ar gyfer ei merch fach flwydd oed sydd wedi cael diagnosis o ganser prin.

Union flwyddyn yn 么l fe gafodd Alys Jade, o Coety, wybod bod ganddi neuroblastoma sydd yn effeithio ar tua 100 o blant bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig - fel arfer plant o dan bump oed. Roedd Alys yn wyth wythnos oed ar y pryd.

Dywedodd ei thad Alex Lovell nad oedd problem o ran apwyntiadau i siarad 芒 meddyg yn ystod y pandemig ond mae nhw'n poeni eu bod nhw yn gorfod disgwyl am sgan.

Roedd Alys i fod i gael sgan ddeufis yn 么l. Mae'r teulu yn dal i aros. Yn 么l Mr Lovell, mae nhw wedi cael dyddiad ond mae nhw'n poeni y gallai hwnnw gael ei ohirio.

'Rhaid cymryd y feirws o ddifri'

Mae Mr Lovell yn dweud bod y sgan yn bwysig eithriadol iddyn nhw fel teulu gan mai dyma y ffordd fwyaf effeithiol o wybod yn union sut mae pethau o ran iechyd ei merch fach.

Mae Alys yn "gwneud yn ardderchog" ar y funud, yn 么l ei thad. Ond maen nhw yn poeni am yr oedi cyn cael sgan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Cancer Research UK yn poeni bod oedi mewn profion a diagnosis o ganser

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ar y 13eg o Fawrth wedi dweud y dylid atal triniaethau sydd ddim yn rhai brys er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Ond roedd e'n gwbl glir y dylai unrhyw faterion brys gan gynnwys triniaethau canser barhau pan bo hynny'n ddiogel ac er lles y claf.

Yn y cyfamser mae Mr Lovell yn apelio ar bawb i ystyried yn ofalus beth yw effaith y pandemig ar y bobl o'u hamgylch ac mae'n gobeithio y bydd clywed am eu sefyllfa nhw fel teulu yn help i sicrhau fod pob un yn cymryd y feirws "o ddifri".