大象传媒

拢10m i wella cymorth iechyd meddwl myfyrwyr prifysgol

  • Cyhoeddwyd
Darlith cyfnod Covid-19Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd gwasanaethau iechyd meddwl i fyfyrwyr yn derbyn cefnogaeth ychwanegol yn ystod y pandemig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n rhoi 拢10m ychwanegol i roi cymorth i fyfyrwyr sy'n hunan-ynysu neu ei chael hi'n anodd ymdopi yn y brifysgol.

Mae myfyrwyr yn wynebu "profiad cwbl wahanol" eleni o ganlyniad i'r cyfyngiadau Covid-19, a gobaith y llywodraeth ydy i brifysgolion "gryfhau eu gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr".

Dywedodd un sydd wedi dechrau yn y brifysgol eleni bod yr amodau presennol yn anodd i rai myfyrwyr, er gwaethaf ymdrechion sefydliadau i sicrhau'r profiad gorau bosib.

Yn 么l Llywydd NUS Cymru, Becky Ricketts, mae'r arian "yn dod ar amser da i fyfyrwyr sy'n cael cyngor i beidio teithio adref ar gyfer y cyfnod clo" sy'n dod i rym yng Nghymru nos Wener.

Gwella'r cymorth i fyfyrwyr a staff

Gobaith y llywodraeth ydy cefnogi gwasanaethau iechyd meddwl a chronfeydd caledi ariannol i fyfyrwyr.

Y bwriad ydy gwella gallu undebau myfyrwyr a phrifysgolion i ddarparu cymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr a staff, a mesurau i sicrhau bod prifysgolion yn fwy diogel rhag hunanladdiad.

Bydd yn cynnwys gwasanaethau ar-lein a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd hefyd yn helpu prifysgolion i gryfhau eu gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys gwasanaethau bwyd i fyfyrwyr sy'n gorfod hunan-ynysu.

'Mae jyst mor anodd'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n anodd peidio gallu gweld ffrindiau oherwydd y cyfyngiadau Covid, medd Rhian-Carys Jones

Mae Rhian-Carys Jones, sy'n hanu o'r Fflint, newydd ddechrau astudio canu opera a cherddoriaeth glasurol yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.

"Dim ond 25% sy'n gallu bod yn yr adeilad ar unwaith," meddai, gan ddisgrifio'r rhwystrau ychwanegol dan yr amgylchiadau presennol o ran ceisio dod i 'nabod pobl eraill yn y brifysgol.

"Dim ond fi sy'n gantores yn y fflat, so mae jyst mor anodd, achos mae ffrindie fi gyd mewn fflat ar wah芒n... fi methu cymysgu 'da nhw, ac mae Covid yn neud o ten times fwy anodd.

"Obviously,'da chi ddim yn gweld y bobl yma bob dydd mewn y byd go iawn - weithiau 'da chi'n gweld rhai pobl ar Zoom, ac wedyn 'da chi yn yr adeilad 'da nhw. Ac wedyn pam 'da chi'n gweithio fel gr诺p obviously chi'n gorfod bod dwy fetr i ffwrdd o bobl, so mae'n eithaf anodd.

"Mae'r coleg yn trio neud popeth maen nhw'n gallu i neud yn si诺r bod ni'n cael y profiad gorau 'da ni'n gallu, ond mae yn anodd a fi'n gwybod bo rhai pobl yn ffeindio fe'n galed yn gadael adre anyway."

Mae Rhian-Carys yn croesawu'r arian ychwanegol ar gyfer rhoi mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr ymdopi 芒'r pandemig.

"Swn i'n dweud bo hynna'n beth da," meddai. "Mae'r prifysgolion yn colli allan ar lot o arian anyway achos ma' nhw'n gorfod rhoi lot o bethau yn ei le."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Gall mynd i ffwrdd i'r brifysgol fod yn gyfnod anodd i lawer o fyfyrwyr, ac mae wedi bod yn fwy anodd o ganlyniad i'r amgylchiadau presennol," meddai'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Dywedodd y bydd yr arian yn "helpu prifysgolion i barhau 芒'u r么l bwysig o gefnogi a datblygu ein myfyrwyr".

Heriau'n 'si诺r o godi yn y misoedd nesaf'

Mae'r corff sy'n cynrychioli buddiannau prifysgolion yng Nghymru wedi croesawu'r arian ychwanegol.

"Bydd yn ein helpu ni i reoli'r materion sy'n si诺r o godi yn y misoedd nesaf," meddai Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, Amanda Wilkinson.

"Mae'r pandemig Covid-19 wedi amlygu nifer o heriau y gwyddwn y bydd yn parhau i effeithio ar brifysgolion mewn amryw o ffyrdd.

"Mae diogelwch a lles myfyrwyr yn brif flaenoriaeth i brifysgolion yng Nghymru, ac mae sefydliadau'n cymryd pob cam posib i sicrhau bod y gymuned brifysgol yn cael gwybodaeth dda, yn cael cefnogaeth ac yn ddiogel.

"Yn yr amseroedd heriol yma, mae prifysgolion yn ymroddi i weithio gyda staff a myfyrwyr."

Ffynhonnell y llun, Alamy

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies fod yna groeso i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, ond bod angen i weinidogion ymateb i alwadau am strategaeth i ddiogelu iechyd meddwl myfyrwyr.

Ychwanegodd: "Ddyddiau'n unig cyn cyflwyno cyfnod clo, mae cyflymder y ddarpariaeth nawr yn hanfodol bwysig, gan fod rhaid iddo gyrraedd y rhai mwyaf bregus mewn pryd."

"Pryder arall o bwys mawr i fyfyrwyr," medd llefarydd addysg 么l-16 Plaid Cymru, Helen Mary Jones, "yw a fydden nhw'n gallu mynd adref ar gyfer gwyliau'r Nadolig".

Mae angen "cynllun clir", meddai, "sy'n cynnwys prawf [Covid-19] i bob myfyriwr mewn pryd i gael canlyniad cyn gadael, gyda gorchymyn i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru i hunan-ynysu am bythefnos yn eu cartrefi os ydyn nhw'n cael canlyniad positif".