Galw am adolygu'r polisi cynllunio 'dadleuol' Un Blaned
- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Sir Caerfyrddin wedi galw am adolygiad o bolisi cynllunio dadleuol sydd yn caniat谩u codi tai carbon isel newydd yng nghefn gwlad.
Yn 么l y Cynghorydd Alun Lenny, fe ddylai Llywodraeth Cymru gyflwyno moratoriwm ar geisiadau o dan y polisi "Un Blaned" nes bod adolygiad llawn a chynhwysfawr yn cael ei gynnal.
Cafodd y polisi Un Blaned ei gyflwyno yn 2010 gan y llywodraeth glymblaid Cymru'n Un.
Mae'r polisi yn caniat谩u codi tai carbon isel yng nghefn gwlad os ydy'r ymgeiswyr yn medru dangos eu bod nhw'n medru byw - i raddau helaeth - yn hunangynhaliol ar y tir wrth dyfu bwyd a chynhyrchu incwm o'r tir.
Mae disgwyl i ymgeiswyr lunio cynllun rheoli ac adroddiadau blynyddol i ddangos eu bod nhw yn cwrdd 芒 meini prawf caeth. Roedd yna gwyno am y polisi yn Sir Benfro y llynedd, gyda rhai yn teimlo fod ardaloedd yn cael eu boddi gan geisiadau Un Blaned.
Yn 么l y Cynghorydd Alun Lenny, mae angen i Lywodraeth Cymru ailystyried y polisi presennol.
"Ar 么l 10 mlynedd mae hi'n bryd adolygu'r polisi yma, dyna sydd yn digwydd gyda polis茂au cynllunio eraill," meddai.
"S'dim dwywaith bod hyn yn achosi digofaint i bobl yng nghefn gwlad sydd yn dweud pam ydyn ni yn gorfod mynd trwy broses gynllunio gwahanol", ychwanegodd, "ac maen nhw'n gweld y bobl yma yn cael caniat芒d yn haws.
"Mae'r polisi yn gwneud pethau yn anodd i'r ymgeiswyr ac i swyddogion cynllunio. S'dim rhaid rhoi tystiolaeth bod eich menter chi eisoes yn llwyddo.
"Yn ymarferol, ydi'r polisi yn gweithio, dyma'r cwestiwn dwi'n codi?"
Fe fydd y Cynghorydd Alun Lenny yn cyflwyno rhybudd o gynnig ffurfiol i'r Cyngor Sir yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad ffurfiol o'r polisi. Yn y cynnig hwnnw, mae'n honni fod y polisi wedi arwain at "greu drwgdeimlad" ymhlith trigolion cefn gwlad.
'Nid bai y bobl'
Mae cefnogwyr cynlluniau Un Blaned yn dweud taw diffyg arbenigedd swyddogion cynllunio sydd ar fai am unrhyw broblemau.
Mae gan Holly Cross o Lwyn-drain yn Sir Benfro nifer o ffrindiau sydd wedi codi tai o dan y polisi: "Dyw diffyg arbenigedd ar y cynghorau ddim yn ddigon o reswm i stopio'r polisi a stopio'r bobl hynny sydd wedi ceisio.
"Nid y bobl sydd ar fai. Diffyg arbenigedd yw'r broblem. Pam ddim hyfforddi pobl yn yr awdurdod lleol?," mae'n gofyn.
"Mae'r polisi yma yn taro deuddeg gyda'r datganiad am argyfwng newid hinsawdd. Mae'n taro deuddeg gyda deddf cenedlaethau'r dyfodol.
"Mae'n esgus i ffindio problemau gyda'r polis茂au achos efallai bod pobl wahanol eisiau byw yn yr ardaloedd yma o dan y polisi yma."
Fe fydd y rhybudd gynnig yn cael ei drafod gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd22 Medi 2015
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2015