大象传媒

'Stopiwch defnyddio safle Penalun yn syth'

  • Cyhoeddwyd
Nwyddau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth ymgeiswyr lloches ddechrau cyrraedd y safle ddiwedd Medi

Mae Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru yn galw am stopio gosod ceiswyr lloches mewn safle hyfforddi milwrol yn Sir Benfro, gan ddadlau bod y cynllun yn niweidiol i'w lles a'u hiechyd.

Mae penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio gwersyll Penalun fel canolfan ceiswyr lloches yn tanseilio nod Cymru o fod yn 'Genedl Noddfa', medd yr AS a'r Prif Chwip, Jane Hutt AS.

"Credwn y dylid rhoi diwedd ar y defnydd o'r gwersyll cyn gynted 芒 phosibl," meddai.

Mae'r Swyddfa Gartref wedi ymddiheuro i drigolion y pentref ger Dinbych-y-pysgod am beidio 芒 chysylltu 芒 nhw cyn addasu'r safle er mwyn cartrefu ceiswyr lloches am hyd at 12 mis.

"Nid yw'r gwersyll yn diwallu anghenion sylfaenol pobl sy'n ceisio bywyd newydd yn y DU," meddai Ms Hutt.

"Mae pobl yn cael eu gosod mewn llety na luniwyd i'w ddefnyddio yn hirdymor, ac nad yw'n addas i'r diben - cytiau wedi'u hinswleiddio'n wael yn bennaf - ac mae perygl i nifer o bobl fregus sydd o bosib wedi ffoi rhag camdriniaeth a phoenydio wynebu ail drawma."

Sawl cais am newidiadau

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi gofyn am oedi'r cynllun er mwyn sicrhau fod awdurdodau lleol yn gallu paratoi gwasanaethau cyn dyfodiad y ceiswyr lloches.

"Gwrthodwyd ein cais ac, o ganlyniad, nid oes mesurau priodol yn eu lle," medd Ms Hutt.

"Rydym wedi gofyn dro ar 么l tro i'r Swyddfa Gartref wneud newidiadau i amddiffyn iechyd a lles ceiswyr lloches sy'n cael eu symud i wersyll Penalun, gan barhau i drafod gyda phreswylwyr lleol.

"Rydym yn ceisio atal y canlyniadau mwyaf niweidiol, megis ail drawma a throseddau casineb, tra'n anelu at atebion hirdymor."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae protestiadau wedi eu cynnal o blaid ac yn erbyn defnyddio'r gwersyll fel canolfan ceiswyr lloches

Ychwanegodd: "Nid ydym eto wedi derbyn esboniad clir dros benderfyniad y Swyddfa Gartref i ddewis y safle hwn i adleoli ceiswyr lloches, ac nid ydym chwaith wedi derbyn strategaeth glir ar sut y bydd y Swyddfa Gartref yn mynd i'r afael 芒'r diffyg llety gwasgaru ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig.

"Hyd yma, ni chafwyd unrhyw gymorth ariannol gan y Swyddfa Gartref i'r cyrff cyhoeddus ddarparu gwasanaethau o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, yn ystod cyfnod o bwysau na welwyd ei debyg o'r blaen."

Mae'r Swyddfa Gartref wedi dweud bod rhaid gweithredu'n gyflym oherwydd "angen brys" i ddarparu llety addas i ymgeiswyr lloches oedd yn ddigartref.

Maen nhw hefyd wedi pwysleisio fod yr awdurdod lleol yn derbyn treth cyngor mewn cysylltiad 芒'r safle, bod modd i'r heddlu geisio am gyllid i dalu'u costau, a'u bod y Swyddfa Gartref yn darparu gwasanaethau iechyd yno er mwyn osgoi defnyddio adnoddau lleol.