Dylanwad y Gymraeg wrth ethol Arlywydd UDA
- Cyhoeddwyd
Mae dipyn o drafod wedi bod yn y cyfryngau Cymraeg yn ddiweddar yngl欧n ag ymgyrchoedd etholiadol Joe Biden a Donald Trump, ond mae'n werth cofio cyfnod pan oedd gwleidyddiaeth yn cael ei thrafod yn yr Unol Daleithiau trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Yr Athro Jerry Hunter sydd wedi cymryd golwg ar y defnydd o iaith yr hen wlad yn rhai o etholiadau Arlywyddol y gorffennol, a holi pa wahaniaeth wnaeth y bleidlais Gymraeg mewn gwirionedd:
Roedd dros 45,000 o fewnfudwyr o Gymru yn byw yn yr Unol Daleithiau erbyn 1860, ond gan fod llawer o deuluoedd yn magu'u plant yn Gymraeg, roedd y boblogaeth Americanaidd a siaradai'r iaith yn uwch o lawer, ac o bosibl yn uwch na 100,000.
Eto, dros 30 miliwn oedd poblogaeth y wlad yn 1860, ac felly lleiafrif fach oedd yr Americanwyr Cymraeg hyn.
Cynhaliwyd etholiad arlywyddol yn ystod y flwyddyn honno, 1860, ac Abraham Lincoln oedd ymgeisydd plaid newydd, y Gweriniaethwyr. Dyna'r ail dro yn unig i Weriniaethwr gystadlu am yr arlywyddiaeth.
Cefnogaeth Gymraeg i'r Gweriniaethwr cyntaf
John C. Fr茅mont oedd ymgeisydd y Gweriniaethwyr ym 1856, ac unodd trwch gwasg gyfnodol Cymraeg y wlad - sef, y papur wythnosol, Y Drych, a'r misolion swmpus, Y Cyfaill o'r Hen Wlad, Y Cenhadwr Americanaidd ac Y Seren Orllewinol - y tu 么l i'r blaid newydd, a hynny'n bennaf am ei gwrthwynebiad i gaethwasiaeth.
Gan fod y wasg Gymraeg Americanaidd mor gefnogol i Fr茅mont, aeth rhai Democratiaid ati i gynhyrchu cyhoeddiad Cymraeg er mwyn cefnogi'u hymgeisydd nhwythau, James Buchanan. Ac felly ymddangosodd Y Gwron Democrataidd lai na wythnos cyn diwrnod yr etholiad. Pamffled bropagandyddol yn cogio'i bod hi'n bapur newydd oedd y Gwron.
Fe ymddengys na lwyddodd i wrthweithio cefnogaeth cyfnodolion Cymraeg mwy praff i Fr茅mont, ond enillodd Buchanan yn hawdd ac nid oedd y lleiafrif Gymraeg yn ffactor o bwys.
Y Gymraeg yn etholiadau 1860 ac 1872
Yn ogystal 芒'r ffaith bod y wasg gyfnodol Gymraeg yn gefnogol iawn i'r Gweriniaethwyr eto yn 1860, cynhyrchwyd pamffled swmpus i'w dosbarthu mewn cymunedau Cymraeg yn ystod yr ymgyrch gan David C. Davies.
Argraffydd proffesiynol yn Utica, swydd Oneida, Efrog Newydd oedd Davies; deuai nifer o gyhoeddiadau Cymraeg o'i argraffdy, gan gynnwys rhai o brif gyfnodolion Cymraeg y wlad, Y Drych, ac Y Cyfaill o'r Hen Wlad.
Mae teitl hir y bamffled a gyhoeddodd i hybu ymgyrch Lincoln yn crynhoi'i chynnwys amrywiol:
Hanes Bywyd Abraham Lincoln . . . a Hannibal Hamlyn . . . Yr Ymgeiswyr Gwerinol am yr Arlywyddiaeth a'r Is-Lywyddiaeth; Yn Nghyd A'r Araeth a Draddododd Mr. Lincoln . . . Yr Esgynlawr Gwerinol, yn nghyd a Chan Etholiadol.
Yn 么l Davies ei hun, argraffwyd 50,000 o gop茂au.
Mae'n debyg bod nifer o bamffledi gwleidyddol Cymraeg yr Unol Daleithiau wedi diflannu gyda threigl amser, ond mae un a gynhyrchwyd yn ystod etholiad 1872 wedi goroesi.
Ymgeisydd y Gweriniaethwyr oedd yr Arlywydd presennol, y cyn-gadfridog Ulysses S. Grant, ond roedd adain o'r blaid wedi ymneilltuo a ffurfio plaid arall a ymunodd 芒'r Democratiaid i enwebu Horace Greeley.
Er bod cyhuddiadau o lygredd a methiant wedi britho pedair mlynedd gyntaf Grant yn y T欧 Gwyn, cefnogi ei ymgyrch am dymor arall oedd nod y bamffled Gymraeg, Etholiad Arlywyddol 1872. Grant vs. Greeley.
Mae'n agor anerchiad 'At y Cymry' sy'n '[g]ofyn am eu cydweithrediad i sicrhau etholiad y Cadfridog U. S. Grant'. Fe'i cyhoeddwyd ar wasg papur newydd Cymraeg bach, Baner America, yn Scranton, Pennsylvania.
Dylanwad pleidlais y Cymry
Er bod Americanwyr Cymraeg yn lleiafrif mor fach mewn gwlad mor fawr, a yw'n bosibl bod deunydd Cymraeg wedi effeithio ar ganlyniad etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau? O bosibl.
Y Democrat James K. Polk a'r Chwig Henry Clay oedd y ddau brif ymgeisydd ym 1844, ond roedd James Birney yn sefyll hefyd, a hynny'n enw plaid wrth-gaethiwol, y Liberty Party.
Bu'r Parchedig Robert Everett, gweinidog yn swydd Oneida, Efrog Newydd, wrthi'n hyrwyddo 'Plaid Rhyddid', fel y gelwai ef y blaid fach newydd. Ac yntau'n olygydd ar fisolyn Annibynwyr Cymraeg America, Y Cenhadwr Americanaidd, cyhoeddai ysgrifau yn annog darllenwyr i bleidleisio 'dros ryddid' a Birney.
Buasai'r rhan fwyaf o'r Cymry Americanaidd hyn yn cefnogi'r Chwigiaid yn y gorffennol, ac felly ceisiai Chwigiaid Cymraeg eu hadennill trwy gyhoeddi pamffled Gymraeg, Caethwasanaeth Americanaidd, a'r Gwrthgaethiwedyddion Politicaidd.
Y bwriad oedd eu darbwyllo y gallent wrthwynebu caethwasiaeth a phleidleisio dros y Chwigiaid ar yr un pryd yn hytrach na dilyn Everett a radicaliaid eraill i gorlan y Liberty Party.
Yn ogystal, argraffwyd pamffled arall - a gogiai'i bod hi'n 'bapur' - rai wythnosau cyn etholiad 1844, Seren Oneida, a hynny er mwyn ymosod ar y Parchedig Everett a'i gefnogwyr yn fwy uniongyrchol a phardduo Plaid Rhyddid yn gyffredinol.
Fe ymddengys fod ymdrechion y Chwigiaid Cymraeg hyn wedi methu.
Roedd niferoedd uchel o Americanwyr Cymraeg swydd Oneida ymysg y 15,812 o drigolion yn nhalaith Efrog Newydd a bleidleisiodd dros Birney ym 1844. Dim ond 2.3% o'r bleidlais genedlaethol a enillodd 'Plaid Rhyddid', ond roedd y niferoedd a enillodd Birney yn Efrog Newydd yn ddigon i roi'r dalaith honno i'r Democrat James Polk, a enillodd tua phum mil pleidlais yn fwy na'r hyn a gafodd y Chwig Henry Clay.
Hi oedd y dalaith fwyaf poblog ar y pryd, ac felly roedd y 36 pleidlais a roddodd Efrog Newydd i Polk yn y Coleg Etholiadol wedi bod yn allweddol i'w fuddugoliaeth.
Hefyd o ddiddordeb: