大象传媒

Covid-19: Atal llawdriniaethau'r galon Ysbyty Treforys

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty TreforysFfynhonnell y llun, Jaggery / Geograph
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pedair ward yn Ysbyty Treforys wedi cael eu cau er mwyn atal heintiau pellach

Mae llawdriniaethau'r galon a oedd wedi eu trefnu yn Ysbyty Treforys, Abertawe wedi eu hatal dros dro yn dilyn achosion o Covid-19.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe bod 10 o gleifion a phump aelod o staff wedi profi'n bositif am y feirws fel rhan o glwstwr yn yr ysbyty dros y dyddiau diwethaf.

Mae'r rhan fwyaf o'r achosion o fewn gwasanaethau cardioleg.

Bydd triniaethau brys ar y galon yn parhau fel yr arfer, meddai'r datganiad, a bydd y llawdriniaethau sy'n cael eu hatal yn cael eu haildrefnu cyn gynted 芒 phosib.

Mae pedair ward wedi cael eu cau er mwyn atal heintiau pellach.

Dywedodd y bwrdd bod y staff sydd wedi profi'n bositif, a'r rheiny sydd wedi dod i gysylltiad 芒 nhw, yn ynysu gartref, tra bod y cleifion sydd wedi profi'n bositif yn cael gofal yn yr ysbyty.

Yn ogystal, mae naw aelod o staff mamolaeth wedi cael profion positif yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

Dywedodd y bwrdd iechyd nad yw cleifion wedi cael profion positif a bod gwasanaethau'n parhau fel arfer.

Daw'r newyddion yma lai na 24 awr wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gadarnhau bod eu bod yn delio 芒 chlwstwr o achosion coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.

Mae tair ward yno yn wedi cael eu cau, ac 14 o gleifion wedi cael eu heintio.

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, yr Athro Richard Evans:

"Mae diogelwch ein cleifion a'n staff yn hollbwysig ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y feirws wrth leihau'r effaith ar ein gwasanaethau.

"Fodd bynnag, fel mesur rhagofalus, mae triniaethau ar y galon a oedd wedi cael eu trefnu yn Ysbyty Treforys yn cael eu haildrefnu.

"Byddwn yn parhau i fonitro a rheoli'r sefyllfa'n agos."