大象传媒

Lle i enaid gael llonydd: Ryland Teifi

  • Cyhoeddwyd
Ryland TeifiFfynhonnell y llun, Ryland Teifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ryland Teifi gyda An Cuinigear yn y cefndir

Mae'r actor a'r cerddor Ryland Teifi yn byw gyda'i deulu yn An Rinn yn Iwerddon - ardal Wyddeleg ei hiaith yn ne ddwyrain y wlad. Yma mae'n trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddo, a'r olygfa sy'n ei atgoffa o'i gartref yng Nghymru:

'Wi'n hoffi cerdded. Ry' ni 'di bod yn ffodus yn ystod y pandemig ein bod yn byw yng nghefn gwlad. Mae'n llawer gwaeth i'r rheiny sydd yn byw mewn dinasoedd ac yn methu cyrraedd mannau agored.

Rwy'n byw yng Ngaeltach An Rinn yng nghalon ardal y D茅ise yn sir Port L谩irge (Waterford) yn Iwerddon. Mae'n benrhyn sy'n llawn llecynnau creigiog a thraethau di-ri. Un o'r rhai prydferthaf yw traethell An Cuinigear (Cunnigar) sy'n ymestyn fel braich hir 2km o hyd i ganol bae Dungarvan ac yn cwrdd ag aber yr afon Colligan.

Daw'r enw o'r enw Gwyddelig coin铆n sef cwningen ac fel mae'r enw'n awgrymu, mae'n frith o'r creaduriaid bach sydd i'w gweld yn gwibio dros y twyni a rhwng y gors. Mae An Cuinigear wedi fframio gan fynyddoedd y Comeragh i'r gogledd a phenrhyn An Rinn sy'n codi'n wych yn Ceann Heilbhic (Helvick) cyn cwrdd 芒 m么r yr Atlantig.

'Teimlo yng nghanol y byd'

Mae'n le arbennig i mi. Wrth gerdded ar hyd y tywod, rwy'n teimlo fy mod yng nghanol y byd.

Mae'r mynyddoedd a'r penrhyn yn creu teimlad fel eich bod mewn bowlen enfawr a'r m么r yn siglo yn ei ganol. Dyma fan i gael llonydd a thawelwch meddwl. Mi fyddwn fel teulu yn ei gerdded yn aml. Mae'n dro lle mae sgyrsiau'n digwydd, problemau'n cael eu datrys a syniadau'n dod i'r meddwl. Mae'n le ysbrydoledig.

Mae'r awr o daith yn aml yn fath o therapi lle mae annibendod y byd a'r pen yn cael ei glirio gan yr awel ffres.

Ffynhonnell y llun, Ryland Teifi
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ryland Teifi gyda'i deulu yn 2017

Unwaith, 'wy'n cofio dysgu c芒n ar hyd y daith. Roeddwn yn paratoi ar gyfer ein sioe newydd, Clancy's Kitchen, ac roeddwn yn ceisio dysgu geiriau rhyw alaw werin Wyddeleg. Ar ddechrau'r daith roedd y penillion yn drwsgwl a lletchwith, ond ar 么l awr o ganu a cherdded i rhythm y g芒n, fe ddaeth yn rhan ohona i.

Clecian y cregyn dan draed fel metron么m i'r alaw a'r gwynt yn cario'r g芒n i'r m么r.

Man rhydd yw An Cuinegar, fel gardd arall i ni fel teulu. Rwy' di gweld fy merched Lowri, Cifa a Myfi'n tyfu wrth gerdded ar hyd y tywod a'r sgyrsiau gyda fy ngwraig R贸is铆n yn atsain dros y blynyddoedd.

Mae'r mynyddoedd yn fy atgoffa o Gymru, a'r m么r yn borth rhwng y tir sy'n fy atgoffa o fy nghartref arall dros y don.

Hefyd o ddiddordeb: