大象传媒

5 o eiriau cysurus yr hydref

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Ann Parry OwenFfynhonnell y llun, Ann Parry Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr Athro Ann Parry Owen

Wrth i'r dail droi'n lliwiau moethus, dyma bum gair i'ch cysuro, eich cynhesu a'ch difyrru. Yr Athro Ann Parry Owen, sy'n Olygydd H欧n gyda sydd wedi eu dewis ac yn esbonio eu tarddiad.

Cafodd lluniau'r delweddau eu tynnu gan Elin Vaughan Crowley.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

脗'r tywydd yn oeri a'r nosweithiau'n prysur dynnu i mewn, does dim yn well na theimlo'n ddiddos, yn gysurus a chlyd, o flaen tanllwyth o d芒n.

Ond a wyddech chi mai ystyr sylfaenol y gair diddos yw sych, a diogel rhag unrhyw dd诺r yn gollwng? Dyma'r elfen gyntaf yn y gair diddosben, gair a fathodd un o eiriadurwyr y 18fed ganrif am ddilledyn i gadw'r pen yn sych, er mwyn osgoi defnyddio'r gair o dras Saesneg, het!

Mae diddos yn gyfuniad o'r elfen di- 'heb' a dos 'dafn o dd诺r, diferyn o law', hen air nad ydan ni'n ei ddefnyddio bellach. Ganrifoedd yn 么l, ymffrostiodd y bardd-ddewin Taliesin, a allai newid ei ffurf fel y mynnai - B没m dos yng nghawad - hynny ydi, bu'n ddafn o law mewn cawod.

Erbyn heddiw mae diddos wedi dod i olygu clyd a chysurus yn gyffredinol, ac mae'r cysylltiad 芒 d诺r wedi diflannu bron yn llwyr.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Mae rhywbeth am s诺n y gair tanllwyth sydd fel petai'n ein lapio ni mewn cynhesrwydd. Ond wrth i'r hen lefydd t芒n gael eu newid am systemau gwresogi hwylusach a glanach, mae hen eirfa ac arferion canrifoedd yn prysur fynd yn angof: fel gwneud t芒n oer am baratoi'r t芒n o flaen llaw ond heb ei gynnau; casglu gleuad, sef tail gwartheg wedi sychu'n grimp a ddefnyddid i gynnau t芒n; neu'r hen arfer o anhuddo t芒n, sef ei orchuddio 芒 lludw cyn mynd i'r gwely, a thynnu'r lludw ymaith yn y bore, ei ddadanhuddo, fel bod y t芒n yn ailddeffro.

Hen lefydd t芒n y gorffennol sydd hefyd yn esbonio'r ddihareb Cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn fod. Does wnelo'r ddihareb ddim byd 芒 chywion bach drwg yn cambihafio! Uffern oedd yr enw am y lle gwag o dan neu o flaen yr hen d芒n agored erstalwm, lle casglai'r lludw - y llutu neu'r lliti yn iaith Morgannwg - sef y lle cynnes a braf y byddai'n anodd iawn i unrhyw gyw bach gwantan ymadael ag ef ar 么l cael ei roi yno i gryfhau! (Ac, wrth gwrs, ergyd ehangach y ddihareb yw mai anodd iawn gan bawb ohonom yw rhoi heibio pleserau bywyd ar 么l arfer gyda nhw.)

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

'Lladdfa' yw ystyr sylfaenol y gair tachwedd, ac roedd yn air cyffredin erstalwm am laddfa ar faes brwydr. Ond pam galw mis yn dachwedd neu'n lladdfa yn Gymraeg, ac yn yr un modd yn slachtmaand (slaughter month) mewn Iseldireg? Cawn gliw yn y cwpled hwn mewn cerdd o'r 16ed ganrif, sy'n disgrifio mis Tachwedd:

Mis Tachwedd, tuchan merydd,

Bras llydnod, llednoeth coedydd.

Mewn geiriau eraill, mis Tachwedd pan fo'r diogyn (y merydd) yn tuchan ac yn cwyno (gan ei bod hi'n rhy oer a diflas i weithio y tu allan); pan fo'r llydnod, sef y lloi, yr 诺yn a'r moch ifanc wedi pesgi; a phan fo'r coed mwy neu lai'n noeth heb ddail, neu wedi almarchu, a defnyddio hen air am goed yn diosg eu dail. Y cliw yw bras llydnod: dyma'r mis pan g芒i'r anifeiliaid pasgedig eu lladd i ddarparu bwyd ar gyfer y gaeaf hir i ddod.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Dyma air rydan ni'n ei gysylltu'n benodol erbyn hyn 芒 noson Guto Ffowc, pan fydd y pentre neu'r ardal gyfan yn hel o gwmpas coelcerth i fwynhau gweld y t芒n yn gwreichioni a'r t芒n gwyllt yn cael eu tanio. Ond roedd y goelcerth yn gysylltiedig 芒'r adeg hon o'r flwyddyn yng Nghymru ganrifoedd lawer cyn i ni ddechrau dathlu cais aflwyddiannus yr hen Guto i chwythu Senedd Lloegr yn deilchion.

Roedd cynnau'r goelcerth yn un o'r nifer o draddodiadau cysylltiedig 芒 Noswyl yr Holl Saint neu noson Calan Gaeaf, ac roedd pob math o goelion yn gysylltiedig 芒 hi - fel yr arfer o daflu cerrig i'r t芒n, pob un yn taflu carreg a'i enw arni, cyn dychwelyd fore trannoeth i chwilio am ei garreg ymysg y lludw. Doedd pethau ddim yn argoeli'n dda o gwbl i'r sawl na fedrai ddod o hyd i'w garreg ei hun!

Yn wir argoel neu arwydd (coel) sicr (certh) yw ystyr sylfaenol coelcerth, ac mae'n bosibl i ofergoelion fod yn rhan o'i hanes erioed.

Ffynhonnell y llun, Elin Vaughan Crowley

Mae'r cyflenwad gwych o wreiddlysiau a welir yn y siopau ar hyn o bryd, yn foron, panas, swej, rwdin, ac ati, yn ddigon o arwydd ein bod ni wedi glanio dros ein pennau a'n clustiau yng nghanol tymor lobsgows neu gawl. Lobsgows, wrth gwrs, yw'r fersiwn gogleddol, ac mae fel arfer yn cynnwys cig oen (weithiau cig eidion), oni bai ei fod yn droednoeth, ac felly ddim yn cynnwys cig o gwbl.

Cysylltir y gair yn draddodiadol 芒 phorthladd Lerpwl, a'r ail elfen sgows yr un gair 芒'r Saesneg scouse, y gair ar lafar i ddisgrifio rywun sy'n hanu o Lerpwl. Mae'n debygol iawn mai gair o dras Sgandinafaidd yw lobsgows, a'i fod yn gysylltiedig 芒 lapskaus, saig hynod o debyg sy'n boblogaidd yn Norwy.

Cig eidion a geir gan amlaf yng nghawl y de (weithiau cig oen), ac mae hanes y gair hwn eto'n ddiddorol. Yr un gair yn y pendraw yw cawl 芒 kale ac elfen gyntaf coleslaw, a oedd yn golygu bresych yn wreiddiol, cyn datblygu i olygu llysiau yn fwy cyffredinol. Yr un gair a welir hefyd yn yr enw Porth-cawl, enw sy'n awgrymu i'r porthladd hwnnw fod yn llawn cawl, neu fresych y m么r, sea kale, ar un adeg yn ei hanes!

Hefyd o ddiddordeb: