大象传媒

Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth o'r rheilffyrdd

  • Cyhoeddwyd
Trafnidiaeth CymruFfynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Enillodd KeolisAmey gytundeb pum mlynedd gwerth 拢15bn yn 2018 i redeg gwasanaethau tr锚n Cymru a'r Gororau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd rheilffyrdd yn dod o dan ei gofalaeth o fis Chwefror 2021.

Dywed y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates fod hyn yn dilyn "cwymp dramatig yn nifer y teithwyr" yn sgil y pandemig coronafeirws.

Y cwmni preifat KeolisAmey sydd wedi bod yn gyfrifol am y cytundeb ar ran y corff cyhoeddus, Trafnidiaeth Cymru ers Hydref 2018.

O dan y cytundeb newydd, bydd is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru, sy'n eiddo cyhoeddus, yn rhedeg y gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd.

Ychwanegodd Mr Skates y byddai'r penderfyniad yn helpu i ddiogelu gwasanaethau teithwyr yng Nghymru a'r Gororau ac yn amddiffyn swyddi.

Ni fydd cynlluniau ar gyfer system metro yn cael eu heffeithio, meddai.

Dywedodd y gweinidog Ken Skates: "Mae'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod heriol i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU.

"Mae Covid wedi cael effaith sylweddol ar refeniw teithwyr ac mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i mewn gyda chefnogaeth sylweddol i sefydlogi'r rhwydwaith a'i gadw i redeg.

"Rydyn ni wedi penderfynu trosglwyddo gwasanaethau rheilffordd o ddydd i ddydd i is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru sydd dan berchnogaeth gyhoeddus."

Yn y Senedd yn ddiweddarach, dywedodd dirprwy weinidog bod cynllun busnes y rheilffordd wedi "dymchwel" yn sgil y pandemig, ac nad oedd Keolis yn "fodlon ysgwyddo eu rhan o'r baich".

Dywedodd Lee Waters AS nad oedd costau hirdymor rhedeg y gwasanaeth yn amlwg: "Mae'n dibynnu ar Covid. Dydyn ni ddim yn gwybod."

'Angen eglurhad brys'

Dywed llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru, Helen Mary Jones, y "dylai'r fath gyhoeddiadau gael eu gwneud yn ein Senedd yn gyntaf".

"Gallai hwn fod y penderfyniad cywir," meddai. "Mae Plaid Cymru bob amser wedi honni y dylid dod 芒'n rheilffyrdd i ddwylo cyhoeddus a dylai'r llywodraeth roi teithwyr o flaen elw.

"Gwnaethom alw am i'r fasnachfraint reilffordd fod yn fodel dielw cyn iddi gael ei gosod - galwadau a wrthodwyd gan Lafur.

"Ond mae cwestiynau hanfodol yn parhau. Beth yw'r goblygiadau ariannol? A oes gan Drafnidiaeth Cymru y gallu i reoli'r gwasanaeth yn uniongyrchol? Beth yw natur yr is-gwmni?

"Dylid cyhoeddi penderfyniadau o'r pwysigrwydd hwn yn y Senedd fel y gall aelodau ofyn cwestiynau ar ran pobl Cymru. Rwy'n ddiolchgar i'r gweinidog am gytuno i gwrdd 芒 mi yn breifat i drafod, ond nid yw hynny'n cymryd lle craffu cyhoeddus."

Ffynhonnell y llun, TfW

Dywedodd llefarydd ar ran economi y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "O ystyried hanes Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur, nid yw ei phenderfyniad i reoli ein diwydiant trenau hanfodol wedi fy llenwi ag unrhyw obaith.

"O ystyried pa mor ddibynnol yw pobl Cymru ar ddefnyddio trenau, ni allwn ganiat谩u i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur ei rhedeg i'r llawr, fel sydd wedi digwydd gyda Maes Awyr Caerdydd."

Roedd yn cwestiynu hefyd pam fod "unrhyw gefnogaeth yn cael ei gadael tan fis Chwefror 2021".

Ond mae gwladoli gwasanaethau rheilffordd Cymru'n gwneud synnwyr, yn 么l Yr Athro Stuart Cole, athro emeritws trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Cymru.

"Roedd Llywodraeth Cymru eisoes yn rhoi cymhorthdal i wasanaethau Trafnidiaeth Cymru - tua 拢230m o gost cyfanswm o 拢360m," meddai.

"Bydd y cam, o bosib, yn gwneud hi'n haws i Lywodraeth Cymru wireddu ei nod hirdymor o ddatblygu gwasanaeth trafnidiaeth hollol integredig i Gymru."

'Dim llawer o newid i deithwyr'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf fore Iau, ychwanegodd Yr Athro Cole: "Fydd pobl ddim yn gweld llawer o newid.

"Y gobaith yn y flwyddyn nesa yw y bydd yr holl system docynnau yn newid.

"Er enghraifft os am deithio o Aberystwyth i Gaerdydd ar drafnidiaeth gyhoeddus fe allwch chi gael bws Traws Cymru i Gaerfyrddin yna tr锚n Trafnidiaeth Cymru i Gaerdydd. Un tocyn fydd ar gael ac fe fydd amserau yn ffitio mewn o un gwasanaeth i'r llall.

"Bydd gweinidogion yn gallu edrych yn llawer mwy manwl ar beth mae teithiwr eisiau."

Mae cofnodion T欧'r Cwmn茂au'n dangos fod cwmni wedi ei sefydlu yn gynharach eleni dan yr enw Wales Operator of Last Resort Limited.

Prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, gafodd ei gofrestru fel cyfarwyddwr y cwmni, a newidiodd ei enw i Transport for Wales Rail Limited ar 16 Hydref.