´óÏó´«Ã½

S4C yn cydnabod bod angen gwella amrywiaeth

  • Cyhoeddwyd
Imran
Disgrifiad o’r llun,

Mae Imran Nathoo wedi trafod ei bryderon gyda S4C

Mae angen i S4C wella amrywiaeth ei rhaglenni i adlewyrchu holl gymunedau Cymru.

Dyna'r alwad gan riant sy'n feirniadol o ddiffyg cymeriadau a chyflwynwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ar wasanaeth Cyw.

Mae S4C ar fin penodi swyddog gyda chyfrifoldeb am wella amrywiaeth, ac mae'r prif weithredwr yn cydnabod bod problem gan y sianel.

Mae Imran Nathoo o Gaerdydd wedi beirniadu diffyg amrywiaeth y sianel, ac wedi cwrdd ag S4C i drafod y mater.

Mae ei wraig a'i ddau blentyn ifanc yn siarad Cymraeg, ac fe wnaeth twf mudiad Black Lives Matter eleni ei arwain i gwestiynu'r hyn oedd y teulu'n gwylio ar Cyw.

Dywedodd Mr Nathoo: "Am y tro cyntaf, wrth graffu ar y rhaglenni sydd ar Cyw, sylweddolais nad oes neb yna sy'n edrych fel fi, fel rhywun sydd yn dad i ddau blentyn sy'n siarad Cymraeg.

"Os nad ydych chi'n adlewyrchu beth mae'r Cymry gyfoes yn edrych fel, yna mae yna broblem.

"Mae'n bwysig achos dwi am i'm mhlant weld pobl fel fi. Ond dwi hefyd eisiau i bobl mewn ardaloedd Cymru nad sy'n amrywiol o ran ethnigrwydd i allu gweld pobl o wahanol cefndiroedd, o hiliau gwahanol, ar raglenni teledu.

"Mae hynny'n bwysig er mwyn gwella agweddau wrth symud i'r dyfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Owen Evans ei bod hi'n bwysig iddo bod mwy o amrywiaeth ar y brif sianel

Mae gwasanaeth Stwnsh i bobl ifanc wedi darparu cynnwys i nodi mis hanes pobl du, ac mae S4C ar fin penodi swyddog gyda chyfrifoldeb dros hybu amrywiaeth.

Ond mae prif weithredwr S4C, Owen Evans, yn cydnabod bod yna broblem.

"Os edrychi di ar Hansh, 'da ni wedi gwneud lot gyda Hansh i gael pobl mewn er mwyn gwneud hi llawer yn fwy amrywiol nag oedd hi yn y gorffennol," meddai.

"O'n i'n gwylio pobl o Jukebox yn dawnsio ar Stwnsh. Ac ar Hansh dyw e ddim yn sioc i weld wyneb sydd ddim yn wyn.

"Mae'n really bwysig ein bod ni yn cael mwy o bobl amrywiol ar y brif sgrin. Achos os nad yw pobl yn gweld pobl fel ni, neu, chi, ar y sgrin, yna dydyn nhw ddim yn meddwl fydden nhw'n cael y siawns i fod yn actor, neu i fod ar y teledu."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.
Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan S4C Stwnsh

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r ´óÏó´«Ã½ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan S4C Stwnsh

Mae hynny'n syniad cyfarwydd i'r cyflwynydd Ameer Davies-Rana.

Wrth iddo ddechrau gyrfa ym maes cyfryngau, mae'n dweud bod gweld lliwiau croen gwahanol ar y sgrin yn bwysig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ameer Davies-Rana yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Hansh

"I fi, fe fydde fe wedi bod yn ideal iawn i weld rywun o Bacistan yn cyflwyno. Ond dydw i byth wedi gweld hwnna wrth dyfu lan," meddai.

"Wrth gwrs dwi wedi cael blas o'r cyfryngau, ac wedi datblygu o fan'na.

"A gyda'r gwaith dwi'n gwneud mewn ysgolion mae plant eraill yn cael y cyfle i weld fi yn gwneud y gwaith yma.

"Pan o'n i'n blentyn fyddwn i wedi dwli gweld pobl fel fi yn gweithio yn y cyfryngau, ddim hyd yn oed yn cyflwyno."