大象传媒

Covid: Dwy farwolaeth arall yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
prawf

Cafodd dwy farwolaeth arall a oedd yn gysylltiedig 芒 Covid-19 eu cofnodi yng Nghymru, yn 么l ffigyrau diweddara Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd yna 467 o unigolion wedi profi'n bositif.

Mae'n golygu fod cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru wedi cyrraedd 1,669 a bod 30,121 achos positif wedi cael ei gadarnhau.

O'r achosion positif roedd yna 46 yng Nghaerdydd, gyda 42 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd 36 o achosion eu cofnodi yn Rhondda Cynon Taf, 33 yn Sir Fflint, ac 32 yn Abertawe.

Roedd yna 29 o achosion yn Wrecsam, a 28 yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cyfraddau uchel

Yng Nghonwy roedd yna 18 achos, gyda 16 yng Ngwynedd.

Merthyr Tudful sydd ar gyfradd uchaf o bobl wedi eu heintio dros gyfnod o saith diwrnod sef 220.5 ym mhob 100,000 o'r boblogaeth.

Yn Sir Fflint y ffigwr yw 164, gyda 161.8 yn Wrecsam a 151.3 yng Nghaerdydd.