Cyflwyno cyfyngiadau llym am amser byr yn 'sicr o fethu'
- Cyhoeddwyd
Mae mesurau cloi llym iawn am gyfnod byr sy'n cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru yn "sicr o fethu" a byddan nhw'n dod 芒 chost heb unrhyw fuddiannau, yn 么l cyn-Gyfarwyddwr Clefydau Trosglwyddadwy gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod "consensws cynyddol" ynghylch yr angen i gyflwyno mesurau cloi dyfnach dros gyfnod byr o amser - yr hyn sy'n cael ei alw'n circuit-breaker - i arafu lledaeniad Covid-19 drwy'r hydref a'r gaeaf.
Gallai'r rhain gynnwys cau tafarndai a bwytai am gyfnod o amgylch y gwyliau hanner tymor i ysgolion.
Ond yn 么l Dr Roland Salmon bydd y mesurau ond yn oedi'r feirws yn hytrach na'i atal, tra'n achosi costau ychwanegol sylweddol a difrod i'r economi a chymdeithas.
Mae hefyd yn dadlau na fyddai unrhyw fesurau tymor byr sy'n para dwy neu dair wythnos yn ddigon hir i atal Covid-19 rhag lledaenu o aelwydydd lle mae pobl yn heintus ond nad ydynt yn dangos symptomau.
'Oedi'r feirws yn hytrach na'i atal'
"Dydw i ddim yn meddwl y bydd circuit-breaker yn gweithio," meddai wrth 大象传媒 Cymru.
"Fydd o ddim yn gweithio oherwydd bod hyd yn oed SAGE (Pwyllgor Ymgynghorol Gwyddonol Llywodraeth y DU ar gyfer Argyfyngau) yn credu y byddai ond yn oedi'r feirws yn hytrach na'i atal yn gyfan gwbl.
"Ond yn ail mae'n rhaid i chi feddwl am aelwyd o oedolion ifanc, gadewch i ni ddweud dau i bedwar o bobl yn trosglwyddo'r feirws i'w gilydd - pa bynnag gyfnod a ddewiswch ar gyfer y circuit-breaker, rydych chi'n dal i ryddhau pobl heintus i'r gymuned.
"Mae'n sicr o fethu ac mae ganddo gost heb unrhyw fuddiannau."
Pan fydd person mewn aelwyd yn datblygu symptomau neu'n profi'n bositif, mae aelodau eraill o'r aelwyd yn cael eu cynghori i hunan-ynysu am bythefnos.
Ond dyw Dr Salmon, sy'n gyn-epidemiolegydd a arweiniodd yr ymateb i'r achosion E.coli yn ne Cymru yn 2005, ddim yn cefnogi cyfyngiadau cloi hirach.
Yn hytrach, mae'n credu y dylai llywodraethau "ailystyried y model cyfan" a chanolbwyntio mwy ar amddiffyn rhannau mwyaf bregus cymdeithas yn hytrach na gosod cyfyngiadau ar y rhai sy'n cael eu hystyried mewn llai o berygl.
'Angen dull rhesymegol'
"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw fersiwn o'r cyfnod clo sy'n wir yn ymarferol mewn ffordd sy'n atal y feirws," meddai.
"Mae hyd yn oed lefelau eithaf bach o ganiat谩u i bobl wneud y pethau sydd eu hangen arnoch i gymdeithas weithredu yn caniat谩u i'r feirws barhau i ledaenu.
"Felly yn hytrach na chyflwyno cyfnodau clo fesul ardal, byddwn i'n hoffi gweld system sy'n dechrau edrych ar y risg i wahanol bobl, gweithleoedd, galwedigaeth ac amddiffyn pobl ar y llwybr hwnnw.
"Does neb am adael iddo [Covid-19] ledaenu'n rhydd - fel yr hoffai beirniaid y polisi hwn ei ddweud聽 - ond yr hyn rwy'n ei ddweud yw bod angen dull rhesymegol arnom, mae hynny wedi bod ar goll hyd yma."
Fodd bynnag, mae llawer o arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn parhau i gefnogi cyfnodau clo lleol.
Maen nhw'n ofni os yw'r feirws yn lledaenu'n eang, bydd yn diferu i boblogaethau mwy bregus er gwaethaf mesurau amddiffyn.
Mae pryder hefyd y gallai capasiti'r GIG gael ei llethu os bydd y feirws yn lledaenu'n rhy gyflym.
Pwy sy'n cefnogi clo llym?
Fe wnaeth Pwyllgor Cynghori Gwyddonol Llywodraeth y DU (SAGE) annog cyflwyno mesurau llym am gyfnodau byr dair wythnos yn 么l.
Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban y byddai tafarndai a bwytai'n cau ar draws llain ganol y wlad am bythefnos.
Mae'r arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer hefyd wedi galw am gyflwyno cyfnod clo byr yn Lloegr i reoli cyfraddau cynyddol coronafeirws.
Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r mesurau hynny'n cael eu hystyried yng Nghymru, ac yn gynharach yr wythnos hon galwodd Prif Weinidog Cymru ar Boris Johnson i gynnal cyfarfod COBR(a) fel y gallai pob un o wledydd y DU eu trafod.
Trwy gydol pandemig Covid-19 mae Dr Salmon wedi bod yn feirniadol o'r ffordd y mae llywodraethau ledled y DU wedi defnyddio cyngor gwyddonol.
"Mae'n ymddangos i mi fod y penderfyniadau gwyddonol yn cael eu gwneud gan bobl sydd ag ychydig o brofiad uniongyrchol - yn sicr o'r ffliw聽- ac mae llawer o gymysgu 芒 rhannau gwleidyddol y broses o wneud penderfyniadau," meddai.
"Yng Nghymru mae llawer o bobl roeddwn i'n disgwyl fyddai'n cymryd rhan, ddim yn cymryd rhan."
'Ton 6 i 12 wythnos'
Ond mae Dr Salmon yn dweud ei fod yn obeithiol na fydd y don hon o Covid-19 yn para mor hir ag y mae ambell un yn poeni.
"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw reswm bod y feirws hwn yn mynd i ymddwyn yn wahanol i afiechydon anadlol eraill rydym yn gwybod cryn dipyn amdanynt," meddai.
"Rwy'n credu y dylem gael epidemig y tro hwn o rhwng chwech a 12 wythnos ac felly dylai fod yn glir erbyn dechrau mis Rhagfyr.
"Gallwn fod yn anghywir ond dyna fy marn yn seiliedig ar brofiad."
Yn siarad fore Mercher, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru eto bod mesurau llym am gyfnod byr yn opsiwn sy'n cael ei ystyried.
Dywedodd Vaughan Gething bod gwyliau hanner tymor yn gyfle i gyflwyno'r mesurau os ydynt yn digwydd, ond bod y llywodraeth yn derbyn cyngor ar beth fyddai'n ei olygu i Gymru dros y dyddiau nesaf.
Er hynny, ychwanegodd y byddai'n well ganddo weld "sgwrs pedair gwlad drwy COBR [cyfarfod argyfwng Llywodraeth y DU]" i drafod y ffordd ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2020