大象传媒

Trafod ymestyn cyfyngiadau Bangor i ardaloedd eraill

  • Cyhoeddwyd
BangorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r cyfyngiadau'n effeithio ar 16,000 o bobl mewn wyth o wardiau yn ninas Bangor

Bydd trafodaethau yn cael eu cynnal yn diweddarach i benderfynu os oes angen ymestyn cyfyngiadau coronafeirws dinas Bangor i rannau eraill o Wynedd.

Daeth cyfyngiadau lleol i rym ym Mangor am 18:00 nos Sadwrn.

Mae'r mesurau'n berthnasol i wyth o wardiau - Garth, Hirael, Menai, Deiniol, Marchog, Glyder, Hendre a Dewi - ac mae'n effeithio ar 16,000 o ddinasyddion Bangor.

Nid oes modd teithio i mewn nac allan o'r wardiau dan sylw heb esgus resymol, sy'n cynnwys teithiau gwaith ac addysg.

Mae 15 o ardaloedd drwy Gymru sydd yn destun cyfyngiadau lleol yn siroedd - gyda Bangor a Llanelli yn Sir Gaerfyrddin yr unig ddinasoedd a threfi sydd dan gyfyngiadau lleol penodol.

Bydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd yn cynnal trafodaethau ddydd Llun i benderfynu os oes angen ymestyn cyfyngiadau i ardaloedd eraill yn y sir.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae pethau wedi symud yn eu blaen yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn y cyfyngiadau yn Llanelli, felly nid yw'r sefyllfa heb obaith, oherwydd lle'r ydym wedi gweithredu, mae rhai arwyddion ei bod yn gwneud gwahaniaeth.

"A yw'n gwneud digon o wahaniaeth ac a fydd y gwahaniaeth hwnnw'n ddigon i atal llif pobl i'n hysbytai ac i welyau gofal critigol? Dyna'r cwestiwn ehangach."

Angen 'cynllun eglur'

Wrth siarad ar 大象传媒 Radio Wales fore dydd Llun, dywedodd aelod lleol Senedd Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian o Blaid Cymru: "Rydym angen cynllun eglur yr adeg yma.

"Rydym angen gwybod gan Lywodraeth Cymru - ydy'r cyfyngiadau lleol yn gweithio, ai dyma'r ffordd ymlaen neu oes angen i ni newid cyfeiriad?

"Os oes angen i ni newid cyfeiriad rhaid gwneud hynny mewn ffordd agored a thryloyw sydd yn cael ei gyfleu i'r boblogaeth gyfan er mwyn i bobl ddeall pam fod pethau'n newid."

Ychwanegodd fod y cyfyngiadau newydd ym Mangor dros y penwythnos wedi codi llawer o gwestiynau a bod pobl yn gofyn iddi sut yr oedd y penderfyniadau wedi eu gwneud, gan ofyn "pam nad oedd un rhan o'r ddinas wedi ei chynnwys".

"Maen nhw am gael mwy o dryloywder, ac maen nhw am fy ngweld i a gweld yr arweinwyr cymunedol yn derbyn llawer mwy o wybodaeth i'w rannu gyda'n poblogaeth."