大象传媒

Nifer 'digynsail' o geisiadau i'r gronfa llawrydd

  • Cyhoeddwyd
Geraint RhysFfynhonnell y llun, Geraint Rhys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r canwr a chyfansoddwr Geraint Rhys yn aros am ganlyniad ei gais am grant

Mae nifer digynsail o geisiadau wedi eu derbyn ar gyfer arian o'r gronfa 拢7m i gefnogi gweithwyr llawrydd, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae'r gronfa yn agored i unrhyw un a oedd yn gweithio yn y celfyddydau ac sy'n profi caledi ariannol neu yn colli incwm oherwydd coronafeirws.

Mae grant o hyd at 拢2,500 ar gael ac roedd gweithwyr llawrydd yn gorfod gwneud cais drwy eu cynghorau sir lleol.

Caeodd yr ail o'r ddwy rownd ariannu wythnos yn 么l.

Wrth siarad 芒 rhaglen Post Cyntaf 大象传媒 Radio Cymru dywedodd y canwr a'r cyfansoddwr o Abertawe, Geraint Rhys, ei fod yn aros nawr i glywed a yw e wedi bod yn llwyddiannus.

Yn y cyfamser mae e wedi cymryd swydd dros dro i drio cael dau ben llinyn ynghyd, a bellach yn dosbarthu papurau newydd ben bore.

Ffynhonnell y llun, Geraint Rhys
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Geraint Rhys wedi gwneud cais i'r gronfa, ond mae'n pryderu nad yw'r gofynion yn adlewyrchu bywyd y diwydiant llawrydd

"Fi yn codi am dri y bore," meddai, "[achos] yn amlwg ar hyn o bryd mae gweithio yn y celfyddydau ddim yn dod 芒 digon o arian mewn, felly ma' rhaid cael swyddi erill.

"Fi yn dreifio ceir a dosbarthu papurau peth cynta' yn y bore, a fi yn gorffen gwaith tua 8. Wedyn am weddill y dydd fi yn trio gneud mwy gyda gwaith ffilm a cherddoriaeth.

"Mae y swydd ben bore yma ond wedi dechre ers Covid, felly fi wedi gorfod addasu o ran beth yw sgiliau fi a be fi di bod yn g'neud ers blynyddoedd."

Mae Mr Rhys wedi cyflwyno ffurflen yn gofyn am help gan y gronfa i gefnogi gweithwyr llawrydd, ond mae yn gofidio nad yw gofynion y system grantiau bob amser yn adlewyrchu bywyd a gwaith artistiaid llawrydd.

"Ma' rhai grantiau ar gael ond efallai bo' nhw ddim digon hyblyg i adlewyrchu bywyd pob dydd artistiaid," meddai.

"Weithie mae grantiau yn gofyn i chi roi tystiolaeth o waith chi di colli, ond oherwydd bod bywyd fel artist yn fregus mae yn anodd rhoi y tystiolaeth yma achos chi ddim wastad yn gwybod pryd ma gwaith yn dod mewn."

O ystyried y pwysau sy' ar weithwyr llawrydd ym myd y celfyddydau ar y funud gyda chanolfannau perfformio ar gau, sut mae'n gweld y dyfodol ac a yw'n poeni y gallai rhai o'i gyda artistiaid droi cefn ar y proffesiwn?

"Gobeithio ddim ond mae yn dibynnu ar yr unigolyn. Fi yn berson creadigol, s'dim ots gyda fi be fi neud, i fi mae creu yn holl bwysig i mywyd i a s'dim ots gyda fi os ydw i yn neud arian mas o fe neu beidio.

"Ond yn bendant i'r diwydiant trwy Gymru a'r gwasanaethau mae'r celfyddydau yn darparu, os ydyn nhw yn lleihau bydd y cyfleon i gael mynediad i'r celfyddydau yn lleihau hefyd.

"Yn gyffredinol bydd hi yn anoddach i bobol gael mynediad i'r celfyddydau, ac os yw yr arian yn lleihau bydd y cyfleoedd yn lleihau."