Y wefr o ddarlledu o'r T欧 Gwyn i newyddiadurwr o Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
I ddilynwyr newyddion selog mae Jane O'Brien yn llais ac yn wyneb y 大象传媒 yng ngogledd America. Yn aml mae hi i'w gweld yn darlledu o'r T欧 Gwyn, bu'n gohebu o seremon茂au coffa George Floyd a hi yw cyflwynydd World News America ar 大象传媒 World ond mae'n dod o Drewyddel yn Sir Benfro ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol y Preseli yng Nghrymych.
I chi drydarwyr hi yw @trowynt ac fe ddewisodd yr enw am ei bod am gael enw Cymraeg a'r "tebyg yw bod yna ryw gyffro yn fy mywyd ar y pryd ond allai'm cofio beth," meddai wrth siarad 芒 Cymru Fyw.
Wrth gofio'r dyddiau'r cynnar yn Sir Benfro dywed bod ei mam-gu yn siarad Cymraeg ond dysgu Cymraeg a wnaeth hi yn Ysgol Trewyddel.
'Wastad mewn trwbwl'
"Yr ysgol a anogodd fi i gystadlu yn eisteddfodau'r urdd ac mi ges i gryn lwyddiant yn adrodd Y Bws a dwi dal i gofio'r llinellau cyntaf," meddai.
"Ond doeddwn i ddim yn ddisgybl perffaith o bell ffordd - ro'n yn dueddol o gael fy hun i drwbwl ac roedd yn well gen i yrru tractor, cywain gwair, wyna a dofi ceffylau na gwaith ysgol.
"Roeddwn yn eitha hoff o Saesneg a Chelf ond gan i fi fethu disgyblu fy hun i weithio fe fethais 芒 chyrraedd yr un brifysgol. Ond un diwrnod dyma fi'n mynd i swyddfa papur newydd y Tivyside Advertiser yn Aberteifi a diolch byth mi wnaeth y golygydd Aneurin Evans gynnig profiad gwaith i fi.
"Ro'dd bod yn y fan honno yn brofiad gwych ac wedi'r camau cychwynnol ym myd newyddiaduraeth dyma gael gwaith gan y Merthyr Express - sioc i bawb! Roedd hyfforddiant papur newydd Thomson yn dysgu rhywun i ohebu o'r llys, delio 芒 chyfarfodydd cyngor, curo ar ddrysau heb gael eich dyrnu, a llaw fer - sgiliau cwbl hanfodol i unrhyw newyddiadurwr," ychwanega Jane O'Brien.
Wedi cyfnod ar y South Wales Echo ac yna gorsaf radio Red Dragon, cafodd Jane waith yn 大象传媒 Cymru.
"Fy stori fawr, heb os, oedd suddo llong olew y Sea Empress yn 1996. Fi oedd y gohebydd 大象传媒 cyntaf i gyrraedd ac yna dyma fi'n cael cynnig gwaith yn y 大象传媒 yn Llundain cyn cael fy mhenodi yn ohebydd gorllewin Lloegr gan gyfrannu yn gyson i brif raglenni newyddion y 大象传媒.
Cwrdd 芒 swyddog FBI a'i briodi
"Doeddwn i ddim wedi gwneud fawr o ohebu tramor ond fe wnaeth 9/11 newid popeth a dyma fi'n cael fy anfon i Bahrain i gyfweld 芒 chriw awyren yr US Fifth Fleet oedd yn gwbl ganolog i'r ymgyrch fomio yn erbyn y Taliban yn Afghanistan. Bum yn holi'r peilotiaid a'r criw oedd yn ei chanol hi a rhyw flwyddyn a hanner wedyn ces fy anfon i Kuwait i ohebu ar ymosodiad Irac.
"Ond yng nghanol yr erllychterau dyma fi'n cyfarfod y dyn a ddaeth yn 诺r i fi - roedd e'n swyddog FBI oedd yn ymchwilio i ymosodiadau terfysgol ar America. Fe briodon ni'n Efrog Newydd yn fuan wedyn a symud i fyw yno."
Dyma ddechrau pennod newydd arall ym mywyd Jane O'Brien - gweithio i elusen UNICEF wnaeth hi i ddechrau ond yna dychwelyd i'r 大象传媒 ac ymgartrefu yn Washington i fod yn ohebydd Gogledd America a chyflwynydd World News America.
Gwefr darlledu o'r T欧 Gwyn
"Mae gohebu o'r T欧 Gwyn yn fraint - fel arfer byddaf yn sefyll ychydig lathenni o fynedfa y West Wing yn gweld arweinwyr byd yn mynd a dod.
"Mae darlledu o'r Capitol yn brofiad rhyfeddol - a chwrdd 芒 Seneddwyr ac aelodau o'r Gyngres. Mae'n rhaid i fi ddweud bo fi'n teimlo cryn bwysau wrth i Americanwyr cyffredin ganiat谩u fi i'w bywydau ac mae'n gyfrifoldeb mawr.
"Yn anffodus dau ddimensiwn sydd yna bellach i wleidyddiaeth a materion eraill yn America - chwith neu dde, da neu ddrwg, Gweriniaethol neu Ddemocrataidd. Mae'n fwy pwysig nag erioed i glywed lleisiau'r tir canol," meddai.
"Mae'r pandemig, heb os, wedi effeithio ar y ffordd ry'n yn gohebu ar bethau - yn enwedig ymgyrch yr etholiad arlywyddol.
"Mae gohebu'n fwy anodd ond nid yn amhosib. Rwy'n ymdrin 芒'r sefyllfa yn yr un ffordd a dwi'n trin unrhyw sefyllfa beryglus - asesu'r risg, penderfynu be sy'n dderbyniol a chymryd camau i amddiffyn eich hun, eich t卯m a'r bobl ry'ch yn eu holi.
"Dyna'r ystyriaethau a wnes i wrth deithio i Minneapolis a Houston i ohebu ar seremon茂au coffa George Floyd.
"Fe ddaeth miloedd i brotestio yn erbyn ei farwolaeth ac i alw am gyfiawnder. Mae UDA fel petaent wastad yn delio 芒 hanes hiliol ac fe wnaeth marwolaeth Mr Floyd agor pennod newydd. Mae mwy o bobl bellach yn rhan o'r drafodaeth ac mae mudiadau hawliau dynol wedi cael bywyd newydd."
Pwy fydd yr Arlywydd?
"Pwy a 诺yr beth fydd canlyniad yr Etholiad Arlywyddol? Mae Donald Trump ar ei h么l hi yn y polau piniwn ar hyn o bryd ond roedd hynny'n wir yn 2016 hefyd pan drechodd e Hillary Clinton," ychwanega Jane O'Brien.
"Mae polau piniwn yn nodi sut mae pobl yn debygol o bleidleisio nid sut y byddant yn pleidleisio go iawn. Dyw nifer o Weriniaethwyr ddim yn hoffi'r arlywydd ond mi fyddant yn pleidleisio i'r blaid - yn bennaf oherwydd materion sy'n rhannu'r wlad sef trethi, erthyliad, r么l y llywodraeth a pherchnogaeth gynnau. Ydi mae'n gyfnod difyr i bob newyddiadurwr!"
Ond er cyffro gwleidyddiaeth a newyddion America, dywed Jane O'Brien bod Cymru yn agos iawn i'w chalon er nad oes ganddi lawer o deulu yn Sir Benfro bellach.
"Yn Washington roeddwn i'n aelod o'r Washington Welsh ac roedd hynny yn lot o hwyl. Rwy' hefyd yn ymarfer fy Nghymraeg yn gyson drwy wefan ffantastig . Mae'n drueni, roedd Mam-gu yn gwbl rhugl yn y Gymraeg ac er bod Dad yn dod o Lanelli roedden ni'n siarad Saesneg adref.
'Fan hyn rwy'n teimlo hiraeth'
"Dwi wrth fy modd yn dod n么l ac ymweld 芒'r llefydd roeddwn i'n arfer mynd iddyn nhw pan yn blentyn. Mae Llwybr Arfordirol Penfro yn ffefryn - yn enwedig Bae Ceibwr lle arferwn fynd 芒 fy ngheffyl i'r d诺r oer. Dwi fel arfer yn hoffi aros ym Mythynnod Troed-y-rhiw - man geni Mam-gu.
"Fy nghariad at Sir Benfro sydd i gyfrif, mae'n debyg, fy mod bellach yn byw yn New Hampshire yng nghalon y Mynyddoedd Gwyn. Maen nhw yn fy atgoffa fi o Breseli er ychydig yn fwy! Mae pobl, medden nhw, naill ai'n dyheu am y m么r neu'r mynydd. Roedd gen i'r ddau yn Sir Benfro ond nawr rwy' wedi dewis y mynyddoedd.
"O gyffro'r ddinas, rwy'n mwynhau bywyd gwledig sy'n debyg iawn i Gymru ond mae'r bywyd gwyllt bach yn wahanol - yma mae yna eirth du, coyotes ac ambell f诺s.
"Mae'r awyr yn l芒n, mae modd gweld y s锚r yn y nos a gall y tywydd droi yn sydyn - yn fan hyn rwy'n teimlo hiraeth," medd Jane O'Brien.
Hefyd o ddiddordeb: