Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyfyngiadau ar deithio i Gymru o rai mannau yn dod i rym
Mae cyfyngiadau i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd 芒 chyfraddau uchel o coronafeirws rhag teithio i Gymru wedi dod i rym.
O dan y rheoliadau, ni fydd pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o coronafeirws yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y "camau'n cael eu cymryd oherwydd bod Prif Weinidog y DU wedi gwrthod ceisiadau Prif Weinidog Cymru" i gyfyngu ar deithio o ardaloedd o'r fath.
Y nod ydy atal y feirws rhag symud o ardaloedd lle mae lefelau uchel o Covid-19 i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion.
Fe ddaeth y rheoliadau newydd i rym am 18:00 ddydd Gwener.
I ddechrau, bydd y gwaharddiad mewn grym ar gyfer Gogledd Iwerddon i gyd, canolbarth Yr Alban ac unrhyw un sydd yn nwy haen uchaf y cyfyngiadau yn Lloegr.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae rhan helaeth o Gymru bellach o dan gyfyngiadau lleol, sy'n golygu nad yw trigolion yr ardaloedd diogelu iechyd lleol hyn yn cael teithio y tu hwnt i ffiniau eu siroedd heb esgus rhesymol.
"Er mwyn diogelu Cymru, rydyn ni'n cyflwyno'r rheoliadau teithio newydd ehangach hyn i'w gwneud yn glir na chaiff pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle mae lefelau'r coronafeirws yn uchel deithio i rannau o Gymru lle mae nifer yr achosion yn isel.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i gadw'r cymunedau lle mae lefelau'r haint yn isel mor ddiogel 芒 phosibl, a bydd y cyfyngiad synhwyrol ac angenrheidiol hwn yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd trefol, poblog iawn i ardaloedd llai poblog."
Beth ydy'r cyfyngiadau newydd?
Mae teithio i mewn ac allan o 17 ardal yng Nghymru eisoes wedi'i gyfyngu i deithiau angenrheidiol.
Gall pobl ond teithio i lefydd fel Caerdydd neu Abertawe os oes ganddyn nhw esgus rhesymol fel gwaith neu addysg.
Ond cyn heddiw roedd hi'n bosibl i bobl oedd yn byw mewn ardaloedd sy'n destun cyfyngiadau yn Lloegr deithio i rannau o Gymru sydd ddim o dan glo, fel Powys, Ceredigion, Sir Benfro ac Ynys M么n.
Mae'r rheoliadau newydd i bob pwrpas yn cyfyngu teithio i'r lleoedd hynny.
Maen nhw hefyd yn rhwystro unrhyw un o ardal yng Nghymru lle mae nifer yr achosion yn isel rhag teithio i ardaloedd lle mae cyfradd yr achosion yn uchel, ac yna dychwelyd i Gymru.
Ond mae eithriadau i'r rheoliadau newydd - tebyg i'r rhai sydd mewn bodolaeth mewn ardaloedd yng Nghymru sydd eisoes yn wynebu cyfyngiadau.
Mewn datganiad ar ran y pedwar llu heddlu yng Nghymru, dywedodd Nigel Harrison o Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn barod i weithredu yn erbyn y rheiny sy'n torri'r rheolau newydd.
"Fe fyddwch yn ein gweld yn fwy aml ar draws ein hardaloedd ble byddwn yn ceisio helpu ein cymunedau i ymddwyn yn iawn a diogelu eu hunain ac eraill," meddai.
"Rydym yn parhau i sicrhau, rhoi gwybod ac ymgysylltu 芒 phobl - gan egluro'r rheoliadau ac annog pawb i gydymffurfio.
"Serch hynny mae'n rhaid i ni nawr orfodi'r rheoliadau pan fyddant yn cael eu torri, ni fyddwn yn caniat谩u i'r lleiafrif beryglu iechyd y mwyafrif sydd wedi aberthu cymaint dros y misoedd diwethaf.
"Rydym yn bwriadu canolbwyntio ar ardaloedd ac ymddygiad sy'n achosi'r perygl mwyaf i'n cymunedau a byddwn yn weithgar yn targedu'r rhai nad ydynt yn cadw ar y rheolau, boed y tu fewn neu'r tu allan."