大象传媒

Kirsty Williams i sefyll lawr fel Aelod o'r Senedd yn 2021

  • Cyhoeddwyd
KWFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kirsty Williams wedi cynrychioli ei hetholaeth ers dros 20 mlynedd

Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams wedi datgan na fydd hi'n sefyll yn etholiad Senedd Cymru y flwyddyn nesaf.

Mae'r Aelod o'r Senedd dros y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynrychioli Brycheiniog a Sir Faesyfed ers 1999.

Bu'n arweinydd ei phlaid yng Nghymru rhwng 2008 a 2016.

Cafodd ei phenodi fel gweinidog addysg yng nghabinet Llywodraeth Cymru yn 2016.

"Ar 么l cryn dipyn o feddwl a myfyrio, rwyf wedi penderfynu peidio 芒 sefyll fel ymgeisydd yn etholiad nesaf y Senedd," meddai.

"Mae yna dristwch, wrth gwrs, wrth wneud y penderfyniad hwn, ond hefyd ymdeimlad o gyflawniad a balchder.

"Rwy'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm r么l ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda fy olynydd i sicrhau bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dychwelyd llais Democratiaid Rhyddfrydol Cymru."

Roedd Ms WIlliams, sy'n 49 oed, hefyd yn gadeirydd y pwyllgor iechyd yn y Cynulliad cyntaf rhwng 1999 a 2003.

'Colled enfawr'

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Bydd penderfyniad Kirsty i beidio 芒 sefyll ym mis Mai yn golled enfawr - nid yn unig yn Llywodraeth Cymru ond yn y Senedd ac ym mywyd gwleidyddol Cymru.

"Rwyf mor falch bod ei thymor olaf fel AS wedi cael ei dreulio fel gweinidog ac fel aelod o Lywodraeth Cymru.

"Rhaid i ni wneud y gorau o'i thalentau tra ei bod hi'n dal i fod mewn llywodraeth, oherwydd byddwn ni'n gweld ei heisiau'n fawr pan fydd hi'n symud ymlaen i heriau a phosibiliadau newydd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Kirsty Williams wedi wynebu cyfnod heriol fel gweinidog addysg yn ystod cyfnod y pandemig

Dywedodd Paula Yates, Llywydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae Kirsty wedi bod yn hyrwyddwr etholaeth eithriadol i Frycheiniog a Sir Faesyfed am yr 21 mlynedd diwethaf.

"Nid oes stryd na phentref lle nad yw rhywun yn adnabod rhywun sydd wedi cael cymorth personol gan Kirsty dros y blynyddoedd."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian: "Mae ei chyfraniad i'r Senedd wedi bod yn arwyddocaol, yn enwedig y gwaddol y mae'n gadael wrth sicrhau bod lleisiau merched yn cael eu clywed yn glir o'r cychwyn, a hyn i gyd tra'n magu teulu!

"Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Kirsty Williams - mae ei chadernid ac angerdd am addysg yn disgleirio, ac rwy'n diolch iddi am ei chwrteisi a pharodrwydd i wrando yn ein holl drafodaethau am addysg."