Stormydd: Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru yn 'annigonol'

Ffynhonnell y llun, @gtfm1079

Disgrifiad o'r llun, Ar frig Storm Dennis roedd 805 metr ciwbig yr eiliad yn llifo drwy Bontypridd - digon i lenwi pwll nofio maint Olympaidd mewn ychydig dros dair eiliad
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd 大象传媒 Cymru

Mae'r corff sy'n gwarchod yr amgylchedd yng Nghymru yn dweud bod gormod o bwysau ar ei adnoddau yn ystod tywydd garw'r gaeaf, a bod ei ymateb i'r llifogydd wedi bod yn "annigonol" mewn rhai ardaloedd.

Yn 么l adolygiad o waith Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fe gafodd rhybuddion llifogydd eu methu ac roedd "cyfyngiadau ar gapasiti" y corff.

Mae'r prif weithredwr yn dweud bod angen "newid seismig" yn y ffordd y mae Cymru'n rheoli llifogydd yn y dyfodol gan alw am fwy o gyllid.

Yn 么l Llywodraeth Cymru doedd dim amheuaeth fod ymateb cyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei hymestyn i'r pen ar draws Cymru a Lloegr o ystyried maint a graddfa eang y llifogydd yn gynharach eleni.

Stormydd - a llifogydd

Ddechrau 2020 fe arweiniodd Stormydd Ciara, Dennis a Jorge at y lefelau uchaf o law a'r llifogydd mwyaf eang yn afonydd Cymru ers 1979.

Fe effeithiwyd ar 3,130 o gartrefi a busnesau yn ystod y cyfnod, sy'n cael ei ystyried gan y Swyddfa Dywydd fel y Chwefror gwlypaf erioed oedd wedi ei gofnodi, a'r pumed mis gwlypaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1862.

Roedd y ffaith ei fod eisoes wedi bod yn aeaf gwlyb iawn yn ffactor allweddol, yn 么l CNC, gyda glaw dwys iawn yn disgyn ar dir oedd eisoes yn wlyb.

Fe gyhoeddodd y corff 242 o rhybuddion i fod yn barod am lifogydd, 181 o rybuddion llifogydd a 6 rhybudd difrifol.

Yn 么l pedwar adroddiad - sydd wedi'u hadolygu'n annibynnol - roedd penderfyniadau a gweithredoedd staff y corff wedi chwarae rhan sylweddol wrth leihau'r hyn a allai fod wedi arwain at effeithiau mwy difrifol ledled Cymru.

Ond daeth yr ymchwil i'r casgliad nad oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yr adnoddau i gyfateb 芒 maint y digwyddiad a'i arwyddoc芒d.

"O ganlyniad, nid oedd lefel y gwasanaeth yr oedden yn gallu ei ddarparu yn gyfartal 芒'r hyn oedd nifer yn ei ddisgwyl," medd yr adolygiad.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Disgrifiad o'r llun, Fe welwyd llifogydd, fel yma yn Nantgarw, ar draws Rhondda Cynon Taf ddiwedd mis Chwefror

Roedd diffygion yn y system rhybuddio llifogydd - gyda 12 rhybudd wedi'u methu'n gyfan gwbl a chwech wedi'u cyhoeddi'n hwyr.

Yn ogystal roedd yna broblemau gyda staffio, yn enwedig y tu allan i oriau gwaith arferol, er mwyn gallu ymateb i lifogydd, gweithio gyda phartneriaid a chasglu data a gwybodaeth allweddol.

Mae newidiadau'n cael eu hargymell yn yr adroddiadau ar 么l i rai cymunedau honni bod achosion lle roedd CNC wedi torri coed ar eu tir wedi gwaethygu'r perygl o lifogydd.

Ond mae'r corff yn dod i'r casgliad na fyddai hynny wedi cael effaith adeg stormydd mis Chwefror gan fod y glawiad mor eithriadol.

Daw'r adroddiad i'r casgliad bod angen gwneud penderfyniadau anodd am lefel y gwasanaeth sy'n "ymarferol a'n realistig" a'r buddsoddiad fyddai ei angen i gyflawni hyn.

Byddai angen 60-70 o staff llawn amser ychwanegol i weithio yn yr adran lifogydd er mwyn cynnal y gwelliannau sy'n cael eu hargymell.

"Er mwyn dysgu gwersi o lifogydd fis Chwefror, mae angen rhoi ystyriaeth sylfaenol i'r dewisiadau sydd gyda ni fel cymdeithas, llywodraethau a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eraill - ar y modd i reoli risgiau," meddai'r adroddiad.

Pa mor wael oedd y stormydd?

Fe gofnododd 22% o fesuryddion afonydd CNC eu lefelau d诺r uchaf erioed yn ystod Storm Dennis, ystadegyn "trawiadol sy'n dangos arwyddoc芒d y digwyddiadau", yn 么l yr adolygiad.

Fis Chwefror 2020 roedd glaw a llifau afon yn torri record ledled Prydain, gyda'r Swyddfa Dywydd yn ei nodi fel y mis Chwefror gwlypaf erioed a'r pumed mis gwlypaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1862.

Tra yr oedd Storm Dennis ar ei gwaetha, fe gyrhaeddodd Afon Taf ym Mhontypridd ei lefel uchaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1968.

Ar frig y storm ar Chwefror 15, roedd 805 metr ciwbig yr eiliad yn llifo drwy Bontypridd - digon i lenwi pwll nofio maint Olympaidd mewn ychydig dros dair eiliad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd difrod mawr yng Nghrucywel pan orlifodd Afon Wysg

Ar hyd Afon Wysg, cofnodwyd lefel uchaf yr afon ers 1994 yn ardal Llan-ffwyst, gan gyrraedd 5.6m ar ei anterth.

Yn ystod Storm Ciara roedd lefel Afon Elwy yn Llanelwy ar ei uchaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1974. Roedd hyn yn uwch na mis Tachwedd 2012 pan gafwyd llifogydd mawr yn yr ardal gan ddangos y manteision wedi buddsoddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn amddiffynfeydd yn Llanelwy.

Yn 么l data awdurdodau lleol, fe ddioddefodd 3,130 eiddo ledled Cymru o lifogydd o ganlyniad i stormydd fis Chwefror.

Cafodd 224 o dai eu heffeithio yn ystod Storm Ciara, 2,765 yn ystod Storm Dennis a 141 yn ystod Storm Jorge.

Fe gafodd y nifer fwyaf o rybuddion eu cyhoeddi mewn un tro gan CNC yn ystod Storm Dennis - 65 rhybudd i fod yn barod am lifogydd, 89 rhybudd llifogydd a phedwar rhybudd llifogydd difrifol.

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, y dylai llifogydd fis Chwefror gael eu hystyried fel digwyddiad arwyddocaol.

"Mae dwyster stormydd y gaeaf yn rhybudd o'r tywydd eithafol i ddod, ac mae'n rhaid i'r gwersi sy'n cael eu dysgu danio'r trafodaethau am y buddsoddiadau sydd eu hangen, a'r paratoadau y mae angen i bob un ohonom eu gwneud i addasu i newid hinsawdd a chryfhau gwydnwch Cymru am flynyddoedd i ddod.

Ychwanegodd bod y corff yn cymryd canlyniadau'r adolygiadau o ddifrif, gan dderbyn yr argymhellion i wella'r gwasanaeth.

"Ond mae'n amlwg bod gwersi i'w dysgu a gwelliannau i'w gwneud ar gyfer pob corff sy'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd yng Nghymru," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym drefniadau ymateb brys gyda sawl asiantaeth wedi'u trefnu yn dda, ond heb os, roedd yr ymateb wedi'i ymestyn i'r pen ar draws Cymru a Lloegr o ystyried maint a graddfa eang y llifogydd yn gynharach eleni.

"Ers mis Chwefror, mae CNC wedi cynnal adolygiad trylwyr o'u hymateb i nodi gwelliannau i amddiffynfeydd llifogydd a gwasanaethau rhybuddio llifogydd.

"Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr 芒 CNC, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i leihau'r risg ymhellach i'n cymunedau rhag llifogydd a'r dinistr a ddaw yn sgil hyn."