Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Clo byr: Rheoli Covid cyn y Nadolig neu risg economaidd?
Wrth i Lywodraeth Cymru ystyried a fyddan nhw'n cyhoeddi cyfnod clo byr, mae yna deimladau cymysg ynghylch y posibilrwydd mewn mannau lle nad oes cyfyngiadau lleol wedi bod hyd yma ers y cynnydd sylweddol diweddar yn nifer achosion coronafeirws.
Yn 么l arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn mae data'n awgrymu bod teithio o ardaloedd ble mae cyfraddau uchel o'r feirws yn ffactor o ran cynnydd yn nifer achosion ar draws y sir.
Mae'n dadlau hefyd y byddai'n well ceisio cael rheolaeth ar y sefyllfa cyn cyfnod prysur y Nadolig.
Ond yn 么l dirprwy arweinydd Cyngor Powys, Aled Davies, byddai cloi pob rhan o'r wlad yn creu "niwed mawr i economi Cymru" ac yn gwneud bywyd yn anodd mewn ardaloedd 芒 chyfraddau isel o'r haint.
Daeth y 大象传媒 i ddeall ddydd Iau y byddai yna gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o fewn dyddiau ynghylch cyflwyno cyfnod clo byr a llym i dorri ar gylchrediad Covid-19, a bod trafodaethau eisoes gyda'r diwydiant lletygarwch ac arweinwyr awdurdodau lleol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Eluned Morgan wrth raglen y Post Prynhawn fod trafodaethau'n parhau, ond bod dim disgwyl penderfyniad cyn y penwythnos.
Ar raglen Post Cyntaf ddydd Gwener, dywedodd Ellen ap Gwynn ei bod o blaid cyflwyno'r hyn sy'n cael ei alw'n circuit-breaker "ar 么l gweld y dystiolaeth... am ei bod hi yn well gwneud hyn nawr a cheisio rheoli'r afiechyd cyn cyfnod y Nadolig achos dyna pryd mae pobl yn gwario fwyaf".
"Rwy'n ymwybodol y byddai clo nawr yn effeithio efallai ar fusnesau twristiaeth, ond un o'r pethau ddaeth o'r trafodaethau gydag arweinwyr eraill oedd y pwysigrwydd i roi pecynnau ariannol i gefnogi busnesau fyddai'n cael eu taro gan glo byr."
"O edrych ar y data mae nifer yr achosion yng Ngheredigion yn cynyddu am fod pobl yn dod mewn i'r sir. Roedd criw o fyfyrwyr newydd wedi cynyddu'r niferoedd yma ac wrth lwc mae hynny wedi ei gyfyngu i gampws y brifysgol.
"Ond o'r achosion sydd ar hyd a lled y sir wrth ymholi ymhellach, maen nhw wedi bod yn yr ardaloedd lle mae'r afiechyd yn fwy cyffredin felly mae nhw'n ei gario'n 么l.
"Dyna pam fy mod i yn croesawu y gwaharddiad teithio o'r ardaloedd lle mae'r afiechyd yn drwch."
'Haws cloi ardal na'i hailagor'
Hefyd ar Post Cyntaf, dywedodd Aled Davies, sydd hefyd yn gyfrifol am faterion cyllid, cefn gwlad a thrafnidiaeth ym Mhowys, ei fod "ddim yn cytuno yn llwyr" 芒'r syniad.
"Mae ffigyrau Powys yn weddol isel ond mae tir Powys yn ymestyn dros chwarter maint Cymru, gyda dim problemau mewn rhai ardaloedd ond problemau mewn ardaloedd eraill," meddai.
"Mae cloi pobman lawr yn mynd i neud niwed mawr i economi Cymru a dwi ddim yn si诺r a oes yna dystiolaeth bod hyn yn mynd i ddigwydd eto.
"Mae'n haws cloi ardal am bythefnos, tair wythnos ond mae'n anodd ailagor eto. Mae yna berygl y byddai hyn yn achosi niwed hirdymor i economi Cymru."
Ychwanegodd fod yna berygl "i wneud hyn yn fater rhwng Cymru a Lloegr", ond atebodd y Cynghorydd ap Gwynn fod dim rhwystr ar deithio o ardaloedd risg isel gweddill y DU i ardaloedd tebyg yng Nghymru.
'Gwell nawr na nes ymlaen'
Un sydd o blaid peidio oedi gormod cyn cyflwyno cyfnod clo llym a byr, er heriau'r misoedd diwethaf, yw Aled Rees, sydd 芒 sawl busnes yn Aberystwyth, gan gynnwys Siop Y Pethe a Theithiau Cambria.
Ond mae'n dadlau bod angen pennu cyfnod pendant, ystyried cau ysgolion ac archfarchnadoedd hefyd, a sicrhau mwy o gefnogaeth ariannol i fynd i'r afael 芒'r argyfwng iechyd ac economaidd.
"Ma' ofn arna'i os nad y'n ni yn cloi nawr a bod ni gorfod cloi diwedd y flwyddyn, bydd problem fawr o ran y busnes manwerthu," meddai.
"Fi yn poeni am y gaeaf ma' - gaeaf hir o'n bla'n ni, ac os na 'newn ni r'wbeth nawr byddwn ni mynd mewn i hwn eto ac eto.
"Bydd raid inni gael ryw fath o gefnogaeth ariannol o ran cadw staff, ac efalle help gyda rent neu forgais. Ond os na wnewn ni fe nawr fe fydd yr effaith hirdymor yn waeth."
"Wrth gwrs, fe fydd rhai pobl yn ennill ac eraill yn colli o ran yr economi," meddai'r darlithydd mentergarwch ym Mhrifysgol Abertawe, Dr Robert Bowen, "yn enwedig o ystyried efalle bod hwn yn dod ar gyfnod hanner tymor".
"Os oes cyfnod clo am tua tair wythnos fe fydd busnese'n gallu paratoi ar gyfer hynny.
"Nid gwrthdaro rhwng iechyd ac economi yw hyn," ychwanegodd, gan gyfeirio at Seland Newydd fel esiampl o wlad sydd "wedi cael gwared ar feirws yn y gymuned ac ailagor yr economi".